Pedwar yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid cludo pedwar o bobl i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad "difrifol" ar yr M4 yn ardal Casnewydd.
Roedd car a fan yn rhan o'r gwrthdrawiad, a ddigwyddodd tua 13:45 a bu'n rhaid torri'r cleifion o'r cerbydau.
Bu'n rhaid cau'r draffordd yn gyfan gwbl am gyfnod rhwng Cyffordd 28, Parc Tredegar a Chyffordd 30, Porth Caerdydd, ac roedd yna oedi i deithwyr o ganlyniad.
Mae lôn ddwyreiniol y ffordd wedi ailagor erbyn hyn, ond mae traffig yn dal yn drwm yn yr ardal.
Cafodd pum ambiwlans, tri chriw tân, un cerbyd ymateb cyflym a dau ambiwlans awyr eu danfon mewn ymateb i'r digwyddiad.
Bu'n rhaid i gwmni Newport Bus addasu'r gwasanaeth X30 i deithwyr a bu'n rhaid i gwmni Stagecoach ganslo'i wasanaeth X3.