Dwy driniaeth i achub bywyd babi chwe mis oed o Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni i fabi chwe mis oed sydd wedi derbyn dwy driniaeth ar ei galon yn codi arian i elusen sy'n trin plant â chyflyrau tebyg mewn gwledydd llai datblygedig.
Cafodd Lincoln Edwards o Wrecsam ei eni gyda chyflwr ar y galon ac roedd angen triniaeth arno i helpu llif y gwaed.
13 diwrnod ar ôl cael ei eni, cafodd Lincoln lawdriniaeth i achub ei fywyd.
Bellach, mae'n gwella wedi ail lawdriniaeth a dderbyniodd fis diwethaf gan Dr Ramana Dhannapuneni yn Ysbyty Plant Alder Hey, Lerpwl.
Nawr, mae ei rieni, Georgia Struthers, 22, a Kallum Edwards, 24, yn frwd dros achub bywydau plant eraill a helpu rhieni llai ffodus mewn gwledydd dramor.
Mae'r cwpwl wrthi'n codi arian i'r elusen y mae Dr Dhannapuneni yn gweithio iddi - Healing Little Hearts.
Ers 2007, mae'r elusen wedi rhoi mwy na 2,200 o lawdriniaethau i blant ar draws 14 o wledydd yn Affrica ac Asia, lle mae triniaeth yn aml yn ddrud neu ddim ar gael o gwbl.
Mae doctoriaid a nyrsys yno yn gweithio heb dâl yn eu hamser hamdden.
Dywedodd mam Lincoln, Ms Struthers, bod cyfrannu tuag at un o brosiectau tramor yr elusen yn ffordd addas o ddiolch i Dr Dhannapuneni.
"Ry'n ni eisiau i'r plant hynny gael yr un cyfle ag y mae Lincoln wedi'i gael," dywedodd.
"Os oedd yr esgid ar y droed arall a mai ni fyddai yn eu sefyllfa nhw, fydden i byth wedi gallu fforddio triniaeth i Lincoln.
"Heb hynny, fyddai ganddo ddim siawns i gael bywyd a fyddai e ddim gyda ni."
Mae Dr Dhannapuneni newydd ddychwelyd o Namibia, lle cafodd 10 o blant lawdriniaeth o fewn cyfnod o bump diwrnod.
Dywedodd fod rhieni mewn sawl gwlad yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i rywle maen nhw'n gallu fforddio i drin eu plant.
Mae elusen Healing Little Hearts hefyd yn mentora ac yn hyfforddi staff meddygol hefyd.
Dywedodd Dr Dhannapuneni bod cynyddu'r niferoedd sy'n gallu rhoi llawdriniaethau yn allweddol.
"Mae hynny'n rhan enfawr o'n nod fel elusen," ychwanegodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2022