Treth y cyngor: A oes arian ychwanegol ai peidio?

  • Cyhoeddwyd
gwasnaethau cyngor
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dreth gyngor yn mynd tuag at dalu am lawer o wasanaethau gan gynnwys ysgolion, cartrefi gofal, trafnidiaeth a chasglu biniau

Mae ffrae yn corddi rhwng y Prif Weinidog Mark Drakeford a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch a yw Cymru'n cael arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU ai peidio i fynd i'r afael â'r pwysau ar filiau cartrefi.

Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd y Canghellor gynlluniau i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.

Roedden nhw'n cynnwys ad-daliad treth cyngor o £150 ar gyfer eiddo ym mandiau A-D yn Lloegr, a fyddai'n arwain, medd y Trysorlys, at £175m yn dod i Gymru.

Ond mae Mark Drakeford wedi honni nad yw ei lywodraeth yn cael unrhyw arian ychwanegol.

Trydarodd, "Dywedodd @HMTreasury wythnos diwethaf bod Cymru am dderbyn £175m o gynllun ad-daliad treth cyngor Lloegr.

"Wrth i ni gwblhau cynlluniau i ddelio a'r argyfwng costau byw, rydym wedi dysgu nad oes arian ychwanegol i Gymru.

"Byddwn yn parhau i gefnogi pobl sydd fwyaf angen cymorth."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

'Eithriadol'

Ond mae Simon Clarke, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, wedi gwadu'r honiadau.

Mae wedi ymateb, "Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £180m o arian canlyniadol Barnett o ganlyniad i'r ad-daliad Treth Gyngor a gyhoeddwyd gan y Canghellor.

"Yn eithriadol, rydym wedi rhoi'r hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru ddewis a ydynt yn gwario'r arian hwn yn y flwyddyn ariannol hon neu'r flwyddyn nesaf er mwyn cael yr effaith fwyaf ar gostau byw."

Pan fydd Llywodraeth y DU yn penderfynu gwario arian newydd yn Lloegr ar bethau sydd yng Nghymru o dan reolaeth Llywodraeth Cymru, mae rhywfaint o arian newydd yn cael ei ddyrannu i Gymru gan ddefnyddio fformiwla ariannu hirsefydlog, a elwir yn symiau canlyniadol Barnett.

Pan gyhoeddwyd y byddai Cymru'n cael £175m yn ychwanegol o ganlyniad i'r gwariant yn Lloegr, galwodd gwleidyddion Ceidwadol yn San Steffan a Bae Caerdydd ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r arian i leihau biliau'r dreth gyngor yma.

'Argyfwng costau byw'

Yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe, dywedodd Mark Drakeford fod gan Gymru eisoes drefniant cymorth treth gyngor fwy hael ond addawodd ddefnyddio'r arian ychwanegol gan y Trysorlys i helpu gyda'r argyfwng costau byw.

"Os cawn ni £175 miliwn i helpu aelwydydd yng Nghymru gyda'r argyfwng costau byw, dyna beth fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer, ond fe'i defnyddir mewn ffyrdd sy'n cydnabod y dirwedd bresennol yng Nghymru, y ffaith bod cymorth eisoes ar gael yng Nghymru nad yw'n bodoli dros ein ffin.

"Byddwn yn dod o hyd i'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gael yr arian hwnnw gennym ni i'r teuluoedd sydd ei angen, a byddwn yn gwneud y penderfyniadau hynny cyn gynted ag y gallwn."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb i safbwynt y Trysorlys.

'Dryswch cyson'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyllid, Llŷr Gruffydd AS, "Mae dyfroedd tywyll y trefniant ariannu rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru wedi cael eu codi unwaith eto.

"Mae'n ymddangos bod dryswch cyson ynghylch cyllid canlyniadol i Gymru, sy'n amlygu'r gwendidau yn y setliad datganoli presennol.

"Er gwaethaf nifer o geisiadau am fwy o dryloywder ynghylch y broses hon, mae'n ymddangos bod llywodraeth San Steffan yn fodlon i Gymru orfod chwarae gêm ddyfalu gyson o ran cyllid.

"O ran delio â chostau argyfwng byw, mae pobl Cymru yn haeddu gwell na chael eu dal yng nghanol gwrthdaro geiriol ar Twitter rhwng y ddwy lywodraeth."