Diwygio'r dreth gyngor ar yr agenda i Lafur a Phlaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
SolvaFfynhonnell y llun, Alan Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Pan mae bandiau treth cyngor yn cael eu diwygio - fel yn 2003 - bydd rhai ar eu hennill ac eraill ar eu colled

Gallai diwygio system y dreth gyngor fod yn rhan o unrhyw fargen rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd, meddai'r prif weinidog.

Dywedodd Mark Drakeford fod angen cynnal y trafodaethau er mwyn ceisio sicrhau mwyafrif i daclo "materion heriol ac uchelgeisiol".

Gan mai dim ond hanner y seddi yn y Senedd sydd gan Lafur does ganddyn nhw ddim mwyafrif, ac felly maen nhw a Phlaid Cymru'n trafod cydweithio ar faterion polisi.

Dywedodd AS Plaid Cymru, Rhys ab Owen y gallai pynciau fel diwygio'r Senedd ac ail dai hefyd fod ar agenda'r trafodaethau.

'Rhai yn colli, rhai yn ennill'

Does dim disgwyl i'r cytundeb fod yn glymblaid ffurfiol, ac felly fyddai aelodau Plaid Cymru ddim yn dod yn weinidogion yn y llywodraeth Lafur.

Ond roedd diwygio'r dreth gyngor yn rhywbeth gafodd ei addo gan y ddwy blaid cyn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Dywedodd Llafur eu bod nhw am weld system "decach i bawb", tra bod Plaid wedi mynd i fwy o fanylder drwy ddweud y bydden nhw eisiau "cynyddu nifer y bandiau ar ben uchaf y prisiadau tai" a sicrhau bod y dreth yn fwy cysylltiedig â gwerth yr eiddo.

Fe wnaeth Plaid hefyd addo "cyflwyno cynigion ar gyfer treth newydd a thecach ar eiddo a thir... fyddai'n cymryd lle cyfraddau busnes i ddechrau, ac yna'r dreth gyngor".

Y tro diwethaf i'r dreth gyngor gael ei phrisio yng Nghymru oedd 2003.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dreth gyngor yn mynd tuag at dalu am lawer o wasanaethau gan gynnwys ysgolion, cartrefi gofal, trafnidiaeth a chasglu biniau

Wrth siarad ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Drakeford mai diwygio'r dreth gyngor oedd un o'r tasgau "anodd" yr oedd eisiau ceisio eu taclo wrth ddod i gytundeb gyda Phlaid Cymru.

"Ond mae'n anodd iawn i wneud achos mae rhai pobl am golli mas, mae llawer o bobl yn ennill," meddai.

Wrth siarad yn ddiweddarach ar raglen BBC Politics Wales dywedodd AS Plaid Cymru, Rhys ab Owen, y byddai'n hoffi gweld diwygio'r Senedd, system gofal cenedlaethol, a gweithredu ar ail gartrefi fel rhan o'r fargen.

"Dwi'n meddwl bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi gwleidyddion yn dod at ei gilydd ar lefel gydweithiol i gytuno ar rhai o'r materion pwysig wrth symud ymlaen," meddai aelod Canol De Cymru.

Ond dywedodd AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren Millar wrth y rhaglen ei fod yn poeni y byddai Llafur a Phlaid Cymru'n poeni mwy am "newid cyfansoddiadol a datganoli mwy o bwerau o San Steffan" yn hytrach na thaclo pynciau fel iechyd, cymorth i fusnesau ar ôl Covid, ac addysg.