Tynged yr Iaith yn dal i oeri gwaed

  • Cyhoeddwyd
Angharad TomosFfynhonnell y llun, Angharad Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Angharad Tomos

Mae 13 Chwefror yn nodi 60 mlynedd ers i'r ysgolhaig a'r dramodydd Saunders Lewis draddodi ei ddarlith radio, Tynged yr Iaith.

Dyma'r ddarlith a frawychodd y genedl wrth ddarogan marwolaeth yr iaith yn gynnar yn yr 21ain ganrif, oni bai bod siaradwyr Cymraeg yn mynnu chwyldro.

Cafodd y ddarlith ddylanwad pell-gyrhaeddol ac fe sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

I nodi'r achlysur Cymru Fyw fydd yn cyhoeddi cyfres o erthyglau dros y tri diwrnod nesaf, yn bwrw golwg ar sefyllfa'r iaith heddiw.

Yn y gyntaf o'r gyfres mae erthygl gan Angharad Tomos, ymgyrchydd iaith blaenllaw sydd wedi bod yn rhan o'r mudiad protest ers degawdau.

Pam mesur annigonolrwydd?

Ges i freuddwyd am Saunders Lewis unwaith. Roedd ar ei wely angau ac roeddem yn clustfeinio i geisio deall ei eiriau. Poenwn yn fawr na fyddwn yn clywed neges dyngedfennol. Ond yn y diwedd, a minnau'n gwrando yn astud, yr hyn a ddywedodd oedd "Gaf i frechdan jam?"

Wn i ddim beth fyddai seicolegydd yn ei wneud o'r fath freuddwyd, ond mi fyddaf yn dyfalu weithiau a fyddai sefyllfa'r Gymraeg yn wahanol o gwbl petai Saunders Lewis wedi ynganu'r geiriau hyn yn hytrach na'r ddarlith radio. O ran yr awdurdodau, dydw i ddim yn meddwl eu bod wedi cymryd argyfwng yr iaith o ddifri o gwbl. O ganlyniad, mae Tynged yr Iaith mor berthnasol ag y bu erioed, ac mae hynny'n oeri 'ngwaed.

Galwch o'n henaint neu'n syrffed, ond rydw i wedi cael hen ddigon o dargedau, trosolwg, graffiau, arolygon, a chynlluniau iaith. Pam mesur annigonolrwydd? Un nod oedd yna yn ôl Saunders Lewis - "ei gwneud yn amosibl dwyn ymlaen fusnes llywodraeth leol na busnes llywodraeth ganol heb y Gymraeg...codi'r Gymraeg yn brif fater gweinyddol y dosbarth a'r sir." O wneud hynny, byddai sefyllfa'r Gymraeg yn bur wahanol heddiw. Byddai'r gyfundrefn addysg wedi gorfod cael ei thrawsffurfio er mwyn gwneud hyn yn bosibl. Wnaed mo hynny, ac mae'r Gymraeg yn dioddef o'r herwydd.

Bu ymdrech i'r cyfeiriad hwn, ond doedd hi ddim yn un ddigonol. "Eler ati o ddifri a heb anwadalu" oedd geiriau'r ddarlith.... "Hawlier", "Mynner" ...oedd yr anogaeth, roedd o'n ddigon clir. Sicrhaodd Saunders Lewis ni na fyddai'n rhwydd, "byddai'r canlyniadau yn gostus" ac yna yn ei ddull dihafal, ychwanegodd, "er nad yn fwy costus nag ymladd etholiadau seneddol diamcan".

Ddwy flynedd ar bymtheg yn ddiweddarach, ar drothwy refferendwm datganoli 1979, dyfynnais o'r ddarlith radio ar glawr Tafod y Ddraig, "Mae'r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth i Gymru." Aeth chwarter canrif ers sefydlu'r Cynulliad yng Nghaerdydd. Cawsom ryw "fath o hunanlywodraeth i Gymru cyn arddel ac arfer yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol". Pe digwyddai hynny meddai Saunders Lewis, "byddai tranc yr iaith yn gynt nag y bydd ei thranc hi dan Lywodraeth Loegr". Bernwch chi.

Rydw i yn byw yn un o'r ardaloedd Cymreiciaf yng Nghymru. Dydw i ddim angen aros tan cyhoeddi ffigyrau'r Cyfrifiad i wybod fod y siaradwyr Cymraeg wedi lleihau yn fy mro. Mae mhrofiad dyddiol o fyw yma yn dangos hynny yn boenus o glir. Gwn nad oes gan fy mab a'i ffrindiau obaith o brynu tŷ yma. O ystyried polisiau'r cynghorau sir a'r llywodraeth dros y blynyddoedd, mae'n wyrth fod rhywfaint o Gymraeg o gwbl.

Petai darlith Saunders Lewis wedi cael ei chymryd o ddifri, nid dyma sut fyddai pethau.

Fel y dywed Tudur Owen, "jest deud ydw i".

Fory: Gwion Lewis CF fydd yn ystyried pa mor rymus yw'r gyfraith o safbwynt gwarchod a hyrwyddo'r Gymraeg.

O'r Archif: Tynged yr Iaith

Disgrifiad,

Gwrandewch ar Saunders Lewis yn traddodi rhannau o'i araith, Tynged yr Iaith.

Hefyd o ddiddordeb: