Ateb y Galw: Yr awdur Angharad Tomos

  • Cyhoeddwyd
Angharad TomosFfynhonnell y llun, Angharad Tomos

Yr awdur ac ymgyrchydd Angharad Tomos sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Linda Brown yr wythnos diwethaf.

Angharad sydd tu ôl i'r cymeriadau hoffus yng Ngwlad y Rwla, sydd wedi diddanu plant Cymru ers degawdau. Mae hi hefyd yn ymgyrchydd dros yr iaith.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Bod yn yr ysbyty yn bedair oed i dynnu fy adenoids efo fy nol, Eurwallt. Roedd fy ngwely wrth y ffenest, a'm hofn pennaf y byddai Eurwallt (neu fi) yn disgyn drwy'r ffenest.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Omar Sharif (wedi gwylio Doctor Zhivago).

Ffynhonnell y llun, Gianni Ferrari
Disgrifiad o’r llun,

Geraldine Chaplin ac Omar Sharif yn y ffilm Doctor Zhivago yn 1965

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Torri ar draws arwerthiant crand o dai Cymru yn Llundain efo corn siarad. Trefnwyd fod cantores opera yn dod i sefyll wrth f'ymyl i foddi fy llais, ac yn lle derbyn ei bod wedi fy nhrechu, mi wnes i ddal ati i baldaruo yn fy Saesneg bratiog, a chwarddodd pawb ar fy mhen.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn ffilm ddiweddaraf Ken Loach, Sorry We Missed You.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, lot. Bod yn ddiamynedd a phwdu yw dau ohonynt.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Brynllidiart, y tŷ uchaf yn Nyffryn Nantlle ar ochr Cwm Silyn - cartref dau brifardd, Silyn a'i nai, Mathonwy Hughes. Mae mor dawel yno, ac er fod y lle yn adfail, dwi'n dychmygu sut oedd y lle ganrif yn ôl. Mae'r olygfa oddi yno yn anhygoel - o'r Wyddfa ar draws y dyffryn i Ben Llŷn.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

O ran teimlo dyfnderoedd anobaith a gorfoledd pur, anodd curo noson canlyniadau refferendwm 1997, pan ddaeth cynulliad i Gymru yn ffaith.

Disgrifiad,

"Gobaith, anobaith ac yna gorfoledd." Adroddiad newyddion am ganlyniadau'r refferendwm datganoli ym 1997

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Styfnig, aflonydd a bwrdfrydig.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Volver gan Pedro Almodóvar. Gwyliwch hi a gweld!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Mary Silyn, i'w holi am gymaint o'r gwaith arloesol a wnaeth efo Cymdeithas Addysg y Gweithwyr wedi 1930.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Roedd hen, hen, hen daid i mi yn un o'r gweinidogion oedd yn gweddïo efo Dic Penderyn cyn iddo fynd at y grocbren.

O archif Ateb y Galw:

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Hoffwn wireddu breuddwyd oes o hedfan mewn balŵn, a fyddai dim ots wedyn petawn yn disgyn allan!

Beth yw dy hoff gân a pham?

Myn Mair, hen gân Plygain - am ei bod mor hynafol, ac yn ffordd ryfeddol o deithio drwy amser.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Byth yn cymryd cwrs cyntaf, sosij a thatws a grefi yn ginio a dau bwdin - pwdin reis Mam a crymbl 'fala. (Mam oedd cogydd gorau'r bydysawd.)

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Sylvia Pankhurst, oedd yn dipyn gwell dynes na'i mam.

Ffynhonnell y llun, Topical Press Agency
Disgrifiad o’r llun,

Y swffraget, Sylvia Pankhurst (canol), yn cael ei rhyddhau o'r carchar ym mis Mai 1921

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Iwan Fôn

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw