Diweithdra yng Nghymru yn parhau i ostwng

  • Cyhoeddwyd
diweithdraFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llai o bobl allan o waith yng Nghymru rhwng Hydref a Rhagfyr 2021

Mae gostyngiad wedi bod yn nifer y di-waith yng Nghymru, yn ôl data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Roedd 47,000 allan o waith rhwng Hydref a Rhagfyr y llynedd, sef 11,000 yn llai na'r chwarter blaenorol.

Mae hyn yn ostyngiad o 22,000 yn y di-waith o'i gymharu gyda'r un cyfnod yn 2020.

Mae cyfradd ddiweithdra Cymru o 3.1% hefyd yn is na ffigyrau'r DU gyfan (4.1%).

Gwelodd Cymru hefyd y cynnydd mwyaf yn y rheiny mewn gwaith o'i gymharu gyda'r adeg yma'r llynedd, i fyny 2.2 pwynt canran i 74.5%.

Er hyn mae'n parhau ychydig o dan gyfartaledd y DU o 75.5%.

Pynciau cysylltiedig