Rhybuddion afonydd wrth i Gymru gael ei tharo gan law trwm

  • Cyhoeddwyd
LlifogyddFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ffordd y B4242 ger Aberdulais ar gau brynhawn Sul oherwydd llifogydd

Mae dyn wedi cael ei achub o gar oedd yn sownd mewn llifogydd ar ôl i law trwm achosi trafferthion ledled Cymru.

Llwyddodd dau berson i ddianc o'r car ar ffordd arfordirol yn Sir Gaerfyrddin cyn i griwiau tân gael eu galw i achub y trydydd.

Fe wnaeth tîm achub dŵr cyflym achub y dyn o gar ar hyd yr A4066 rhwng Sanclêr a Llanybri toc cyn 16:00 ddydd Sul, meddai'r gwasanaeth tân.

Cafodd y ffordd ei chau ar ddwy ochr y digwyddiad oherwydd y llifogydd.

Mae rhybuddion llifogydd hefyd wedi eu cyhoeddi ar gyfer Afon Cothi ac Afon Tywi yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd rhybudd tywydd ar wahân gan y Swyddfa Dywydd mewn grym tan 18:00 ddydd Sul, gan effeithio ar 12 sir yng nghanolbarth a de Cymru.

Roedd llifogydd mewn "ychydig o gartrefi a busnesau" yn debygol, ynghyd â llifogydd "gan wneud amseroedd teithio yn hirach", meddai'r Swyddfa Dywydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffordd y B4242 rhwng Ynysarwed ac Aberdulais ger Castell-nedd ynghau oherwydd llifogydd yn ôl Heddlu De Cymru.

Fe rybuddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru y gallai afonydd orlifo mewn sawl rhan o Gymru hefyd.

Mae gwyntoedd cryfion wedi'u cofnodi ar Bont Britannia rhwng Ynys Môn a Gwynedd ac ar Bont Hafren M48 yn Sir Fynwy.

Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd mewn grym ar gyfer ardaloedd Blaenau Gwent, Penybont, Caerffili, Sir Gâr, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Pynciau cysylltiedig