Urdd yn ymddiheuro am broblemau cofrestru Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Mae'r Urdd wedi dweud bod rhai wedi methu cofrestru i gystadlu yn yr eisteddfod cyn y dyddiad cau ddydd Llun oherwydd trafferthion technegol.
Dywedodd y mudiad ei bod yn "ymwybodol bod rhai pobl yn cael problemau gyda system gofrestru" ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2022.
Roedd rhaid i ymgeiswyr ar gyfer yr eisteddfod gofrestru ar wefan Y Porth cyn 17:00 ddydd Llun.
Ond dywedodd yr Urdd nad oedd hynny'n bosib i bawb "oherwydd y nifer uchel o ddefnyddwyr".
Mae'r BBC wedi clywed gan un defnyddiwr oedd wedi methu defnyddio'r wefan ers 11:00 fore Llun.
Mae'r mudiad wedi "ymddiheuro am yr anghyfleustra".
Ychwanegodd datganiad pellach y byddai'r system gofrestru yn parhau ar agor tan hanner nos ar 17 Chwefror yn dilyn y trafferthion.
Dywedodd yr Urdd bod ei staff yn "delio gydag ymholiadau ac yn awyddus i helpu".
"Os ydy defnyddwyr a darpar gystadleuwyr yn cysylltu â'r Urdd drwy e-bost - eisteddfod@urdd.org - gydag unrhyw broblem, fe fydd aelod o'r tîm yn dod yn ôl atoch gyda datrysiad ac yn sicrhau fod pawb sydd wedi cysylltu yn gallu cofrestru i gystadlu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2021