Cymry Gemau Olympaidd y Gaeaf
- Cyhoeddwyd
Gyda gemau Olympaidd y gaeaf yn dirwyn i ben am bedair blynedd arall, yr hanesydd chwaraeon Dr Meilyr Emrys sydd wedi bod yn olrhain hanes rhai o'r Cymry sydd wedi cystadlu dros y blynyddoedd.
Er bod eira'n gorchuddio'r Wyddfa o dro i dro, nid yw Cymru'n adnabyddus am gynhyrchu pencampwyr sgïo na sglefrwyr o fri.
Yn wir, mae'r ystadegydd chwaraeon o Geredigion, Hilary Evans - sy'n aelod o'r International Society of Olympic Historians - yn amcangyfrif mai dim ond 18 o Gymry sydd erioed wedi cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.
Cyfartaledd o lai nag un Cymro neu Gymraes ar gyfer pob rhifyn o'r gemau felly.
Laura Deas (o Wrecsam) ac Adele Nicoll (o'r Trallwng, sef eilydd criw bobsled y merched) yw'r unig Gymry sy'n rhan o garfan Prydain yn Beijing eleni.
Er na chafodd hi lawer o hwyl arni yn y ras sled-sgerbwd ar drac anghyfarwydd Yanqing yr wythnos diwethaf, Deas yw'r unig Gymraes sydd wedi llwyddo i ennill medal yng ngemau'r gaeaf, gan iddi orffen yn drydydd yn Pyeongchang yn 2018.
Bedair blynedd ynghynt, 'roedd Bruce Tasker (o Sir Benfro) yn aelod o griw bobsled pedwar-dyn Prydain yn Sochi, Rwsia.
Gorffennodd y pedwarawd Prydeinig yn bumed yn wreiddiol, ond cawsant eu dyrchafu i'r trydydd safle yn 2019, wedi i'r ddau griw Rwsiaidd oedd wedi gorffen o'u blaen gael eu diarddel am dorri rheolau yn ymwneud â defnyddio cyffuriau.
Yn sgil hynny - flwyddyn ar ôl llwyddiant Deas yn Ne Corea - cadarnhawyd bod Bruce Tasker yntau wedi ennill medal efydd Olympaidd.
Ond er mai dim ond yn ddiweddar iawn mae cystadleuwyr o 'wlad y gân' wedi llwyddo i gyrraedd y podiwm yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf, mae'r cysylltiadau rhwng Cymru a'r gemau yn mynd yr holl ffordd yn ôl i 1932 ac mae straeon rhai o'r dyrnaid o Gymry wnaeth gymryd rhan cyn Deas a Tasker yn bendant yn werth eu hadrodd.
Terry Monaghan
Tan i'r ddau lithrwr brofi llwyddiant yn 2014 a 2018, pumed safle'r sglefriwr sydyn, Terry Monaghan, ym 1960, oedd y canlyniad gorau gan athletwr o Gymru yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.
Ar ddiwrnod braf o Chwefror yn Squaw Valley, Califfornia, llwyddodd y gŵr o Aberpennar i orffen y ras 10,000m mewn amser oedd eiliad yn gyflymach na'r record byd swyddogol flaenorol.
Ond yn anffodus i'r Cymro, llwyddodd tri sglefriwr o wledydd Llychlyn a Viktor Kosichkin (o'r Undeb Sofietaidd) i fynd yn hyd yn oed cyflymach nag ef yn yr un ras ac felly methodd Monaghan gipio medal o ddau safle.
Mollie Phillips
Cyn hynny, nawfed safle Mollie Phillips yn y sglefrio unigol i ferched yn 1932 oedd y canlyniad Cymreig gorau yng ngemau'r gaeaf.
Un o Gymry Llundain oedd Phillips, ond er iddi gael ei geni ym mhrifddinas Lloegr - gan fod ei rhieni yn dod o Abertawe a'i theulu ehangach yn byw yn ardal Llanboidy, yn Sir Gâr -nid oes unrhyw amheuaeth ei bod yn ystyried ei hun yn Gymraes.
Yn 24 oed, Mollie oedd aelod hynaf y tîm bychan o sglefrwyr benywaidd oedd wedi mentro o Brydain i gystadlu yn Lake Placid, yng ngogledd talaith Efrog Newydd, ac mae'n debyg mai am y rheswm hwnnw y cafodd hi'r cyfrifoldeb o gario baner Prydain yn y seremoni agoriadol.
Ond yn sgil y penderfyniad i roi'r faner yn ei dwylo, Mollie Phillips oedd y ddynes gyntaf i arwain tîm cenedlaethol mewn unrhyw Gemau Olympaidd (gaeaf neu haf).
Flwyddyn yn ddiweddarach, enillodd y Gymraes (a'i phartner, Rodney Murdoch) fedal efydd yn y gystadleuaeth i barau ym Mhencampwriaethau Sglefrio Ewrop a dychwelodd Mollie i'r Gemau Olympaidd ym 1936, gan orffen yn yr unfed safle ar ddeg yn y gystadleuaeth unigol yn Garmisch-Partenkirchen.
Wedi iddi roi'r gorau i gystadlu, aeth Mollie Phillips ymlaen i fod yn feirniad a dyfarnwr sglefrio rhyngwladol uchel ei pharch: hi oedd y ddynes gyntaf i ddyfarnu cystadleuaeth ym Mhencampwriaethau Sglefrio'r Byd ac 'roedd hi'n dipyn o arloeswr y tu hwnt i'r byd chwaraeon hefyd, gan iddi hi gael ei phenodi'n Uchel-Siryf Sir Gaerfyrddin ym 1961.
Yn nodweddiadol ohoni, hi oedd y ddynes gyntaf i ymgymryd â'r rôl honno.
Gwyn Jones
Sglefriwr arloesol arall o dras Gymreig oedd Idris Gwyn Jones, sef y dyn cyntaf i gynrychioli gwlad o Affrica yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.
Ochr yn ochr â Marcelle 'Cookie' Matthews (oedd ddim ond yn un ar ddeg mlwydd oed ar y pryd), sglefriodd Jones dros Dde Affrica yn y gystadleuaeth i barau yn Squaw Valley ym 1960.
Wedi iddynt berfformio eu ffigyrau i gyfeiliant 'La Traviata', gan Verdi, gorffennodd y pâr yn drydydd ar ddeg (allan o un deg tri) ac ni ddychwelodd De Affrica i gystadlu yng ngemau'r gaeaf eto tan 1994.
Disgynnydd i deulu o Fargoed oedd Gwyn Jones.
Wrth i Ddirwasgiad Mawr y 1930au greu diweithdra a chaledi yn ne Cymru, 'roedd ei dad, George, wedi ymfudo o Gwm Rhymni i weithio fel peiriannydd mewn cloddfa aur ger Johannesburg ac yno - ar yr Highveld - y ganed Gwyn ym 1939.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'n debyg mai wedi iddo dorri ei goes yn ystod ei arddegau y dechreuodd sglefrio, gan i'w feddyg awgrymu y byddai ymarfer corff o'r fath yn debygol o gyflymu ei wellhad!
Gomer Lloyd a 'bois y bobsled'
Deuddeg mlynedd wedi anturiaethau Gwyn Jones a Terry Monaghan yng Nghaliffornia, cafodd Malcolm 'Gomer' Lloyd, Jackie Price, Bill Sweet ac Alan Jones i gyd eu cynnwys yng ngharfan bobsled Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Sapporo.
Dychwelodd tri o'r pedwar Cymro - ynghyd â Graham Sweet (sef brawd Bill) - i gystadlu yn y gemau canlynol, yn Innsbruck, hefyd.
Parwyd Price a Lloyd gyda'i gilydd - yn sled 'Prydain 1' - ar gyfer y gystadleuaeth i griwiau dau-ddyn ym 1976 a'r bartneriaeth honno yw'r unig enghraifft o dîm cyfan-gwbl Gymreig yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf.
Ar ôl gwibio i lawr trac enwog Igls bedair gwaith, gorffennodd criw 'Cymru 1' yn yr ugeinfed safle.
Bu Gomer Lloyd yn aelod o dimau bobsled Prydain ym 1980 a 1984 hefyd ac yn sgil hynny, ef yw'r unig Gymro i gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf ar bedwar gwahanol achlysur.
Wedi iddo roi'r gorau i rasio ei hun, aeth y cyn-filwr o Orseinon ymlaen i gael gyrfa hir a llwyddiannus fel hyfforddwr.
Bu'n gyfrifol am dimau bobsled cenedlaethol Canada, Monaco, yr Eidal, Prydain, Rwsia a De Corea cyn ei farwolaeth, yn ddim ond 68 oed, ym mis Ionawr 2016.
Hefyd o ddiddordeb:
David Rees
Tra mae dros hanner y Cymry sydd wedi cymryd rhan yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf wedi gwneud hynny mewn bobsled - a phump o'r lleill wedi bod yn sglefrwyr - David Rees yw'r unig Gymro sydd wedi cystadlu ar sgis yn y gemau.
Gorffennodd y milwr o Rydaman yn y 66ed safle yn y ras sgïo traws gwlad dros 15km ym 1964 ac 'roedd hefyd yn aelod o dîm ras gyfnewid 4x10km Prydain yr un flwyddyn.
Cymry'r dyfodol?
Mae'n bosibl, serch hynny, y bydd mwy o Gymry yn cystadlu ar eira yn 2026: 'roedd Maisie Potter, o Fangor, yn anlwcus i beidio cael ei dewis i gymryd rhan yn yr eirafyrddio yn Beijing eleni ac mae'r sgïwr alpaidd ifanc, Giselle Gorringe, hefyd wedi cael dechrau addawol i'w gyrfa.
Croesi bysedd felly y bydd y ddwy yn chwifio baner Cymru yn Milano-Cortina mewn pedair blynedd.