Rhybudd am effaith cynnydd 'aruthrol' mewn costau ar ffermwyr

  • Cyhoeddwyd
Fferm Cae Haidd Uchaf, Nebo

Mae arweinwyr y diwydiant amaeth yn rhybuddio am effaith posib cynnydd "aruthrol" mewn costau gwrtaith a thanwydd.

Mae nhw yn dweud bod prisiau wedi cynyddu hyd at 200%.

Wrth i gostau byw godi a theuluoedd gyfri'r gost, mae yna rybudd gan Undeb Amaethwyr Cymru y gallai cwsmeriaid orfod talu mwy am gynnyrch fferm gan bod y diwydiant yn methu ysgwyddo baich y costau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r sefyllfa sy'n wynebu'r diwydiant amaeth yn "bryderus" ond maen nhw'n "parhau i fonitro'r sefyllfa" a chynnig cefnogaeth trwy wahanol gynlluniau.

Disgrifiad o’r llun,

Wrth gyfri'r costau, mae Paul Williams yn dweud bod y ffigurau'n "anghredadwy"

Paul Williams yw Cadeirydd Clwyd NFU Cymru ac mae'n ffermio yn Cae Haidd Uchaf yn Nebo ger Llanrwst. Dywedodd bod y costau eleni yn "ddychrynllyd".

"Ma'n gwrtaith ni i fyny 183%, ma'n disel coch ni i fyny 46%, ma disel gwyn i fyny 20% a ma'r dwysfwyd i fyny dros 15%," meddai.

"Ma'n anghredadwy - yn enwedig y gwrtaith. Ma hwnna yn dychryn rhywun.

"'Da ni'n ei ddefnyddio fo ar gyfer tyfu glaswellt, sef y bwyd rhataf fedrwn ni gael ar y ffarm, a fedrwn ni ddim gneud heb hwnnw yn enwedig yn yr ucheldir fan hyn."

Ychwanegodd Mr Williams ei bod yn anodd rheoli'u sefyllfa ariannol gan eu bod yn gorfod gwario ar gynnyrch ond ddim yn deall beth yw gwerth eu hanifeiliaid tan iddyn nhw eu gwerthu.

"Dw i ddim yn siŵr iawn lle ma' 'i ddiwedd.

"Mewn ffordd, dyn ni ddim yn gw'bod beth yw gwerth ein hanifeiliaid ni nes bo ni'n mynd â nhw i'r farchnad a dyna sy'n dychryn rhywun."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Arwel Jones yn berchen ar gigydd yn Llanrwst ac yn dweud bod y sefyllfa'n heriol

Arwel Jones yw'r cigydd lleol yn Llanrwst ac wedi bod yn y busnes ers 1991. Mae'n treulio oriau gyda'r nos ar ôl cau'r siop yn mynd â chrib man trwy'r cyfrifon.

"Ma' costa' pawb, o'r amaethwr i'r siopwr i wraig y tŷ - mae o gyd 'di mynd i fyny. Roedd bil trydan ni rwla o gwmpas £640 y mis. Mae o fyny rŵan i jyst o dan £900 y mis."

Cur pen, medda,i yw penderfynu i ba raddau y dylid pasio costau rhedeg y busnes ymlaen i'r cwsmer.

"'Da ni'n goro ista lawr a mynd trw' pethe. Neith y mab a fi ista lawr gyda'r nos a mynd trw' bob peth a trio neud y gora' medrwn ni.

"Ond ma' rhaid i chi neud o achos ma' prisha petha' yn mynd i fyny ac i fyny bob wsos - bagie, ingredients, cig eidion a cig oen a pethe felly. Ond ma' costa'r ffarmwr yn mynd i fyny hefyd so ma' rhaid iddo do ga'l mwy er mwyn i'r bêl dal i droi."

'Busnes ydy amaeth'

Yn ôl Dafydd Jones o Undeb Amaethwyr Cymru, gallai'r cynnydd mewn costau amaeth arwain at brisiau uwch i gwsmeriaid.

Dywedodd: "Yn anffodus ma' costau ar hyn o bryd yn cynyddu'n ddychrynllyd, yn enwedig cost gwrtaith, ac wrth godi costau gwrtaith, mae sgil effaith hynny yn cael ei ddangos wedyn ar gynnyrch.

"Yn y pendraw, ma' hynny'n mynd i olygu chwanneg o gost i bobl gyffredin sydd yn prynu, y cyhoedd sydd yn prynu cynnyrch, o fod yn dorth o fara i fod yn gynnyrch mewn siop.

"Busnes ydy amaeth. Os ydy'r nwyddau sy'n dod i mewn yn mynd i fod yn ddrud, ma' 'na sgil effaith wedyn bod y cynnyrch yn mynd i fod yn ddrytach i bobl 'i brynu".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y cynnydd mewn costau sy'n wynebu'r byd amaeth yn "bryderus" a bod Grŵp Monitro Amaeth y DU yn "parhau i fonitro'r sefyllfa"."Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu ffermwyr ar hyd Cymru," ychwanegodd.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i barhau â'r Incwm Sylfaenol Cyffredinol tan ddiwedd 2023 a fydd yn darparu cefnogaeth i ffermwyr a bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau i fod yn elfen o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy trwy gydol y tymor Senedd hwn a thu hwnt".

Pynciau cysylltiedig