Dim newid i'r cymhorthdal i ffermwyr tan 2025
- Cyhoeddwyd

Mae Gweinidog Materion Gwledig Cymru wedi cyhoeddi na fydd newidiadau mawr i gymorthdaliadau amaeth yn cael eu cyflwyno tan 2025.
Bydd manylion cynllun ariannu'r dyfodol yn cael eu hamlinellu'r flwyddyn nesaf a phedwerydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn 2023, medd Lesley Griffiths.
Gwadodd Ms Griffiths bod Cymru ar ei hôl hi o ran diwygio'r trefniadau ariannu, gan fynnu bod angen sicrhau bod gorchwyl mor gymhleth yn cael ei wneud yn gywir.
Mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes yn Lloegr i symud at drefniadau cymhorthdal newydd, ac mae Llywodraeth Yr Alban wedi gwneud addewid i gyflwyno system newydd yn llawn erbyn 2023.
Mae dull ariannu ffermwyr yn elfen allweddol o gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd, ac mae yna botensial i unrhyw newidiadau gael effaith sylweddol ar yr economi wledig.

Cyn Brexit, roedd ffermwyr Cymru wedi dibynnu'n helaeth ar gymorthdaliadau'r UE - arian oedd yn cael ei dalu i raddau helaeth ar faint o dir yr oedden nhw'n gofalu amdano.
Bydd Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno o Ionawr 2025 ymlaen, yn gwobrwyo ymdrechion i warchod a gwella golygfeydd, amgylchedd a bywyd gwyllt Cymru yn hytrach, yn ogystal ag ymarfer ffermio da.
Bydd y diwydiant yn falch bod peth sicrwydd, medd sylfaenydd cwmni Agri Advisers, Dr Nerys Llywelyn Jones
Bydd y taliadau cyfredol, dan Gynllun y Taliad Sylfaenol, yn cael eu hymestyn am y trydydd tro, tan 2023.
'Pwysig peidio rhuthro - a difaru'
Mae grwpiau amgylcheddol wedi galw am symud ymlaen yn gynt at ffyrdd newydd o amaethu, ond mae cynrychiolwyr ffermwyr wedi pwysleisio bod rhaid pwyllo.
Dywedodd Dirprwy Lywydd undeb NFU Cymru, Aled Jones wrth raglen Dros Frecwast bod hi'n bwysig i "beidio rhuthro i rywbeth ac yna difaru".
Mae Lesley Griffiths hefyd yn dweud y bydd £66m yn ychwanegol ar gyfer ymestyn cynlluniau ariannol cyfredol sy'n gwobrwyo ffermwyr am waith sy'n llesol i'r amgylchedd.
Ond fe rybuddiodd bod anghytuno gyda Llywodraeth y DU dros gyllido yn bygwth colled o £137m i gymunedau gwledig yn y flwyddyn ariannol bresennol yn unig.

Lesley Griffiths yw Gweinidog Materion Gwledig Cymru
Mewn ymateb i'r honiad hwnnw, dywedodd Defra - adran amgylchedd, bwyd a materion gwledig Llywodraeth y DU - y bydd eu cynlluniau nhw'n "trawsnewid y ffordd rydym yn cefnogi ffermwyr i'w gwobrwyo'n briodol am y gwaith maen nhw'n ei wneud".
Dywedodd llefarydd y byddai'r cynlluniau'n "annog ymarferion ffermio cynaliadwy, cynhyrchu bwyd proffidiol a gwobrwyo ffermwyr am greu buddion i'r cyhoedd fel gwell ansawdd aer a dŵr, bywyd gwyllt sy'n ffynnu, iechyd pridd, neu fesurau i leihau llifogydd a mynd i'r afael â newid hinsawdd".
Ychwanegodd eu bod yn gweithio i sicrhau cynlluniau "syml a deniadol" fyddai'n helpu ffermwyr i leihau costau, bod yn fwy cystadleuol, cynhyrchu mwy a buddsoddi mewn technoleg newydd.
Trafod prinder C02
Dywedodd Ms Griffiths wrth gynhadledd newyddion ei bod yn "cadw golwg manwl" ar y prinder carbon deuocsid, sy'n achosi "problemau anferthol o ran iechyd a lles anifeiliaid" os na fydd lladd-dai'n gallu prosesu cig yn y ffordd arferol.
Ychwanegodd y bydd yn cyfarfod manwerthwyr Cymreig er mwyn clywed eu pryderon, a bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James wedi cynnal trafodaethau gydag Ysgrifennydd Busnes y DU, Kwasi Kwarteng.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2020