Cân i Gymru 2022: Pwy sydd yn cystadlu eleni
- Cyhoeddwyd
Mae hi'r amser hynny o'r flwyddyn unwaith eto, mae Cân i Gymru yma.
Bydd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl yn cyflwyno'r gystadleuaeth yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, nos Wener 4 Mawrth.
Panel o arbenigwyr sydd wedi bod wrthi yn dewis pa wyth trac sydd am gael eu perfformio ar y noson. Ar y panel eleni roedd Dafydd Iwan, Lily Beau, Elidyr Glyn a Betsan Haf Evans.
Felly pwy yw cyfansoddwyr caneuon eleni a pwy fydd yn eu perfformio?
1. Rhyfedd o Fyd
Cyfansoddi: Elfed Morgan Morris a Carys Owen
Geiriau: Emlyn Gomer Roberts
Perfformio: Elain Llwyd
Dim dyma'r tro cyntaf i Elfed na Carys gyrraedd rownd derfynol Cân i Gymru. Cyfansoddodd Elfed gân fuddugol 2009 sef Gofidiau, a chafodd Carys ail gyda Rhy Gry yn 2002, gafodd ei chyfansoddi ar y cyd gydag Emyr Rhys. Emlyn Gomer, cyn aelod o'r band Gwerinos sydd yn gyfrifol am lunio geiriau Rhyfedd o Fyd.
2. Cana dy Gân
Cyfansoddi: Geth Tomos
Geiriau: Geth Robyns
Perfformio: Rhys Owain Edwards (Fleur De Lys)
Dau Geth sy'n ddau athro sy'n gyfrifol am y gân roc Cana dy Gân. Mae geiriau Geth Robyn yn annog pobl i sefyll i fyny dros yr hyn maen nhw'n gredu ynddo a gwarchod beth sydd o'u cwmpas. Rhys o'r band Fleur De Lys fydd yn perfformio.
3. Paid Newid dy Liw
Cyfansoddi: Mali Hâf a Trystan Hughes
Perfformio: Mali Hâf
Un arall sydd wedi cael blas ar Cân i Gymru yn y gorffennol yw Mali Hâf. Cystadlodd yn 2019 dan yr enw Mali Melyn yn canu Aros Funud. Mae wedi cyfansoddi ar y cyd gyda Trystan Hughes o Gymoedd Abertawe yn wreiddiol ar drac sydd â natur a phrydferthwch y byd fel ei prif thema.
4. Ymhlith y Cewri
Cyfansoddi: Darren Bolger
Perfformio: Darren Bolger
2015 oedd y tro diwethaf i Darren Bolger gyrraedd wyth olaf Cân i Gymru gyda'i drac O'r Brwnt a'r Baw, gyda Cy Jones yn perfformio. Eleni bydd yn perfformio ei drac ei hun, Ymhlith y Cewri, sy'n pwysleisio rôl y genhedlaeth hŷn mewn arwain y ffordd mewn byd o ddatblygiadau a newid technolegol.
5. Diolch am y Tân
Cyfansoddi: Carys Eleri a Branwen Munn
Perfformio: FFLOW
Collodd Carys - actores, cyflwynydd ac awdur - ei thad o'r cyflwr motor niwron yn 2017. Cyfansoddwyd Diolch am y Tân ar y dydd y byddai ef wedi troi yn 70, fel dathliad o'i fywyd. FFLOW, sef band newydd Carys a Branwen fydd yn perfformio ar y noson. Mae'r ddwy wedi cyd-weithio ar sioe un fenyw Carys, Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) a'i sengl, Don't Tell the Bees.
6. Pan Ddaw'r Byd i Ben
Cyfansoddi: Steve Williams
Perfformio: Steve Williams
Wyneb cyfarwydd i gynulleidfa Cân i Gymru 2021. Cyrhaeddodd yr wyth olaf llynedd gyda'i gân Yr Arlywydd. Eleni mae'r ditectif i Heddlu Dyfed Powys wedi cael ei ysbrydoli i gyfansoddi gan ddigwyddiadau COP-26 a newid hinsawdd.
7. Mae yna Le
Cyfansoddi: Rhydian Meilir
Perfformio: Ryland Teifi
Mae Rhydian, o Gemaes ger Machynlleth, yn wyneb cyfarwydd iawn i Cân i Gymru. Mae wedi cyrraedd y rhestr fer yn 2012 gyda Cynnal y Fflam, yn 2019 gyda Gewn ni Weld Sut Eith Hi a llwyddodd gyfansoddi dwy gân ar restr fer 2020, sef Pan Fyddai'n 80 Oed a Tir a'r Môr. Ryland Teifi fydd yn perfformio'r gân, sy'n deyrnged i natur a phrydferthwch y byd.
8. Rhiannon
Cyfansoddi: Siôn Rickard
Perfformio: Siôn Rickard
Mi fydd Siôn yn perfformio hon yn arbennig i'w gariad, Rhiannon. Mae'n wreiddiol o Fetws y Coed, ond yn byw yng Nghaerdydd. Mae'n un hanner o'r band gwerinol Lo-fi Jones, yr hanner arall yw ei frawd Liam.
Hefyd o ddiddordeb: