Euog o achosi marwolaeth ffrind drwy yrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei ganfod yn euog o achosi marwolaeth ffrind agos drwy yrru'n beryglus mewn damwain yn Sir Gaerfyrddin.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Meirion Emerson Roberts wedi bod yn yfed alcohol cyn gyrru ar gyflymder. Bu farw teithiwr yn ei gar, Lewis Morgan, yn y fan a'r lle.
Clywodd y llys fod Roberts, 26 ac o Heol Las, Rhydaman, yn gyrru ei Vauxhall Corsa gwyn ar hyd Heol Penygroes ym mhentref Blaenau, Sir Gâr ar noson 4 Rhagfyr, 2020.
Tua 20:45 collodd reolaeth ar y cerbyd a bu mewn gwrthdrawiad.
Gadawodd y car ochr chwith y ffordd a gwyro i'r ochr arall gan daro polyn telegraff yn gyntaf ac yna wal cyn dod i stop tra ar ei do.
Dioddefodd ei gyd-deithiwr, Lewis Morgan, 20, o Gaerfyrddin, drawma difrifol i'w ben yn y ddamwain a bu farw yn y fan a'r lle.
Cafodd Roberts hefyd ei anafu a'i gludo i'r ysbyty, cyn cael ei arestio'n ddiweddarach ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Yfed alcohol
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Abertawe clywodd y rheithgor fod Roberts ar y prynhawn dan sylw, fwy na phum awr cyn y gwrthdrawiad angheuol, wedi yfed nifer o beintiau o seidr yn The Cottage Inn ger tref Llandeilo gyda sawl chydweithiwr - gan gynnwys Mr Morgan.
Gyrrodd Roberts i'r dafarn wledig ac er iddo ddweud wrth ffrindiau ei fod wedi trefnu lifft adref, gyrrodd yn ddiweddarach i gartref Mr Morgan yng Nghaerfyrddin, lle y bu'n yfed mwy o alcohol.
Tua 20:10 y noson honno, gadawodd Roberts a Mr Morgan y tŷ, gan ddweud wrth frawd Mr Morgan eu bod yn "mynd am dro".
Ychydig yn ddiweddarach, fe wnaeth camerâu cylch cyfyng ddangos y car yn parcio y tu allan i Bargain Booze ar Stryd Lammas yng nghanol Caerfyrddin.
Roedd lluniau pellach yn dangos Roberts a Mr Morgan tu fewn i'r siop yn prynu alcohol.
Yna cafodd y car ei yrru i'r dwyrain o Gaerfyrddin ac mewn fideo Snapchat, a gafodd ei ddangos ger bron y llys, fe ddangosodd Mr Morgan ffilm o Roberts yn yfed o botel o lager tra'n gyrru ac yn gwrando ar gerddoriaeth uchel.
Ar un adeg mae'r camera'n ffilmio cloc cyflymder y car ac yn dangos ei fod yn teithio ar gyflymder o tua 100mya.
Funudau'n ddiweddarach, wrth i Roberts yrru drwy Blaenau ger Llandybie, roedd y car yn rhan o ddamwain erchyll ac fe gollodd Mr Morgan ei fywyd.
Fe wnaeth Roberts roi sampl tua 02.15 y bore canlynol - mwy na phum awr ar ôl y ddamwain - roedd y darlleniad yn nodi bod yna 54mg o alcohol fesul 100ml o waed - y terfyn cyfreithiol yw 80.
Fodd bynnag, dywedodd Dr Rhys Williams, arbenigwr ar ddadansoddi anadl alcohol y byddai Roberts, yn ei dyb e, wedi bod dros y terfyn adeg y ddamwain.
Dywedodd PC Mathew Frazer, sy'n ymchwilio i wrthdrawiadau fforensig ar ran Heddlu Dyfed-Powys, ei fod yn credu bod Roberts wedi bod yn goryrru yn yr eiliadau cyn y ddamwain wedi iddo weld ffilm o'r car ar wahanol gamerâu teledu cylch cyfyng yn yr ardal.
Dywedodd wrth y rheithgor: "Ar ôl ystyried y dystiolaeth rwyf o'r farn mai achos y gwrthdrawiad oedd gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu'r gyrrwr, Meirion Roberts, oherwydd meddwdod."
Er cyfaddef ei fod wedi yfed "pump i chwech" peint o seidr yn y dafarn ac yna tua hanner can o Stella Artois cyn mynd yn ôl allan yn y car lle cafodd ei ffilmio'n yfed ymhellach a chyfaddef ei fod wedi bod yn gyrru ar gyflymder o hyd at 48mya yn yr eiliadau cyn y gwrthdrawiad, plediodd y diffynnydd yn ddieuog i gyhuddiad o farwolaeth drwy yrru'n beryglus.