'Hollbwysig cynyddu hyder merched ym myd chwaraeon'

  • Cyhoeddwyd
Gemma GraingerFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Gemma Grainger, mae'n hollbwysig datblygu hyder merched ifanc ym maes chwaraeon

Bydd cynhadledd chwaraeon i "ysbrydoli, cefnogi ac ymbweru" mwy o ferched ifanc i ymwneud â chwaraeon yn cael ei chynnal gan yr Urdd dros y penwythnos.

Dyma fydd penllanw prosiect yr Urdd a Chwaraeon Cymru, #FelMerch.

Cafodd ei sefydlu ym Mehefin 2021 er mwyn ehangu cyfleoedd a hyder merched ym myd chwaraeon, yn enwedig yn sgil y pandemig.

Yn ôl Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis, mae 56% o'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan yn narpariaeth chwaraeon wythnosol y mudiad bellach yn ferched.

Ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Merched, bydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan y gyflwynwraig a'r athletwraig Lowri Morgan, a'r siaradwyr yn cynnwys enwau fel Gemma Grainger, Hollie Arnold MBE a Laura McAllister.

Bydd 150 o ferched o bob cwr o Gymru yn cael cyfle i rannu syniadau, trafod cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddiant a chymwysterau yn y maes chwaraeon yn y digwyddiad.

Dywedodd Gemma Grainger, rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru y bydd y penwythnos, fel y prosiect cyfan, yn "hollbwysig o ran cynyddu hyder merched i gymryd rhan mewn chwaraeon".

Ychwanegodd ei bod yn bwysig "cynyddu'r cyfleoedd a'r ddarpariaeth mewn chwaraeon i ferched ar draws Cymru".

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae pob merch yn haeddu'r cyfle i gyflawni ei photensial, meddai Hollie Arnold

Bydd Hollie Arnold MBE, taflwr gwaywffon sydd wedi cipio medalau Paralympaidd a thorri sawl record byd, hefyd yn un o'r siaradwyr yn y gynhadledd.

Mae'n gobeithio y bydd ei phrofiad hi o wynebu heriau fel merch ifanc ag anabledd yn ysbrydoli eraill.

"Ers erioed, mae menywod ifanc wedi clywed gan eraill na allant gyflawni rhywbeth, neu nad ydyn nhw'n ddigon da oherwydd eu rhyw.

"Rwyf wedi wynebu heriau yn fy mywyd yn tyfu i fyny ag anabledd, ond rwyf bob amser wedi ei ddefnyddio fel mantais. I fi, mae meddylfryd ac agwedd yn allweddol i gyflawni beth bynnag fo'r her.

"Mae pob merch ifanc yn haeddu'r un cyfleoedd... i gyflawni eu llawn botensial a chyrraedd eu huchelgais."

'Gofyn am help ddim yn wendid'

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Mae wastad ffordd o gyflawni" meddai Francesca Antoniazzi

Un o siaradwyr ifanc y gynhadledd fydd Francesca Antoniazzi o Ynys Môn, chwaraewr pêl-rwyd a dorrodd ei chefn mewn damwain pum mlynedd yn ôl.

Yn hytrach na rhoi'r gorau i chwaraeon, dechreuodd chwarae pêl-fasged cadair olwyn a chodi pwysau, a chipiodd ddwy fedal aur ym Mhencampwriaeth Cymru a dwy fedal arian ym Mhencampwriaeth Prydain.

Dywedodd: "Mae pethau'n ymddangos yn amhosib, nes eich bod yn eu cyflawni. Mae wastad ffordd o gyflawni, hyd yn oed os oes rhaid gofyn am help, nid yw gofyn am help yn wendid."

'Ysbrydoli'

Bydd sesiynau eraill yn rhan o'r gynhadledd, gyda siaradwyr fel Beca Lyne-Pirkis yn trafod y berthynas rhwng bwyd a chwaraeon a sesiwn am ddelwedd y corff gyda'r model a chyn-gystadleuydd Love Island Connagh Howard.

Bydd sesiwn am iechyd meddwl hefyd yn rhan o'r diwrnod gyda'r hyfforddwraig, Catrin Ahmun.

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru bod yr ymateb i'r prosiect "wedi bod yn wych".

Ychwanegodd mai gobaith y gynhadledd yw "helpu ysbrydoli cenhedlaeth o ferched Cymru i brofi'r budd o ymwneud â phob agwedd o chwaraeon".

Pynciau cysylltiedig