Dathlu Dydd Gŵyl Dewi - a CPD Wrecsam - yn Hollywood

  • Cyhoeddwyd
Rob McElhenney and Maxine HughesFfynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Maxine Hughes ei bod yn "teimlo'n lwcus iawn i fod wedi cael y cyfle i fod yn rhan o stori Wrecsam"

Yn bendant, nid oedd hi'n noson Wener gyffredin yn Hollywood. Roedd yna fwy na 100 o bobl mewn lleoliad sy'n boblogaidd ymhlith enwogion - a phawb yn canu yn Gymraeg.

Pe baech chi wedi gofyn i mi ddwy flynedd yn ôl a oedd hi'n bosib llenwi bar yn Los Angeles gyda ffigurau allweddol o fewn chwaraeon, busnes a'r celfyddydau, a fyddai'n dod at ei gilydd i ddathlu Cymru - mi fyswn i wedi dweud "na, dim ffordd".

Ond yna fe ddaeth Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

Ryan Reynolds a Rob McElhenneyFfynhonnell y llun, Gemma Thomas/Wrexham AFC
Disgrifiad o’r llun,

Ryan Reynolds a Rob McElhenney sy'n berchen ar Glwb Pêl-droed Wrecsam

Yr actor Humphrey Ker gafodd y syniad i brynu clwb pêl-droed, ac fe berswadiodd Rob a Ryan yn gyflym i neidio ar y syniad.

Roedd Humphrey'n edrych ym mhob man am glwb nes iddo ddod o hyd i Glwb Pêl-droed Wrecsam.

Y dyddiau hyn, os wyt ti'n gofyn i unrhyw un o'r tri, "pam Wrecsam?," maen nhw bob amser yn ymateb "pam lai?".

Dyma'r agwedd uchelgeisiol ar gyfer trydydd clwb pêl-droed hynaf y byd sydd wedi ysgogi Wrecsam i fynd o nerth i nerth dros y 12 mis diwethaf, gyda'r gemau ailgyfle ar y gorwel.

Yn fuan iawn, daeth Fleur Robinson yn Brif Swyddog Gweithredol. Roedd Fleur wedi helpu Burton Albion o fod yn dîm di-gynghrair i dreulio dau dymor yn ail haen cynghrair bêl-droed Lloegr.

Mae Rob a Ryan wedi dod yn genhadon answyddogol i Gymru, rôl y mae Rob yn dweud nad oedd yn ei disgwyl, ond mae yn bendant yn ei chofleidio.

"Flwyddyn yn ôl dydw i ddim yn meddwl y byddai'r un ohonon ni wedi dyfalu y byddai hyn yn digwydd, ond rydym yn derbyn y cyfrifoldeb yn llwyr gydag anrhydedd mawr," meddai Rob.

Disgrifiad,

Mae Rob McElhenney yn awyddus i ddysgu mwy o'r Gymraeg

Mae tîm rhaglen ddogfen Welcome to Wrexham, sy'n dod â chyfres i rwydwaith FX yn ddiweddarach eleni, yn dilyn y daith gyfan.

Pan ffilmiais i hysbyseb i gyhoeddi'r sioe, daeth yn amlwg iawn i mi fod gan Rob a Ryan barch dwfn at y Gymraeg.

Blwyddyn yn ddiweddarach, ac mae fy mhrofiad i, fel Cymraes sy'n byw yn yr Unol Daleithiau, wedi newid yn aruthrol.

Flwyddyn yn ôl bu'n rhaid i mi egluro'n gyson ble mae Cymru, a bod y Gymraeg yn iaith ei hun. Rŵan 'dw i'n clywed yn aml, "o, Cymru - hynny yw, lle mae Wrecsam?" pan dw i'n cyfarfod Americanwyr am y tro cyntaf.

Digwyddiad LAFfynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ddigwyddiad i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn America bob blwyddyn

Mae Rob yn arbennig wedi taflu ei hun i mewn i fod yn Gymro anrhydeddus.

"Mae'n iaith anodd iawn i'w dysgu, ond rwy'n gobeithio dal ati ac un diwrnod gallu siarad yn ddigon rhugl i allu dweud jôcs yn Gymraeg," meddai.

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yng Ngogledd America yn cynnal digwyddiadau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ac eleni fe'i chynhaliwyd yn Los Angeles.

Tom LewisFfynhonnell y llun, Jacqueline Lee
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna ganu a sgwrsio wrth i dros 100 o bobl fynychu'r dathliad nos Wener

Cyflwynwyd y noson fel "dathliad o bopeth Cymreig a Chlwb Pêl-droed Wrecsam," gyda'r 'Cymro' newydd, Rob McElhenney, yn westai arbennig.

Roedd y lleoliad, The Pendry, a sicrhawyd gan Efe Sokol, Pennaeth rhanbarth Gogledd-ddwyrain Gogledd America Llywodraeth Cymru, yn anhygoel.

Cerddodd y gwesteion y carped coch y tu allan, i mewn i ystafell mewnol hyfryd. Roedd hyd yn oed modelau yn dal tri chit Clwb Pêl-droed Wrecsam wrth i'r cerddor Cymreig Tom Lewis eu croesawu gyda chaneuon Cymreig traddodiadol.

"Y diwydiant creadigol a chwaraeon yw'r ddwy flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yng Ngogledd America," meddai Eoghan O'Regan, Dirprwy Bennaeth Llywodraeth Cymru yn yr Unol Daleithiau.

"Mae mor bwysig ein bod yn gallu dod â phawb at ei gilydd, gwneud cysylltiadau newydd, a chreu perthnasoedd newydd i helpu adeiladu proffil Cymru yma, a chreu mwy o gyfleoedd a swyddi i Gymru a Chymry."

Rob a SianFfynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Rob McElhenney a Phrif Weithredwr newydd S4C, Siân Doyle

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i'r cyfryngau Cymraeg ddangos fod Cymru'n gallu perfformio ar lwyfan byd-eang, a bod Cymru ar agor ar gyfer cyd-gynyrchiadau a phartneriaethau.

Bues i'n siarad â Phrif Weithredwr newydd S4C, Siân Doyle, a oedd wedi hedfan yma ar gyfer y digwyddiad.

Mae gan Siân brofiad helaeth yn y sectorau telathrebu a manwerthu yn y DU a Gogledd America, a bydd yn canolbwyntio ar wthio S4C i farchnad y cyfryngau byd-eang, tyfu talent yng Nghymru, a dod â'r Gymraeg i lwyfan y byd.

"Dyma gyfle ffantastig i gael partneriaethau, dod â Chymru i Los Angeles, a Los Angeles i Gymru," meddai.

"Blaenoriaeth S4C ydy creu cynnwys cyffrous yn yr iaith Gymraeg, ond ein bod ni wedyn yn gallu dangos y cynnwys i'r byd rhyngwladol."

RobFfynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rob McElhenney arwain y gwesteion wrth iddyn nhw ganu yn Gymraeg

Cyn y digwyddiad, roedd sawl un yn gofyn a fyddai Rob yn dweud rhywbeth yn Gymraeg, ac ni wnaeth eu siomi.

Dechreuodd drwy annerch pawb yn Gymraeg, cyn difyrru'r ystafell gyda straeon am Pennsylvania a Wrecsam.

"Un funud 'dw i yng nghanol California, yn edrych ar y môr yn mwynhau fy mywyd, a'r peth nesaf rydw i reit yng nghanol diwylliant Cymraeg," meddai Rob.

"Ac yn sydyn, sylweddolais fod hwn yn fudiad llawer mwy na phêl-droed yn unig."

Cae RasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae stori CPD Wrecsam wedi dod â chryn sylw i Gymru

Roedd yr ystafell wedi'i syfrdanu gan eiriau Rob, yr emosiwn yn amlwg wedi ei rannu gan bawb, Cymreig neu beidio, wrth iddo orffen ei araith gan weiddi "Cymru am byth!" ac arwain pawb mewn cân Gymraeg.

I mi, roedd yn foment enfawr o falchder personol.

Mae teulu fy nhad yn dod o Wrecsam, felly 'dw i'n teimlo'n lwcus iawn i fod wedi cael y cyfle i fod yn rhan o stori Wrecsam mewn ffordd fach.

Rwy'n cofio tyfu i fyny a, fel y mae llawer ohonom wedi ei brofi mewn lleoliad gyhoeddus, clywed ymwelwyr â Chymru'n dweud mai dim ond er mwyn eu rhwystro nhw rhag ein deall yr oeddwn i'n siarad Cymraeg.

Wrth i mi ddod yn newyddiadurwr rhyngwladol sy'n byw yn yr Unol Daleithiau, fe wnes i benderfyniad i flaenoriaethu darlledu Cymraeg.

Maxine HughesFfynhonnell y llun, Twitter @VancityReynolds
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Maxine yn rhan o hysbyseb ar gyfer rhaglen ddogfen am Rob a Ryan yn prynu CPD Wrecsam

Rhai o adegau balchaf fy ngyrfa yw pan 'dw i'n cyflwyno stori o America ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg.

'Dw i'n credu y dylai'r cyfryngau Cymraeg fod yn gwthio ffiniau a chreu penawdau yn y Gymraeg. Mae Rob a Ryan wedi dod â'r Gymraeg i'r byd ac wedi dechrau chwalu rhwystrau.

Ar ôl darllediad y gyfres Welcome to Wrecsam yn ddiweddarach eleni, 'dw i'n sicr y bydd pob person 'dw i'n cyfarfod yma wedi clywed am Wrecsam a Chymru.

Eisteddais i lawr a sgwrsio gyda Rob ac, am y tro cyntaf, fe wnes i ofyn cwestiwn iddo yn gyfan gwbl yn Gymraeg.

"Rob, sut mae dysgu Cymraeg yn mynd?"

A heb golli curiad, ymatebodd Rob: "'Dw i'n caru'r Gymraeg, ac yn gweithio i wella."

A meddyliais i fy hun, fydd hi ddim yn fy synnu os bydd Rob y flwyddyn nesaf yn sefyll i fyny o flaen pawb ac yn dweud jôcs yn Gymraeg.

RobFfynhonnell y llun, Maxine Hughes