Iechyd menywod: Brwydro yn erbyn y 'bias'
- Cyhoeddwyd
"Ro'n i'n 21 ac yn gwybod os ydw i'n cyrraedd yr ysbyty, ma' 'na rhywun yn mynd i ffeindio rhywbeth mawr yn bod arna i."
Ym mis Mai 2009, er i Manon Mai Rhys-Jones ymweld â'r uned frys yn ogystal a dau ymweliad pellach gyda meddyg teulu, bu'n rhaid iddi aros tan ei bod hi'n ddifrifol wael er mwyn cael y diagnosis cywir.
Ar ôl wythnos o sgrechian mewn poen ac angen morffin, mae Manon yn sôn am ei theimladau pan holodd un o'r doctoriaid: "Wyt ti'n meddwl falle bod o yn dy ben di, y boen yma?"
I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, mae Gwneud Bywyd yn Haws ar BBC Radio Cymru wedi darlledu pennod arbennig am fias rhywedd yn y gwasanaeth iechyd.
Gyda chwestiwn y doctor yn atseinio'r hyn sy'n cael ei drafod yn yr ymgyrch gan Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod i 'Rhwygo'r Bias' ym maes iechyd, dangosodd gwir gyflwr Manon bod diystyru poenau menywod yn gallu bod yn beryglus.
Darganfyddwyd bod ganddi sawl clot ar ddwy ochr ei hysgyfaint ac er i'r clotiau gael eu trin, mae hi dal yn byw gyda chwestiynau am wir reswm ei chyflwr - a oedd 'na gysylltiad gyda'r bilsen atalgenhedlu ac a ydy hi'n gallu bod yn hyderus yn y penderfyniadau y mae hi'n ei wneud nawr?
Gyda'i chwaer hi hefyd yn byw gyda chlot nad oes modd i'w waredu, mae Manon eisiau atebion: "Does 'na neb wedi mynd at wraidd y broblem a be' sy'n neud ni'n rhwystredig nawr ydy, mae gen i ddwy o ferched, mae gan fy chwaer ddwy o ferched a 'da ni isho gwbod ydy hyn yn rhywbeth sydd yn ein DNA ni ac yn rhywbeth sydd yn digwydd i ferched, ac ydyn ni wedi pasio fo ymlaen i'n merched ni?"
'Diffyg ymchwil i gyrff menywod'
Yn draddodiadol, gan mai cyrff dynion sydd wedi cael eu hastudio, mae diffyg ymchwil wrth ystyried sut mae cyflyrau iechyd yn effeithio ar gyrff menywod.
Ond nid dyma'r unig reswm mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yn galw am Rwygo'r Bias ym maes iechyd. Maen nhw'n honni hefyd nad yw poen menywod bob amser yn cael ei chymryd o ddifri gydag ymchwil yn dangos bod doctoriaid yn fwy tueddol o drin poen menyw fel canlyniad i gyflwr iechyd meddyliol yn hytrach na chyflwr corfforol.
Ar wefan Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, maent yn datgan bod "bias rhywedd yn cael effaith negyddol enfawr ar ddiagnosis meddygol ac ar ansawdd y gofal mae menywod yn ei dderbyn sy'n arwain at oedi hir o ran diagnosis, cam-ddiagnosis a hyd yn oed marwolaeth."
Bias yng Nghymru
Wrth sgwrsio ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws, dywedodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan, ei bod hi'n cydnabod bod bias yn bodoli o fewn y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol yng Nghymru pan mae'n dod at iechyd menywod a bod "angen mynd ymhellach ac yn fwy eang" o ran yr hyn sy'n cael ei wneud o fewn y maes.
Mae'r darlun diweddar yng Nghymru yn dangos bod nifer o ymgyrchwyr, sefydliadau ac elusennau wedi tynnu sylw at yr angen am newid yn y wlad hon. Yn eu plith, mae gwaith y Cyngor Meddygol Prydeinig, British Heart Foundation Cymru, Ymdriniaeth Deg i Fenywod Cymru a'r elusen Birth Rights oll yn tystio i bresenoldeb bias rhywedd yn ein system iechyd.
Cyn hir, bydd llywodraeth Lloegr yn cyhoeddi eu strategaeth iechyd menywod ac mae gan yr Alban gynllun iechyd menywod yn ogystal. Does dim strategaeth o'r fath yn bodoli yng Nghymru er i Eluned Morgan nodi ei bod hi'n "gobeithio y byddwn ni'n gallu cyflwyno rhaglen newydd ar gyfer menywod cyn yr haf achos dwi yn ystyried bod angen i ni wneud lot fawr o waith yn y maes yma."
Ond beth yn union yw bias rhywedd?
Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn esbonio bod gan bawb ohonom rhyw ffurf o fias rhywedd, er efallai nad ydym ni bob amser yn ymwybodol ohono.
Cyflyrau yn y cysgodion
Chwalu'r tabŵ o amgylch pynciau sy'n ymwneud â sut mae cyflyrau iechyd yn effeithio cyrff menywod yw nod yr ymgyrchydd endometriosis Anna Cooper o Wrecsam, a hynny er mwyn gwella'r llwybr i genedlaethau'r dyfodol.
Mae'r fam i ferch fach sy'n chwe mlwydd oed eisoes wedi cael 14 llawdriniaeth fawr i geisio mynd i'r afael gyda chyflwr sy'n cael effaith enfawr ar ei bywyd.
Wedi dechrau ei mislif yn 11 oed, roedd Anna, sy'n 28 oed, mewn poenau ofnadwy o'r dechrau'n deg. Er gwaethaf sawl taith i geisio cael atebion, llawdriniaeth frys yn 16 oed i gael ei pendics wedi ei dynnu a ddangosodd bod ganddi endometriosis.
Er hynny, bu rhaid i Anna aros am agos i ddwy flynedd arall cyn i'w diagnosis gael ei gadarnhau a hynny mewn ysbyty preifat.
Mae endometriosis yn gyflwr sydd yn effeithio ar un o bob 10 dynes ym Mhrydain, lle mae celloedd fel y rhai yn leinin y groth yn tyfu mewn rhannau eraill o'r corff sy'n gallu achosi poen difrifol a gwaedu trwm, ymhlith symptomau eraill.
Gyda'r ystadegau'n dangos bod y cyflwr hwn yr un mor gyffredin ag asthma a diabetes, mae'n rhaid aros rhwng wyth a naw mlynedd i gael diagnosis ohono yng Nghymru. Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd nyrs endometriosis ym mhob bwrdd iechyd ond dim ond dau arbenigwr fydd yn parhau ar gyfer y wlad gyfan.
Dywedodd Anna: "Gena'i stoma bag, so ma colon bach fi'n dod tu allan o'r stumog mewn i'r bag, a gena'i catheter achos bod bladder fi ddim yn gweithio'n iawn a dwi wedi cael radical hysterectomy."
Wrth fynd i ysbytai yn y wlad hon, mae Anna'n dweud ei bod wedi profi bias rhywedd o ran gwybodaeth ac ymchwil i gyrff menywod gan deimlo ei bod hi'n gorfod esbonio'n aml wrth feddygon beth yn union yw'r cyflwr.
Dywedodd: "Es i fewn i'r ysbyty ar ôl fi gael hysterectomy fi achos odd gena'i infection a'r peth gynta' nath o ofyn i fi oedd os o'n i'n pregnant.
"Ac es i ato fo a dweud, 'I've had a hysterectomy; I can't be pregnant'"
"Oedd e'n mynd drwy fy hanes i a nath o ddweud, 'oh you've got endometriosis and that doesn't matter anymore because you've had a hysterectomy' ac o'n i'n edrych arno fo - mae'n gynaecologist mewn ysbyty ac o'n i just fel, 'what hope do we have?' A dyna pam 'na i fynd i A&E yn Lerpwl."
Mae Anna yn credu bod ei phrofiadau hi a nifer eraill sy'n dioddef o'r cyflwr oherwydd y ffaith ei bod hi'n ddynes: "Dwi definitely yn meddwl byse fo'n gael ei gymryd mwy serious os byse fo'n effeithio pawb, dim jest merched."
Atebion
Wrth feddwl am y ffordd ymlaen i sicrhau tegwch i fenywod Cymru, dywedodd Eluned Morgan: "Y peth cyntaf mae rhaid i ni ei wneud yw i ddangos bod 'na broblem.
"Ac mae rhaid i ni wedyn, yn arbennig fel gwleidydd, i ddelio gyda'r broblem. Ar hyn o bryd, dwi ddim yn meddwl bod digon o olwg gyda ni o ran hyd a lled y broblem ry' ni yn wynebu fel menywod tu fewn i'r gwasanaeth iechyd.
"Mae ffordd bell i fynd ond ry' ni wedi dechrau ar y trywydd yma. Ond dwi'n benderfynol fel menyw yn y rôl yma - y fenyw gyntaf sydd wedi cael y rôl mewn amser hir - bod 'na ofyniad arna i a bod 'na gyfrifoldeb arna i i wella'r sefyllfa ar gyfer menywod yng Nghymru."
Gwrandewch ar rhifyn arbennig Gwneud Bywyd yn Haws ar BBC Sounds.