O Abersoch i Dijon: ffrindiau pen pal 76 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Beti Hughes a GiselleFfynhonnell y llun, Beti Isobel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Beti Isobel Hughes a'i ffrind Giselé Raymonde Parrot yn Dijon, 1989.

Anaml iawn rydych yn clywed am berthynas pen pal y dyddiau hyn ac yn oes y cyfryngau cymdeithasol mae'n teimlo fel hen hen arfer. Ond cyn cyrhaeddiad yr oes ddigidol roedd ysgrifennu llythyrau o ddosbarth yr ysgol i wledydd pell yn beth cyffredin iawn.

Er hynny, lwcus iawn fyddai derbyn llythyr yn ôl trwy'r post, heb sôn am ddechrau perthynas fyddai'n parhau am 76 mlynedd.

Tua diwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1945 anfonodd Beti Isobel Hughes, 93 o Abersoch, Pen Llŷn lythyr o'i dosbarth Ffrangeg yn Ysgol Botwnnog.

Cyrhaeddodd y llythyr ferch o'r enw Giselé Raymonde Parrot yn Auxonne ger Dijon, Ffrainc ac o'r foment honno ganwyd perthynas sydd wedi parhau dros dri chwarter canrif.

"Dwi di bod isio gwneud yr erthygl ma ers talwm," meddai Beti Hughes o Fwlchtocyn, ger Abersoch, sydd wedi ysgrifennu am yr hanes yng nghylchgrawn Y Wawr gan Ferched y Wawr.

"Mae pobl yn colli'r grefft o sgwennu dyddiau yma tydi. Rŵan does 'na neb yn trafferth sgwennu nag oes. Heb sgwennu llythyr mi faswn i ar goll. Dw'i ddim yn gwneud y pethau diweddaraf ma.

"Heb law am sgwennu'r llythyr faswn i ddim wedi gallu dod i nabod Giselé."

LlythyrrauFfynhonnell y llun, Beti Isobel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Pentwr o lythyrau a chardiau post o berthynas pen pal 76 mlynedd rhwng Beti Isobel Hughes a Giselé Raymonde Parrot.

Ysgrifennwyd y darn hwn gan Beti Isobel Hughes ar gyfer Y Wawr, diolchwn am gael caniatâd i'w ddefnyddio ar Cymru Fyw.

line

O Abersoch i Dijon

Darllenais mewn cylchgrawn yn ddiweddar bod sgwennu pwt o lythyr neu gerdyn yn ffordd dda o ennyn diddordeb a chadw cysylltiad â ffrindiau, yn enwedig yn ystod y cyfnodau clo, hir a diflas 'ma.

Rhaid dweud fod hyn wedi bod o wirioneddol bwys i mi ac mae gweld y fan fach goch yn cyrraedd yr adwy neu glywed sŵn traed un o'r postmyn clên yn crensian drwy gerrig y llwybr gyda'i gyfarchiad llawen — o bell — yn dod â chryn bleser i mi dderbyn gair oddi wrth gyfeillion ffyddlon.

Rhai blynyddoedd yn ôl, clywais y ddarlledwraig Rachel Garside yn trafod y pwnc o lythyru ar Radio Cymru. Ond yn sicr, erbyn hyn, mae'r holl ddylanwadau technegol wedi prysuro tranc yr arferiad.

Ers fy nyddiau yn Ysgol Botwnnog, Llŷn, ychydig cyn diwedd yr Ail Ryfel byd yn 1945, bûm yn ysgrifennu'n ddi-dor at ferch yn Ffrainc. Syniad ein hathrawes Ffrangeg, Anna Wyn Richards (fel yr oedd bryd hynny) oedd ein cymell, fel dosbarth, i arfer gwella'n iaith trwy sgwennu llythyr yn Ffrangeg. Merch o'r enw Giselé Raymonde Parrot oedd gyferbyn â'm enw i.

Y llythyr gyntaf dderbyniodd Beti gan Giselé ym mis Ebrill 1945Ffynhonnell y llun, Beti Isobel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Y llythyr gyntaf dderbyniodd Beti (Griffiths bryd hynny) gan Giselé ym mis Ebrill 1945.

Daeth ei llythyr cyntaf i'm cartref yn Abersoch yn 1945, gyda llun ohoni, ynghyd â pheth o'i hanes. Merch ysgol, unig blentyn, a oedd yn byw gyda'i rhieni yn Auxonne, tref ar yr Afon Saone, rhwng Dole a Dijon yn y Cote D'Or.

Giselé Raymonde ParrotFfynhonnell y llun, Beti Isobel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Giselé Raymonde Parrot.

Fel hen dref garsiwn, roedd Auxonne yn ymhyfrydu yn y ffaith fod Napoleon Bonaparte a'i gatrawd wedi treulio peth amser yn y barics yno yn ystod rhyfeloedd Ffrainc yn y gorffennol pell.

Llythyr pen palFfynhonnell y llun, Beti Isobel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

"Dear Betty, it is with great pleasure that I have received your letter."

Teithio i Ffrainc... yn 1950

Daliodd y ddwy ohonom sgwennu at ein gilydd yn achlysurol, gan rannu'n profiadau fel genod yn ein harddegau yn y cyfnod.

Ond, roedd gan Giselé feistrolaeth mor dda o'r iaith Saesneg fel y tueddais, ymhen amser, ei hateb yn yr iaith fain yn lle cadw at y pwrpas gwreiddiol! Anfonai gerdyn bob penblwydd a Nadolig, ynghyd â gwahoddiadau i mi ymweld â'i chartref i gyfarfod ei rhieni.

Erbyn 1950, ar ôl dysgu Gwyddor Tŷ am flwyddyn ym Manceinion, penderfynais dderbyn ei chynnig caredig yn ystod gwyliau mis Awst - tipyn o fenter i mi ar y pryd. Trên i Lundain ac ymlaen i Dover i ddal y fferi i Calais. Trên wedyn i Baris, tacsi i'r Gare de Lyon a roddodd gyfle i mi ryfeddu a chael cip ar rai o adeiladau enwog y ddinas.

Cerdyn post Beti i Giselle o 1950Ffynhonnell y llun, Beti Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn post Beti i Giselé, Awst 10, 1950, yn dweud ei bod ar ei ffordd i Auxonne.

Wedi'r siwrne faith ar drên eto, rhyddhad oedd cyrraedd dinas Dijon a gweld Giselé a'i rhieni yn disgwyl amdana i yn y stesion yn barod i'm hebrwng i'w cartref ar Stryd Fawr Auxonne. Yn ffodus, roedd Saesneg Giselé lawer gwell na fy Ffrangeg tila i. Nid oedd gan ei mam ddim Saesneg ond gallai ei thad fynegi ei hun yn weddol.

Ond roedd eu croeso'n gynnes iawn a buan y teimlwn yn gyfforddus yn eu cwmni caredig fel teulu. Roedd Giselé yn ferch ddeniadol, hwyliog a llawen ac, yn amlwg, hi oedd cannwyll llygaid ei rhieni. Peiriannydd a'r 'Electricitie de France' yn Auxonne oedd ei thad.

Gisele a Beti yn Auxonne, 1950Ffynhonnell y llun, Beti Isobel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Giselé a Beti yn Auxonne, 1950.

Daeth Giselé i'm deffro yn gynnar un bore a bu rhaid brysio i wisgo. Roedd cyffro mawr yn y dref a thyrfa wedi ymhél ar y stryd a thros y bont. Deallais fod ras feicwyr bwysig yn pasio drwy Auxonne — Le Tour de France 1950 - golygfa i'w chofio, er, rhaid cyfaddef, na wyddwn ddim am ei henwogrwydd ar y pryd.

Cefais wyliau diddorol iawn — cyfarfod ffrindiau Giselé, nofio yn y llyn, mwynhau prydau bwyd arbennig ei mam, ymweld â Dijon a'r Gerddi Darcy hardd yno.

Wrth ymadael, addewais y deuai cyfle'n fuan i minnau gael ei gwahodd i Gymru. Roedd yn awyddus hefyd i ymweld â Llundain ar ei ffordd i Ben Llŷn.

Gwahodd Giselé i Abersoch

Tair blynedd yn ddiweddarach, er bod dogni bwyd yn parhau, cytunodd fy rhieni y cawn wahodd Giselé i'm cartref yn Abersoch yn ystod gwyliau Pasg 1953.

Cawsom wyliau dedwydd, a'm chwaer Joyce a minnau'n ei hebrwng yma ac acw i gyfarfod ein ffrindiau yn y 'Rabar, trefnu picnic ar draeth Borth Fawr, cerdded i Borth Ceiriad a Phorth Neigwl. Ymwelwyd â Marchnad Pwllheli ar ddydd Mercher, lle'r oedd yn ei helfen yn chwilota am anrhegion i fynd adra gyda hi.

Giselé a Beti, Abersoch 1953Ffynhonnell y llun, Beti Isobel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Giselé a Beti, Abersoch 1953.

Roedd yn awyddus o hyd i dreulio cyfnod yn Lloegr i wella'i Saesneg, a thrwy ffrindiau, medrais drefnu iddi ddod yn au pair at deulu ifanc a oedd angen cymorth i fagu tri o blant bywiog yn Swydd Stafford. Treuliodd flwyddyn hapus yno a chawsom gyfle i gyfarfod bob hyn a hyn.

Yn fuan wedi iddi ddychwelyd i Auxonne, cyfarfu â'i gŵr a ddaeth fel milwr i'r garsiwn yno - Captain Maurice Le Gallo- ac fe'u priodwyd yn 1955, blwyddyn ar ôl i'm gŵr Arfon a minnau briodi.

1945 - 2021

Roedd brwydro rhwng Ffrainc a Gogledd Affrica ar y pryd a threuliodd gyfnod pryderus â'i gŵr yn Algeria cyn dychwelyd i Ffrainc ac yn ôl i Dijon. Ganed dau o feibion iddynt—Jean-Frederic a Christophe - ac mae hithau'n nain i bedwar o wyrion erbyn hyn.

Tra roedd fy ngŵr a minnau ar wyliau'n crwydro Ffrainc yn 1989, galwodd y coach am noson mewn gwesty yn Dijon gan roi cyfle i mi drefnu cyfarfod â Giselé mewn caffi bach tawel - atgof dymunol iawn arall.

Beti Hughes a GiselleFfynhonnell y llun, Beti Isobel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Place François Rude, Dijon yn 1989.

Daeth ein cyfarfod olaf yn Ebrill 2009. Roedd Giselé wedi colli ei gŵr erbyn hyn, ond daeth ar wyliau gyda'r Gymdeithas Rotary i Gaerdydd. Trefnwyd i Arfon a minnau ei chyfarfod yng Nghastell Coch. Roedd hi a'i chyfeillion ar ymweliad â'r brifddinas ac wedi mwynhau cyngerdd arbennig yn y Bae gyda Rhian Lois yn perfformio yn Gymraeg.

Giselé, Arfon a Beti yng Nghastell Coch, 2019Ffynhonnell y llun, Beti Isobel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Giselé, Arfon a Beti yng Nghastell Coch, 2009.

Y tro ddiwethaf i mi glywed gan Gisellé oedd drwy lythyr yn ystod gwyliau Nadolig 2021.

Diolchaf am gyfeillgarwch arbennig sy'n parhau ac â ddaeth a chymaint o bleser i mi dros 76 o flynyddoedd. Rwy'n falch hefyd i mi gael cyfle ac i'm hathrawes, y Fon. Anna Wyn Jones (nee Richards) ein hannog i ddyfalbarhau.

Ffrindiau pen palFfynhonnell y llun, Beti Isobel Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Beti Hughes, 93 oed yn 2022. Giselé, 90 oed yn 2018.

Hefyd o ddiddordeb