Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Lions 37-20 Rygbi Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n daith siomedig i Dde Affrica i Rygbi Caerdydd wedi iddyn nhw golli'n erbyn Lions brynhawn Sul.
Roedd hi'n gais hawdd i'r tîm cartref i gychwyn y gêm a Rygbi Caerdydd dan fygythiad yn syth.
Buan y daeth dwy gic gosb i'r tîm o Gymru a'r ymosod yn addawol hefyd - un gic gosb i'r tîm cartref hefyd a'r sgôr yn 10-6 wedi 12 munud yn unig.
Parhau i lifo wnaeth pwyntiau'r Lions gyda Edwill van der Merwe yn croesi'r llinell ddwywaith.
Daeth cais i Rygbi Caerdydd cyn hanner amser gyda Summerhill yn llwyddo i daro'n ôl.
Funudau i mewn i'r ail hanner, a Chaerdydd wrthi eto. Cais i Botham a'r bwlch ar y sgorfwrdd yn lleihau.
Ond dyna oedd diwedd y ceisiau i Gaerdydd a cherdyn melyn i Dacey.
Lions yn llwyddo gyda chic gosb a chais arall cyn y chwiban olaf a'r sgôr terfynol yn 37-20.