Sut i fwyta'n dda ar gyllideb
- Cyhoeddwyd
Mae'n her i nifer ohonom i gadw dau ben llinyn ynghyd gyda biliau trydan a nwy'n cynyddu a phrisiau bwyd hefyd yn fwy costus.
Fel rhan o gyfres costau byw Cymru Fyw, mae Bwyd Da Môn wedi rhannu cyngor am sut i arbed arian tra'n siopa a pharatoi bwyd.
Sefydlwyd Bwyd Da Môn i sicrhau fod pobl Ynys Môn yn gallu cael bwyd o ansawdd da am bris isel ac i atal gwastraff bwyd.
Brandiau
Peidiwch prynu nwyddau o frandiau adnabyddus - mae prynu nwyddau brand y siop fel arfer yn rhatach. Neu beth am drio archfarchnad rhatach?
Bargeinion
Cofiwch am y silffoedd yn yr archfarchnad lle mae nwyddau sy' wedi gostwng mewn pris er mwyn gwerthu'n gyflym, mae llawer o fargeinion ar gael ar amseroedd penodol o'r diwrnod. Cofiwch fod posib rhewi pethau hefyd - mae'n gyfle da i gael cyflenwad o nwyddau defnyddiol fel llysiau, cig a physgod.
Iach a rhad
Defnyddiwch mwy o ffa, tatws a chorbys (lentils) mewn ryseitiau yn lle cig, er enghraifft, mewn tsili neu cyri. Mae hyn yn eich llenwi ac yn iach.
Bwyd tymhorol
Prynwch fwydydd tymhorol - mae llysiau a ffrwythau llawer rhatach pan yn dymhorol. Er enghraifft, mae mefus yn rhatach yn ystod yr haf; llysiau fel pwmpenni yn yr hydref.
Llysiau a ffrwythau
Prynwch llysiau a ffrwythau rhydd yn lle rhai mewn paced - maen nhw fel arfer yn rhatach. (Mae'n werth edrych i weld beth yw'r pris am bob cilogram er mwyn gwirio hyn)
Cig
Prynwch gig sy' ddim wedi cael ei baratoi. Mae cyw iâr cyfan yn rhatach na brest ac mae'n hawdd i sicrhau fod y cig yn creu sawl pryd - gallwch wneud stoc efo'r asgwrn ac wedyn cyri neu gawl.
Prydiau mawr
Paratowch brydiau mawr gan rhewi beth sy'n weddill er mwyn osgoi prynu bwyd parod. Mae cael pryd o fwyd parod yn y rhewgell lawer rhatach na phrynu tecawe ac yn iachach na phryd parod. Mae pob math o fwydydd yn rhewi'n dda, er enghraifft, bolognese, cyri neu tsili. Mae'n bosib hefyd rhewi garlleg a sinsir - gallwch goginio nhw'n syth o'r rhewgell.
Gwastraff bwyd
Er mwyn lleihau gwastraff bwyd, gwnewch rhestr siopa er mwyn gwneud yn siŵr eich bod dim ond yn prynu bwyd sy'n cael ei ddefnyddio.
Ffwrn araf
Defnyddio ffwrn araf (slow cooker) er mwyn arbed amser ac arian. Gofynwch i'ch cigydd lleol pa ddarnau sy'n rhad ac yn dda i'w coginio'n araf.
Coginio clyfar
Os ydych chi'n creu un saws tomato syml, cofiwch ei fod yn gallu cael ei ddefnyddio i wneud tsili, bolognese, pitsa, cyri neu saws pasta. Syniadau am brydiau rhad
Yn y gymuned
Ymunwch efo dosbarth coginio er mwyn dysgu mwy am sut i goginio ar gyllideb.
Mae Cymru Fyw eisiau clywed sut mae'r cynnydd mewn prisiau a chostau byw wedi effeithio arnoch chi.
Ydych chi wedi gorfod addasu y ffordd yr ydych chi'n siopa, gymdeithasu neu agwedd arall o'ch bywyd?
Rhannwch eich profiadau gyda ni ac fe fyddwn yn cyhoeddi detholiad o'r straeon ar Cymru Fyw. E-bostiwch: cymrufyw@bbc.co.uk