Dros 10,000 yn cynnig cartrefi i ffoaduriaid Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Ffoaduriaid yn croesi'r ffin ar droed o Wcráin i Korczowa yng Ngwlad PwylFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ffoaduriaid yn croesi'r ffin ar droed o Wcráin i Korczowa yng Ngwlad Pwyl

Mae dros 10,000 o bobl yng Nghymru wedi mynegi diddordeb mewn cartrefu ffoaduriaid o Wcráin, yn ôl Ysgrifennydd Cymru.

Gan ddisgrifio'r ymateb fel un "rhyfeddol", cadarnhaodd Simon Hart fod 10,236 wedi datgan diddordeb hyd at ddydd Iau.

Mae'r cynllun Cartrefi i Wcráin yn galluogi pobl sydd wedi ffoi o'r wlad i aros gyda noddwyr yn y DU.

Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, eisoes wedi datgan byddai o leiaf 1,000 o ffoaduriaid yn cael eu cartrefu yng Nghymru o ganlyniad i ymosodiad Rwsia ar y wlad.

Bydd unrhyw deuluoedd sy'n cartrefu ffoaduriaid yn derbyn £350 y mis am wneud hynny, gyda 147,500 ar draws y DU wedi mynegi diddordeb mewn cynnig cymorth o'r fath.

'Hanes hir a balch o gefnogi ffoaduriaid'

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart: "Mae gan Gymru hanes hir a balch o gefnogi ffoaduriaid ac mae ymateb pobl ar draws y wlad i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag yr ymosodiad ar Wcráin wedi bod yn rhyfeddol.

"Gyda mwy na 10,000 o ddatganiadau o ddiddordeb Cymreig hyd yma i ddarparu tai a chymorth trwy gynllun Cartrefi i'r Wcráin Llywodraeth y DU, mae pobl ledled Cymru yn dangos haelioni rhyfeddol tuag at y rhai sy'n wynebu'r amgylchiadau mwyaf echrydus ac anodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiodd Simon Hart yr ymateb fel un "rhyfeddol"

"Diolch i bawb sydd wedi dod ymlaen i helpu."

Gyda 3 miliwn wedi ffoi o Wcráin ers yr ymosodiad ddiwedd Chwefror, mae Mark Drakeford eisoes wedi cyhoeddi bydd unrhyw ffoaduriaid yn cael teithio am ddim ar wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru am chwe mis.

Pynciau cysylltiedig