Caerdydd: Arestio dynes ar amheuaeth o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Plymouth Wood
Disgrifiad o’r llun,

Galwyd yr heddlu a'r ambiwlans i Ffordd Plymouth Wood yn ystod oriau mân fore Sul

Mae dynes wedi cael ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi cael ei drywanu yng Nghaerdydd.

Galwyd yr heddlu toc cyn 05:00 fore Sul i'r digwyddiad mewn eiddo ar Ffordd Plymouth Wood yn ardal Trelái o'r brifddinas.

Cafodd dyn 32 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ble mae mewn cyflwr sefydlog.

Fe gafodd dynes 29 oed ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Cadarnhaodd yr heddlu fod y ddau yn adnabod ei gilydd, ac nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig