Braw yn dilyn tân mewn adeilad yng nghanol Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi disgrifio'r braw o orfod ceisio gadael adeilad aeth ar dân brynhawn Gwener yng nghanol dinas Caerdydd.
Cafodd nifer o griwiau tân eu danfon mewn ymateb i alwadau brys tua 12:30 yn dweud bod yna dân mewn "adeilad pedwar llawr aml-ddefnydd" ar Heol Eglwys Fair.
Roedd yna gyngor am gyfnod i bobl osgoi ardal Heol Caroline a gwaelod Heol Eglwys Fair, ac roedd mwg du, trwchus i'w weld yn codi o adeilad yno.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, roedd y tân "yn lledu o'r llawr gwaelod i ardal y to".
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod criwiau'r gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill wedi sefydlu cordon a threfnu i wagio'r adeilad dan sylw.
Cafodd offer arbenigol ei ddefnyddio, gan gynnwys platfform ysgol awyr, i ddiffodd y fflamau ac roedd y tân dan reolaeth erbyn14:20.
'Ddim yn medru dod o hyd i ffordd allan'
Mae Ahmed Hasnawi yn byw mewn fflat ar y stryd gyda'i wraig a'i ferch tair oed, Dima. Fe glywodd larwm tân cyn ceisio gadael yr adeilad.
"Roedd y mwg yn drwchus a doeddwn ni ddim yn medru dod o hyd i'r ffordd allan," meddai.
"Doedd na ddim arwydd ac mi redais ac mi welais un o'm cymdogion oedd hefyd yn chwilio am ffordd allan.
"Mi wnes i feddwl am adael drwy'r ffenest a cherdded ar y gwydr [rhwng yr adeilad a'r bwyty drws nesa]. Mi wnes i agor y ffenest a dwi'n meddwl i mi ei thorri.
"Roedden ni wedi dychryn a doeddwn ni ddim yn gwybod beth i wneud.
"Tra mod i yn chwilio am ffordd allan roedd fy ngwraig yn chwilio am foddion ein merch - mae ganddi gyflwr meddygol.
"Roedd y mwg yn drwchus iawn a doeddwn i ddim yn medru mynd drwodd. Mae'n arogli'n gryf.
"'Dan ni yn ddiogel nawr ond dy'n ni ddim yn gwybod beth i wneud."
Fe welodd un o gymdogion Mr Hasnawi fod tân yn ei bloc o fflatiau ar ôl gweld llun ar-lein tra'n gweithio mewn canolfan siopa gyfagos.
Dywedodd Mai, nad oedd am roi ei chyfenw: "Mi welais i'r llun a deud 'fan'na dwi'n byw'.
"Dwi'n poeni os oes 'na damage ond be fedri di neud? Fedra' i'm neud dim byd amdano."