Arestio dyn 18 oed yn sgil fideo o ddigwyddiad 'hiliol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 18 oed mewn cysylltiad â throsedd casineb hiliol honedig nghlwb mewn clwb nos ym Mangor.
Mae'r digwyddiad yng nghlwb nos Cube nos Wener wedi cael ei ddisgrifio gan Heddlu'r Gogledd fel un "gofidus".
Dywedodd y llu fod aelod o'r cyhoedd wedi cysylltu â nhw ar ôl gweld fideo oedd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'r heddlu wedi siarad gyda'r dioddefwr ac yn apelio am wybodaeth.
"Hoffwn roi sicrwydd i'r cyhoedd bod ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i'r mater yma," meddai'r Sarjant Dan Dent.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn brin ym Mangor, ond mae'r lluniau fideo a gafodd eu dwyn i'n sylw yn ofidus.
"Byddwn yn erfyn ar unrhyw un sy'n gweld y lluniau'n cael eu rhannu ar-lein i gysylltu gyda'r llwyfan cymdeithasol perthnasol a gofyn iddyn nhw eu dileu."