3 Llun: Lluniau pwysicaf Dafydd Emyr
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru Fyw yn gofyn i rai o enwogion Gymru ddewis tri llun - eu lluniau mwyaf nodedig neu luniau sy'n eu cyfleu nhw fel person.
Yr actor, y cyflwynydd a'r entrepreneur Dafydd Emyr sy'n rhannu ei dri llun sy'n bwysig iddo.
"Prin dwi'n nabod fy hun yn y llun yma a dyna pam dwi'n ei ddewis o. Dyma fi ar fy mwyaf diniwed a diddrwg, da - yn bictiwr ceriwbaidd o'r angel bach difai. OND - dyma'r oed y gwnes ddial greulon ar fy mrawd Arthur am wrthod i mi gael mynd dros ryw wrych i chwara efo plant eraill ac yna Mam yn ffrantic yn chwilio amdano ac yn ymbil arna'i os oeddwn wedi ei weld o?
"Fy ateb iddi oedd… 'Do, mae o wedi dringo mewn i'r lle trydan ac roedd 'na fang mawr a mwg a mae o WEDI marw!'"
"A dyma fi go iawn! Dwi wedi tyfu i fyny fymryn ella erbyn hyn ac wrth fy modd yn cael actio rhan y 'dyn drwg' yn dychryn a difyrru plant yn un o'r dega o bantomeims dwi 'di'u gneud a'u sgwennu dros y blynyddoedd. Hwn oedd Cawrasiws Lerpwlws Sacsonisws yn sioe Trywerynws i gwmni Mega - dim byd gwleidyddol o gwbl!! Ha!"
"A dyma fi yn dewis llun ohonof ar fy hapusa' ella. Dwi mewn priodas ffrind i mi yn dathlu ei lawenydd o a'i wraig newydd ar ôl seiclo o Gaerdydd i Aberhonddu ar gyfer y briodas. Yng nghanol anwyliaid, dwi'n cael rhannu cwmni ffrindiau da yn sgwrsio, tynnu coes a rhoi'r byd yn ei le efo glasiad bach yn fy llaw!
"'N'ei wynfyd mae'r anghenfil a'i wydrin o chwerthin chwil."