3 Llun: Lluniau pwysicaf Angharad Mair

  • Cyhoeddwyd
Angharad MairFfynhonnell y llun, Angharad Mair

Os fyddai rhaid i chi ddewis 3 llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau bydden nhw?

Yr wythnos yma, Angharad Mair sy'n rhannu ei hoff luniau gyda Cymru Fyw. Dyma dri o'r lluniau sy'n golygu mwyaf i'r gyflwynwraig.

Ffynhonnell y llun, Angharad Mair
Disgrifiad o’r llun,

Angharad (top dde) ym Mangor

"Dwi'n dwli ar y llun yma gyda fy ffrindiau yng Ngholeg y Normal 1982! Dwi mor lwcus i fod wedi cael ffrindiau da ers dyddiau coleg. Ni'n parhau yn ffrindiau pennaf, a bob tro 'da ni'n cwrdd ni'n ail-greu'r llun!"

Ffynhonnell y llun, Angharad Mair
Disgrifiad o’r llun,

Angharad yn cystadlu yn Athen

"Dyma fi yn rhedeg ym Mhencampwriaethau Athletau y Byd yn 1997 yn Athen. Roedd hi'n chwilboeth - 32 gradd am 6 y bore!

"Tynnwyd y llun yma wrth i fi basio un o redwyr gorau Sbaen, a dod yn 20fed yn y byd. Pinacl fy ngyrfa rhedeg yn bendant."

Ffynhonnell y llun, Anghrad Mair
Disgrifiad o’r llun,

Teulu Angharad yn Sorrento

"Prin iawn yw'r lluniau sydd gennym o'r 4 ohonom ni, fy ngŵr Joni a'r merched Tanwen ac Efa, achos fel arfer fe sydd yn tynnu'r lluniau tra bo ni'n tair yn pôsio!

"Ni ar ein gwyliau yn Sorrento - pwy feddylie na fyddem wedi cael mynd nôl i'r haul am dros ddwy flynedd arall."

Pynciau cysylltiedig