Cwpan y Byd Qatar 2022: Cymru i wynebu Lloegr, Iran ac UDA

  • Cyhoeddwyd
Cwpan y BydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cystadleuaeth Cwpan y Byd yn digwydd yn Qatar rhwng 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr

Bydd Cymru yn wynebu Lloegr, Iran a'r Unol Daleithiau yng Nghwpan y Byd Qatar 2022 - os y byddan nhw'n cyrraedd yno.

Cafodd tîm Robert Page eu rhoi yng Ngrŵp B mewn seremoni yn Doha ddydd Gwener.

Bydd yn rhaid i Gymru, sy'n ceisio cyrraedd eu Cwpan y Byd cyntaf ers 1958, drechu enillydd y gêm rhwng Yr Alban a Wcráin yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ym mis Mehefin.

Cafodd y rownd gyn derfynol honno - a oedd i fod i gael ei chynnal ar 24 Mawrth yn Hampden - ei gohirio oherwydd ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Grŵp A: Qatar, Yr Iseldiroedd, Senegal, Ecuador

Grŵp B: Lloegr, Iran, UDA, CYMRU/ALBAN/WCRÁIN

Grŵp C: Ariannin, Mecsico, Gwlad Pwyl, Saudi Arabia

Grŵp D: Ffrainc, Denmarc, Tunisia, UAE/Awstralia/Periw

Grŵp E: Sbaen, Almaen, Japan, Costa Rica/Seland Newydd

Grŵp F: Gwlad Belg, Croatia, Moroco, Canada

Grŵp G: Brasil, Serbia, Swistir, Cameroon

Grŵp H: Portiwgal, Uruguay, De Corea, Ghana

Beth ydy'r amserlen?

Mae FIFA eisoes wedi cadarnhau union ddyddiadau'r gemau, gyda'r gystadleuaeth yn rhedeg o 21 Tachwedd tan 18 Rhagfyr.

Ar 21 Tachwedd, bydd Cymru'n wynebu'r Unol Daleithiau, cyn herio Iran ar 25 Tachwedd a'r hen elyn, Lloegr ar 29 Tachwedd.

Ond hyd yn oed ar ôl i'r grwpiau gael eu dewis ddydd Gwener, fydd dim cadarnhad yn syth o ba stadiwm fyddan nhw'n chwarae a faint o'r gloch fydd y gemau.

Gan fod yr wyth stadiwm yn Qatar mor agos i'w gilydd, mae'r trefnwyr am weld yn gyntaf pwy sy'n chwarae pwy cyn penderfynu ym mhle fyddan nhw, a bydd amser y gemau hefyd yn dibynnu ar gynulleidfa deledu'r gwledydd hynny.

Ein record yn erbyn y tri

Mae Cymru'n hen gyfarwydd gyda Lloegr wrth gwrs, ac wedi eu chwarae nhw 103 o weithiau yn ein hanes - gan ennill dim ond 14.

Ond y tro diwethaf i Gymru eu cael nhw mewn grŵp twrnament, yn Euro 2016, fe gollodd y cochion a mynd ymlaen i gyrraedd y rownd gynderfynol.

Dim ond ddwywaith mae Cymru wedi chwarae'r UDA, gan golli 2-0 mewn gêm gyfeillgar yn 2003 a chael gêm ddi-sgôr yn 2020.

Unwaith erioed mae Cymru wedi chwarae Iran, a honno'n fuddugoliaeth o 1-0 'nôl yn 1978.