Wcráin: 'Haelioni pobl yn fwy na'r disgwyl gwleidyddol'

  • Cyhoeddwyd
gorsaf
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 10,000 o bobl yng Nghymru wedi dweud bod ganddynt ddiddordeb lletya ffoaduriaid o Wcráin

Mae ymateb y cyhoedd i argyfwng ffoaduriaid Wcráin wedi dangos fod "haelioni pobl yn llawer mwy na disgwyliadau y cyfryngau a gwleidyddion," medd cyn-Archesgob Cymru, Rowan Williams.

Mewn cyfweliad ar raglen Politics Wales dywedodd Dr Williams bod llywodraeth y DU "yn disgwyl y gwaethaf gan bobl" ond bod pobl yn "fwy parod i roi eu gorau".

Mae dros 10,000 o bobl yng Nghymru wedi dweud bod ganddynt ddiddordeb lletya ffoaduriaid o Wcráin.

Mae cais wedi cael ei roi i lywodraeth y DU am ymateb.

Dywed Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig bod dros ddeg miliwn o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi yn Wcráin.

Yn ôl ffigyrau 31 Mawrth mae 24,400 o deuluoedd o Wcráin wedi cael fisa i deithio i Brydain a 32,800 wedi gwneud cais.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dr Rowan Williams ei sylwadau ar raglen Politics Wales

Dywed Dr Rowan Williams, sydd hefyd yn gyn-Archesgob Caergaint, bod ymateb llywodraeth y DU wedi bod yn araf iawn ar y dechrau ond ei fod yn gwella.

"Rwy'n teimlo fod pobl Prydain, pan mae'n dod i argyfwng, yn llawer yn fwy hael nag mae'r cyfryngau a gwleidyddion yn disgwyl iddyn nhw fod.

"Ond wrth gwrs mae rhywun yn cwestiynu a yw'n haws croesawu pobl o Wcráin gan eu bod fwy fel ni ac yn Ewropeaid?

"Ond pan ry'ch yn sôn am ffoaduriaid o Syria ac Afghanistan neu lle bynnag, mae haelioni pobl yn rhyfeddol.. .ac yn aml rwy'n teimlo bod llywodraeth Prydain yn disgwyl y gwaethaf gan bobl ar yr adeg pan mae pobl yn fwy parod i wneud eu gorau," ychwanegodd.

Wrth siarad am newid hinsawdd dywedodd bod angen gofyn a yw pobl a gwleidyddion yn "deall maint" yr argyfwng.

"Yn ystod y pum neu'r wyth mlynedd ddiwethaf mae'r pwnc wedi bod ar agenda llawer mwy o bobl ac mae mwy o bobl yn ymwybodol bod angen iddynt wneud rhywbeth am y peth ond y broblem yw nad ydynt yn gwybod beth allant ei wneud a bod yna deimlad bod unrhyw gyfraniad yn annigonol oherwydd maint y broblem."

Fe gwestiynodd hefyd flaenoriaethau byd busnes gan ofyn oes yna ddigon yn cael ei wneud i ddelio ag argyfwng hinsawdd.

Ar drothwy'r Pasg dywedodd hefyd bod yna ddiffyg hyder ac ymddiriedaeth cyffredinol mewn crefydd a bod hynny wedi bod yn digwydd yn raddol yn ystod y ganrif ddiwethaf ond bod y pandemig wedi dangos bod yna gryn awch am "ryw fath o ddiwallu o ffynonellau ysbrydol".