Disgwyl gwyntoedd o hyd at 70mya nos Fercher

  • Cyhoeddwyd
TywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 20:00 a 05:00

Gallai gwyntoedd o hyd at 70mya (113km) achosi trafferthion ar draws Cymru nos Fercher.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall y gwyntoedd effeithio ar gyflenwadau trydan a theithio o 20:00 ymlaen.

Mae disgwyl gwyntoedd o hyd at 60mya mewn ardaloedd mewndirol ond ar yr arfordir gellir disgwyl i gyflymder y gwynt fod yn 70mya.

Mae rhybudd melyn wedi'i gyflwyno ar gyfer siroedd Môn, Conwy, Dinbych, y Fflint a Gwynedd ac yn weithredol tan 05:00 fore Iau.

"Mae'n bosib y bydd rhai ardaloedd yn colli pŵer ac y bydd effaith i wasanaethau eraill," medd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.

"Bydd y gwyntoedd yn gostegu erbyn y wawr ac yn tawelu ymhellach erbyn canol bore Iau."

Pynciau cysylltiedig