Eisteddfod: 'Hanfodol' agor pont newydd Llŷn cyn y brifwyl
- Cyhoeddwyd
Bydd gwaith yn dechrau'r wythnos i adeiladu pont newydd ym Mhen Llŷn, gyda'r bwriad o fod yn barod erbyn ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesaf.
Mae gyrwyr yn teithio ar yr A497, sef y brif ffordd rhwng Pwllheli a Nefyn, yn parhau i wynebu oedi ers i gerbyd achosi difrod sylweddol i Bont Bodfal fis Ionawr 2019.
Er adeiladu pont dros dro i alluogi cerbydau i groesi Afon Rhyd-hir, mae goleuadau traffig yn parhau yno, gan achosi tagfeydd ar adegau prysur.
Dywedodd un o drefnwyr Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 wrth Cymru Fyw ei bod hi'n "hanfodol" fod y bont newydd mewn lle cyn cynnal y brifwyl mewn caeau cyfagos.
Y gobaith, medd Cyngor Gwynedd, yw agor y strwythur newydd mewn pryd i groesawu'r degau o filoedd o ymwelwyr i'r ardal.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2023, Michael Strain, wrth Cymru Fyw: "Tydi'r bont ond rhyw ganllath i ffwrdd o'r maes ei hun felly mae hi'n eitha' hanfodol fod y bont newydd mewn lle erbyn hynny.
"Mae hefyd yn bwysig iawn i bobl sy'n byw yn y cyffiniau wrth gwrs, ond fel trefnwyr dwi'n gw'bod fod ni'n awyddus iawn i weld sefyllfa'r bont yn cael ei datrys.
"Mae'n lôn brysur iawn beth bynnag, ond hefo'r Eisteddfod fydd 'na lot o bobl yn cerdded nôl a 'mlaen hefyd, felly mae'n eitha' hanfodol ei fod mewn lle erbyn hynny."
'Gwella llif traffig'
Fis Tachwedd fe wnaeth y cyngor gymeradwyo caniatâd cynllunio ar gyfer pont goncrit 17 metr, wedi'i gorchuddio â cherrig lleol, gyda'r strwythur £1.2m i'w hadeiladu i'r de o'r Bont Bodfal bresennol.
Gyda'r gwaith hefyd yn cynnwys ail lunio'r ffordd sy'n arwain at y bont, dywedodd Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd, Steffan Jones, fod y cyngor yn gobeithio agor y bont newydd cyn haf 2023.
"Rydym yn falch iawn fod y gwaith yn cychwyn ar y bont i groesi Afon Rhyd-hir," dywedodd.
"Mae'r A497 yn ffordd strategol bwysig i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y rhan yma o Wynedd."
Ychwanegodd: "Nid oedd cau Pont Bodfal dros dro yn rhywbeth a oedd wedi ei gynllunio.
"Fodd bynnag, mae wedi rhoi cyfle i ni adfer a diogelu'r bont hanesyddol ac i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ei defnyddio fel llwybr hamdden fel y bydd yn parhau'n strwythur pwysig am flynyddoedd i ddod i gerddwyr a beicwyr.
"Drwy fuddsoddi mewn pont newydd byddwn yn gwella llif traffig ar ffordd brysur iawn i bobl leol wrth iddynt deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith.
"Wrth gwrs, gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â'r ardal haf y flwyddyn nesaf, bydd y bont newydd hefyd yn chwarae rhan bwysig o gynlluniau teithio'r rhai sydd yn bwriadu ymweld â'r Maes yn Awst 2023."
'Barod erbyn haf 2023'
Yn sgil cau'r bont wreiddiol ym mis Ionawr 2019, sefydlwyd fod difrod sgwrio (scouring) o dan sylfeini'r bont, a adeiladwyd yn ystod yr 19eg ganrif.
Gyda'r gwaith o adfer y bont wreiddiol bellach wedi'i gwblhau, gyda'r bwriad o'i chadw ar gyfer defnydd cerddwyr a beicwyr, ychwanegodd fod y gwaith o adeiladu'r bont fwa newydd nawr ar droed.
"Os bydd popeth yn mynd fel y cynlluniwyd, rydym yn disgwyl y bydd y bont newydd ar agor erbyn dechrau haf 2023."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae'r Eisteddfod yn gweithio'n agos gyda Chyngor Gwynedd ar bob elfen o'r Eisteddfod yn 2023, ac yn trafod y cynllun trafnidiaeth ac unrhyw fater a allai effeithio ar lif traffig a thaith ein hymwelwyr i'r ŵyl yn barhaus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022