Eisteddfod 2023: Creu Cadair o goed ddisgynnodd mewn storm
- Cyhoeddwyd
Bydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn cael ei chreu o goed derw lleol a ddisgynnodd mewn storm.
Daw y coed derw o'r Lôn Goed, a blannwyd tua 200 mlynedd yn ôl, ac a anfarwolwyd gan gerdd R Williams Parry, 'Eifionydd'.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi briff ar gyfer cynllunio a chreu'r Gadair, a gyflwynir gan deulu'r diweddar Dafydd Orwig.
Cafodd ei fagu am ran helaeth o'i blentyndod cynnar yn Iwerddon, ond fe ymgartrefodd yng Ngwynedd.
Mae ei deulu'n awyddus i ddathlu'r cysylltiad yma rhwng Cymru ac Iwerddon wrth gyhoeddi manylion y briff ar 17 Mawrth, sef Dydd San Padrig.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd buddugol greu'r Gadair o goedyn a ddisgynnodd mewn storm tua saith mlynedd yn ôl.
'Dodrefn i'r cartref, a thrawiadol ar lwyfan'
Dywedodd Huw Orwig ar ran y teulu, fod "cael y cyfle i wneud defnydd newydd ac amgen" o'r coedyn yn "apelio'n arw atom ni fel teulu".
"Gyda chymaint o sôn am stormydd yn creu difrod cynyddol i'n cynefinoedd dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n braf meddwl ein bod ni'n gallu defnyddio coedyn a fu'n rhan o lenyddiaeth ein gwlad yng ngherdd R Williams Parry er mwyn anrhydeddu'r bardd buddugol ar lwyfan y Pafiliwn ym mis Awst 2023," meddai.
Mae'r teulu hefyd yn awyddus i weld llechen neu lechi fel rhan o gynllun y Gadair, gan mai un o blant Bro'r Llechi oedd Dafydd Orwig.
Gobaith y teulu hefyd ydy gweld Cadair a fydd fel rhan o ddodrefn arferol y cartref, ond a fydd hefyd yn edrych yn "drawiadol ar lwyfan eang y Brifwyl, gan adlewyrchu urddas y seremonïau drwy gydol yr wythnos".
Mae'r briff llawn ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ar gael i'w ddarllen ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol, gyda'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais ar 1 Mehefin 2022.
Bydd Tregaron yn cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst eleni o'r diwedd, ar ôl gorfod gohirio'r ŵyl yno ddwywaith oherwydd y pandemig.
Mae Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd wedi'i symud i Awst 2023 a'r Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf i 2024.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2019