Cyhoeddi enwau enillwyr Gwobrau Dewi Sant 2022

  • Cyhoeddwyd
EnillwyrFfynhonnell y llun, Gwobrau Dewi Sant

Urdd Gobaith Cymru sydd wedi derbyn gwobr arbennig y Prif Weinidog yn seremoni flynyddol Gwobrau Dewi Sant am groesawu ffoaduriaid o Afghanistan ac Wcráin.

Mae canolfan breswyl y mudiad ieuenctid ym Mae Caerdydd yn cael ei ddefnyddio i helpu hyd at 250 o bobl o Wcráin ar hyn o bryd ac mae wedi helpu 100 o blant a theuluoedd fel rhan o'r rhaglen ailgartrefu Afghanaidd.

Mae'r wobr hefyd yn cydnabod "canrif o wasanaethu pobl ifanc yng Nghymru" a chyfraniad yr Urdd wrth "gynnal y Gymraeg yn iaith fyw".

Roedd yna wobr hefyd i fenter gymunedol Siop Griffiths ym Mhenygroes, yng Ngwynedd ac i fachgen 17 oed o Ferthyr Tudful am ei ymdrechion i atal tipio anghyfreithlon.

Cafodd enwau enillwyr eleni eu cyhoeddi mewn seremoni nos Iau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Bu'n rhaid cynnal digwyddiad y llynedd ar-lein oherwydd y pandemig.

Mae'r gwobrau, sydd bellach yn eu nawfed flwyddyn, yn dathlu llwyddiannau a chyfraniadau arbennig pobl o bob cefndir sy'n byw yng Nghymru neu'n dod o Gymru.

'Ysbrydoledig'

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod llawer o'r enillwyr "wedi gwasanaethu eraill mewn ffordd ddewr ac anhunanol, mae rhai yn torri tir newydd yn eu meysydd, mae eraill wedi gweithio'n ddiflino i ddiogelu'r amgylchedd, ac rydyn ni'n ffodus eu bod i gyd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru".

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ffoaduriaid ifanc o Afghanistan yng nghanolfan breswyl yr Urdd ym Mae Caerdydd

Ychwanegodd: "Dwi'n arbennig o falch o gael canmol Urdd Gobaith Cymru yn gyhoeddus, ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant, am weithio mor galed i roi croeso cynnes a Chymreig i bobl sy'n ffoi rhag trawma a thrychinebau dyngarol.

"Mae'r Urdd wir wedi bod yn esiampl o'r dull 'Tîm Cymru' rydyn ni wedi'i ddatblygu ar y cyd â sefydliadau eraill sy'n bartneriaid inni. Mae'n gwneud llawer mwy na'i waith arferol ac wedi symbylu'n hymdrechion i groesawu unigolion a theuluoedd sy'n ceisio noddfa yng Nghymru.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn Genedl Noddfa, ac mae'r Urdd wedi bod yn enghraifft ysbrydoledig o'r hyn mae hynny'n ei olygu yn ymarferol."

'Gwaith dyngarol yn annatod i'r Urdd'

Dywedodd prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis: "Mae'n anrhydedd ein bod ni wedi cael ein cydnabod gan y Prif Weinidog ar ôl canrif o wasanaeth, drwy gwaith staff, gwirfoddolwyr ac aelodau presennol a gorffennol.

"Mae gwaith dyngarol wedi bod yn rhan annatod o waith yr Urdd felly yn naturiol pan ddaeth sefyllfa yn Afghanistan a yr Wcráin roedd hi'n naturiol fel mudiad ieuenctid i gefnogi pobol ifanc a teuluoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sian Lewis, prif weithredwr yr Urdd bod hi'n "noson i fwynhau a dathlu"

Dywedodd bod ffoaduriaid a gyrhaeddodd o Afghanistan y llynedd wedi dod "yn ffrindiau mawr i ni".

"O'n ni'n gweld bob nhw dydd am gyfnod o bum mis, yn canu gyda nhw, yn siarad a chymdeithasu efo nhw. Ni'n gw'bod bod bron pob un o'r teuluoedd yma wedi mynd ymlaen i gymunedau ar draws Cymru o Abertawe i Aberystwyth, i Fflint, i Geredigion, i Rhondda Cynon Taf a hefyd Caerdydd a maen nhw'n hapus.

"Mae proses i ddilyn o ran dysgu Saesneg a ffeindio gwaith ond maen nhw'n cael y gefnogaeth angenrheidiol o'r awdurdodau lleol, ac o'r criw sydd wedi aros yng Nghaerdydd mae dau deulu wedi dewis addysg Cymraeg i'w plant felly mae 10 o blant yn derbyn addysg cyfrwng y Gymraeg."

Dyma enillwyr eraill Gwobrau Dewi Sant 2022:

Ysbryd y gymuned: Siop Griffiths

Disgrifiad o’r llun,

Ben Gregory gyda'r wobr sy'n anrhydeddu ymdrechion menter Siop Griffiths

Ers i'r gymuned godi arian yn 2016 i brynu ac adnewyddu un o adeiladau hynaf Penygroes yn Nyffryn Nantlle, mae menter gymunedol Siop Griffiths yn ceisio ymateb i heriau economaidd lleol a rhoi cyfleoedd i bobl ifanc aros a ffynnu yn eu cymuned.

Mae'r adeilad - Yr Orsaf erbyn hyn - yn cynnwys caffi, llety gwyliau, canolfan ddigidol sy'n cynnig hyfforddiant i blant a phobl ifanc, a chaffi trwsio sy'n darparu lle a gweithgareddau i bobl sy'n defnyddio sgiliau traddodiadol a newydd i drwsio pethau.

Roedd yr adnoddau hyn yn fodd i helpu cefnogi'r gymuned leol yn ystod y pandemig. Mae'r fenter hefyd yn cynnal cynllun trafnidiaeth gymunedol gan gynnig tri cherbyd trydan ynghyd â phrosiect bwyd a lles yn cynnwys rhandiroedd; gardd wyllt a phantri cymunedol, sy'n defnyddio bwyd dros ben siopau a chyfranwyr lleol.

"Mae'n sioc fawr - do'n ni ddim yn ei ddisgwyl," meddai Ben Gregory o'r fenter.

"Mae lot o bobol bregus ni eisiau eu helpu... ni eisiau bod yn ddrws agored i bobol yn y gymuned."

Dewrder: Sarjant Geraint Jenkins a'r Cwnstabl Thomas Scourfield o Heddlu De Cymru

Ffynhonnell y llun, Gwobrau Dewi Sant

Cafodd y ddau eu henwebu am geisio achub dyn 92 oed oedd yn sownd mewn sied ar dân ym Mhort Talbot ar ôl digwydd gweld fflamau'n codi o'r adeilad wrth yrru heibio.

Torrodd y Cwnstabl Thomas Scourfield, nad oedd ar ddyletswydd ar y pryd, i mewn i'r eiddo gan weld menyw'n taflu dŵr ar ddyn oedd ar dân. Gan gredu bod y gwres ar fin malu'r ffenestri'n deilchion, fe arweiniodd y fenyw, oedd wedi llosgi ei dwylo a'i thalcen, o'r eiddo cyn dychwelyd at y dyn.

Roedd y Sarjant Geraint Jenkins ar secondiad gyda'r uned atal tanau bwriadol, ac yn gyrru cerbyd y gwasanaeth tân pan welodd fwg trwchus. Dringodd dros waliau gerddi'r cymdogion at y sied lle roedd yr hen ddyn ar y llawr wedi'i amgylchynu gan fflamau.

Gorchuddiodd ei hun gyda thywelion gwlyb i amddiffyn ei hun wrth lusgo'r dyn o'r fflamau. Nid oedd yn anadlu ac roedd ganddo losgiadau difrifol i'w ben, ei wyneb a'i gorff. Fe roddodd CPR i'r dyn nes i barafeddygon a meddygon ambiwlans awyr gyrraedd, ond ni fu'n bosib i'w adfywio.

Person Ifanc: Daniel Lewis

Cafodd Daniel Lewis, sy'n 17 oed ac o Dreharris, Merthyr Tudful, ei anrhydeddu am ei ymdrechion i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon ers cyfnodau clo'r pandemig.

Trwy godi arian a gweithio gyda busnesau lleol, fe lwyddodd i gael gwared ar dros 25 tunnell o wastraff anghyfreithlon ar Gomin Merthyr a Gelli-gaer. Mae'n treulio oriau'n glanhau tipiau anghyfreithlon ar ei ben ei hun, ac yn denu pobl o bell ac agos i helpu mewn digwyddiadau grŵp.

Mae wedi rhedeg cynllun sgip cymunedol a threfnu sgip teiars cymunedol di-dâl ym Mharc Cyfarthfa ar ôl diflasu o weld pentyrrau o deiars ar Gomin Merthyr. Mae hefyd wedi gosod systemau teledu cylch cyfyng sy'n cael eu pweru gan yr haul ar y comin, gan gasglu tystiolaeth i'r awdurdod lleol a'r heddlu.

Diwylliant: Berwyn Rowlands

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Y cynhyrchydd teledu a ffilm o Ynys Môn yw Cyfarwyddwr Gŵyl Ffilmiau Gwobr Iris - yr ŵyl LHDT+ flynyddol yng Nghaerdydd sy'n dyfarnu'r wobr fwyaf yn y byd, £30,000, ar gyfer ffilm fer.

Berwyn Rowlands oedd Prif Weithredwr cyntaf Sgrîn: Asiantaeth y Cyfryngau yng Nghymru ac arweiniodd y broses o sefydlu Archif Ffilmiau a Sŵn Cenedlaethol Cymru.

Trefnodd ei ŵyl ffilmiau gyhoeddus gyntaf yn Aberystwyth yn 1979, a gafodd ei alw maes o law'n Ŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru, cyn sefydlu Gwobr Iris yn 2006, sydd wedi ymddangos sawl tro yn rhestr 50 gŵyl ffilm gorau'r byd Movie Maker Magazine.

Fe drefnodd ŵyl ar-lein yn ystod y pandemig, gan ddenu dros 84,000 o wylwyr. Erbyn hyn mae yna wyliau partner mewn 25 o wledydd ar draws y byd, sy'n gyfle i hyrwyddo effaith ddiwylliannol Cymru yn rhyngwladol.

Chwaraeon: Hannah Mills

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah Mills yn Llysgennad Cynaliadwyedd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol

Fe wnaeth y fedal aur a enillodd yng Ngemau Olympaidd Tokyo y llynedd sicrhau mai Hannah Mills oedd yr hwylwraig fwyaf llwyddiannus erioed yn hanes y Gemau Olympaidd.

Mae hi wedi ennill medalau mewn tair gêm Olympaidd yn olynol - un arian a dwy aur.

Mae hefyd yn cael ei hanrhydeddu am ei hymdrechion i geisio dileu plastig untro yn y byd chwaraeon. Fe sefydlodd yr elusen Big Plastic Pledge ar ôl gweld cymaint o sbwriel plastig wrth gystadlu ar draws y byd.

Gweithiwr allweddol: Michelle Jones a Catherine Cooper, Ysgol Gynradd Landsdowne

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Michelle Jones a Catherine Cooper - pennaeth a dirprwy bennaeth yr ysgol

Cafodd Michelle Jones a Catherine Cooper, pennaeth a dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd Lansdowne yn Nhreganna, Caerdydd, eu gwobrwyo am eu cymorth i deuluoedd disgyblion yn ystod y pandemig.

Dywed yr enwebiad eu bod wedi gweithio'n ddiflino a "mynd y tu hwnt i'w dyletswydd" i roi cymorth a darpariaeth gofal plant i weithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed.

Mae'r ddwy wedi gweithio "diwrnodau hir gan gefnu ar eu bywydau eu hunain i gefnogi'r gymuned mewn amrywiaeth o ffyrdd". Roedd hynny'n cynnwys cludo plant "er mwyn sicrhau eu bod yn gallu mynd i'r ysgol, rhoi bwyd a deunyddiau hanfodol eraill i deuluoedd a sicrhau eu bod ar gael 24/7 i gynnig help a chyngor i'r gymuned".

Busnes: Jordan Lea / Deal Me Out

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jordan Lee yn defnyddio'i brofiad ei hun i helpu eraill goresgyn niwed yn sgil gamblo

Sefydlodd Jordan Lea o Lysfaen, Sir Conwy fusnes ar ddiwedd 2019 i helpu pobl oresgyn problemau gamblo - rhywbeth oedd wedi cael effaith andwyol ar ei fywyd ei hun yn y gorffennol.

Collodd ei swydd a'i gartref ar ddechrau'r pandemig, ond o weld maint y galw am gymorth fe daflodd ei hun i'r busnes. Mae bellach yn cyflogi saith o bobl ac yn darparu cymorth a gweithdai am beryglon gamblo, gan ehangu'r busnes i weddill y DU.

Mae'r cwmni'n darparu gweithdai addysg ar gyfer ysgolion, clybiau chwaraeon, y gwasanaeth cyfiawnder troseddol, y GIG ac iechyd y cyhoedd, grwpiau cymunedol a ffydd a busnesau.

Mae hefyd yn darparu rhaglen yn arbennig ar gyfer cefnogi menywod, dan arweiniad menywod â phrofiad o niwed yn sgil gamblo.

Pencampwr yr Amgylchedd: Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel/ Prifysgol Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Ctymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae LCBE yn helpu ceisio sicrhau bod mwy o bobl Cymru'n byw mewn tai carbon isel

Mae'r tîm ymchwil Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE) yn Ysgol Bensaernïaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd wedi helpu'n sylweddol i leihau allyriadau carbon mewn tai gan wella amodau a lleihau biliau ynni.

Mae'r tîm wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a rhanddeiliaid eraill i ddangos bod hi'n bosib cyfuno atebion sydd ar gael ar y farchnad er mwyn lleihau'r defnydd o ynni ac allyriadau gan wella'r amgylchedd adeiledig ac ysgogi'r economi.

Nhw wnaeth gynllunio ac adeiladu'r tŷ ynni cadarnhaol SOLCER, i brofi bod modd codi cartref ynni effeithlon, di-garbon, fforddiadwy, ac mae llawer o brosiectau ers hynny wedi adeiladu tai ar sail hynny.

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Luca Pagano, Graham Howe, Peter Charlton, John Hughes a Richard Morgan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Ym Mai 2020, aeth peirianwyr a myfyrwyr y brifysgol ati i ganolbwyntio eu harbenigedd ar ddatblygu system cymorth anadlol jet argraffedig 3D i helpu'r GIG yng nghyfnod cyntaf yr argyfwng Covid-19.

Y prif amcan oedd datblygu dyfais yr oedd modd ei gweithgynhyrchu'n rhad ac yn gyflym, oedd hefyd yn hawdd i'w defnyddio i lefelau perfformiad uchel.

Mewn ymateb i gais gan ysbyty yn Nepal, lle roedd yr argyfwng Covid yn gwaethygu'n ddychrynllyd, fe drefnodd y tîm drwyddedau i rannu eu ffeiliau 3D i'w hargraffu mewn ysbyty yno.