Hen safle Siop Griffiths Penygroes yn agor fel caffi

  • Cyhoeddwyd
Yr Orsaf
Disgrifiad o’r llun,

Yr Orsaf - hen safle Siop Griffiths ar ei newydd wedd

Mae caffi cymunedol newydd wedi agor ei ddrysau ddydd Llun ar ôl i £400,000 gael ei godi i brynu hen safle Siop Griffiths ym Mhenygroes.

Daw'r agoriad yn dilyn tair blynedd o waith i godi'r arian i achub yr adeilad hanesyddol yn y pentref ger Caernarfon.

Gyda'r adeilad wedi bod yn wag ers 2010, llwyddodd trigolion i godi dros £50,000 i brynu Siop Griffiths yn 2016.

Roedd agoriad swyddogol y caffi newydd - Yr Orsaf - yn digwydd am 11:00 fore Llun.

Ffynhonnell y llun, Dan Chamberlain
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hen safle Siop Griffiths wedi bod yn wag ers 2010

Mae'r gwaith ar y caffi wedi costio dros £160,000, gyda £123,000 yn dod o grant Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig, benthyciad o £30,000 gan Gyngor Gwynedd, a grŵp Siop Griffiths Cyf yn codi'r gweddill.

'Dibynnu ar wirfoddolwyr'

Y caffi yw cam cyntaf blwyddyn brysur i'r adeilad, gyda chanolfan ddigidol i bobl ifanc yn agor yno yn ystod y flwyddyn - diolch i grant o £155,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cyn diwedd flwyddyn bydd llety yn agor i ymwelwyr gyda chymorth o dros £400,000 gan y Loteri Fawr.

"Rydym yn falch iawn fod ymdrechion y gymuned wedi llwyddo," meddai Sandra Roberts, cadeirydd grŵp Siop Griffiths Cyf.

"Gofynnodd trigolion i ni yn 2015 i helpu achub yr adeilad, ac roedd pobl yn barod i gefnogi'r fenter, gyda dros 200 o bobl yn cyfrannu at ei brynu.

"Sefydlon ni Gymdeithas Budd Cymunedol, i sicrhau fod yr adeilad yn aros yn nwylo'r pentref am byth.

"Gyda mentrau cymunedol does byth digon o bres, felly 'da ni'n dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu yn y prosiect.

"Yn ystod y flwyddyn mae pobl wedi cyfrannu 700 awr o oriau gwirfoddol, yn cynnwys paentio pob nos ers Dydd Calan i gael y caffi yn barod."