Morgannwg yn sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Durham
- Cyhoeddwyd
Dechreuodd y tymor criced i dîm Morgannwg ddydd Iau wrth iddynt groesawau Sir Durham i Erddi Soffia ar gyfer gêm bedwar diwrnod.
Roedd y diwrnod cyntaf yn oer ac yn wyntog, a chafodd y chwarae ei rwystro dair gwaith oherwydd glaw a chenllysg ond roedd Morgannwg yn 164 am 4 - diolch yn fwy na dim i berfformiad hyderus Colin Ingram. Roedd y gŵr profiadol o Dde Affrica ar 71 heb ei guro.
Er fod y tywydd yn well ar y dydd Gwener, nid felly batwyr Morgannwg.
Yn ystod y bore syrthiodd y wicedi gan orffen eu batiad cyntaf ar 234 - roedd y pum wiced olaf wedi eu cipio am gyn lleied ag ugain rhediad mewn 21 pelawd. Daeth y chwarae i ben yn gynnar oherwydd y tywydd.
Cafodd Durham ddiwrnod da ar y sgwâr ddydd Sadwrn ac erbyn bore Sul roeddent 114 rhediad ar y blaen i Forgannwg ond gyda cyfnod bowlio cryf iawn fe gipiodd Andrew Salter bum wiced (saith yn ystod y batiad cyfan) i ddiweddu batiad Durham ar 383.
Oherwydd y glaw roedd o leiaf 84 pelawd o'r gêm ar ôl.
Roedd Salter ar y cae gyda'i fat yn unionsyth a daeth colledion cynnar - wedi colli Lloyd, Salter a Sam Northeast roedd hi'n 34 am 3 amser cinio.
Ond fe lwyddodd Ingram a Kiran Carlson i sefydlu ail fatiad Morgannwg ac wedi colli'r ddau hwnnw roedd Cooke yn sgorio'n gyson - 85 heb ildio yn y diwedd.
Llwyddodd Morgannwg i amddiffyn eu wicedi a rhwystro Durham rhag ennill a gyda Morgannwg ar 220 am 5 a llond llaw o belawdau ar ôl fe gytunodd y ddau dîm mai gêm gyfartal oedd y canlyniad.
Nid hwn oedd y dechrau gorau i Forgannwg ond fe ddangosodd y tîm benderfyniad a disgyblaeth i sicrhau gêm gyfartal (Morgannwg 234 a 220-5 Durham 383).