Trenau stêm yn arbrofi ag olew yn lle glo o Rwsia

  • Cyhoeddwyd
Tren stêmFfynhonnell y llun, Y Loteri Genedlaethol

Mae prinder glo yn destun pryder i gwmnïau sy'n rhedeg trenau stêm yng Nghymru wrth iddyn nhw dderbyn ymwelwyr dros wyliau'r Pasg.

Fel arfer pa fo prinder mae'r rheilffyrdd treftadaeth yn prynu glo o Rwsia, nad sydd ar gael nawr yn sgil ymosodiadau'r wlad ar Wcráin.

Mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, sy'n rhedeg trenau o Borthmadog i ac o Flaenau Ffestiniog a Chaernarfon, wedi dechrau cynnal profion ers rhai wythnosau gan ddefnyddio olew rapeseed yn lle glo.

Mae'r profion hyd yn dangos nad ydy'r olew'n poethi i'r un dwyster â glo ond mae'r cwmnïau'n archwilio ffyrdd gwahanol o'i ddefnyddio yn y gobaith y gall cludo teithwyr yn y dyfodol.

'Cymryd gofal gyda'n tanwydd'

Yn ôl rheolwr y rheilffordd, Paul Lewin mae ganddyn nhw ddigon o lo ar gyfer misoedd Ebrill a Mai ond mae yna bryder a fydd yna ddigon o gyflenwadau erbyn diwedd gwyliau'r haf.

"Rydan ni'n berffaith iawn ar gyfer gwyliau'r Pasg ac ym mhell i mewn i'r haf," meddai.

"Rydan ni yn poeni [ond] ddim rŵan hyn. Rydan ni'n cymryd gofal gyda'n tanwydd i wneud yn siŵr ei fod yn para cyn hired â phosib."

Ffynhonnell y llun, WIKIPEDIA
Disgrifiad o’r llun,

Glofa Ffos-y-Fran sydd wedi bod yn cyflenwi'r rheilffyrdd â glo

Glofa Ffos-y-fran ger Merthyr Tudful oedd yn cyflenwi'r rheilffordd ond yn ôl Mr Lewin fe dorrodd peiriant ym mis Ionawr, sydd wedi cael effaith, ac fe fydd y lofa'n cau cyn diwedd y flwyddyn.

Lliw ac arogl 'wahanol'

Mae'n ddyddiau cynnar o ran y dechnoleg olew rapeseed, medd Mr Lewin, ond mae yna obaith y gall cynnig atebion yn y dyfodol.

"Mae'n eitha' bisâr achos mae'n felyn llachar a ninnau i gyd wedi arfer ego glo du… ac mae o'n ogleuo ychydig yn wahanol i lo.

"Mae gyda ni rywfaint o hen locos bach chwareli diwydiant glo Cymru, ac maen nhw'n rhoi'r cyfle delfrydol i gynnal profion. Maen nhw'n eitha' bach a 'dan ni'n gallu eu gweithio'r eitha' caled.

"Dydan ni ddim yn arbenigwyr ymlosgiad byd-eang ond mae angen i ni anelu at hynny ar frys er mwyn cael atebion ar gyfer y dyfodol."

Mae yna bryderon tebyg ynghylch cyflenwadau tanwydd yn ne Cymru.

Fe benderfynodd rheolwr Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon, Alex Hinshelwood, i brynu gwerth blwyddyn o danwydd i sicrhau bod y trenau'n dal i redeg.

Mewn ychydig fisoedd yn unig, roedd prisiau wedi codi o £220 i £270 y tunnell fetrig.

Mae'r fath gost mewn un taliad yn gur pen i reilffordd fach sy'n cael ei chynnal gan wirfoddolwyr.

"Mae'n ofidus ond ry'n ni'n gobeithio y bydd rheilffordd fach fel hyn, sy'n llosgi tua 180 o dunelli metrig o lo bob blwyddyn - maint bach iawn o'i gymharu â rheilffyrdd eraill - yn iawn yn y pen draw.

"Mae 28 tunnell fetrig fel arfer yn para dri neu bedwar mis i ni, ond mae'r rheilffyrdd mawr yn dechrau cael hi'n anodd, oherwydd does dim lle i storio gwerth blwyddyn o lo."