Proses iawndal Swyddfa'r Post 'yn rhy araf'
- Cyhoeddwyd
Mae cyfreithiwr sy'n arwain y trafodaethau i sicrhau iawndal i'r rhai a gafodd eu cyhuddo ar gam gan Swyddfa'r Post yn dweud nad yw'r broses yn symud yn ddigon cyflym.
Flwyddyn wedi i euogfarnau cyn is-bostfeistri, yn eu plith pedwar o Gymru, gael eu dileu yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol mae Neil Hudgell, o gwmni Cyfreithwyr Hudgell, yn dweud bod angen cwblhau'r taliadau erbyn 2022.
"Mae'r rhan fwyaf wedi cael y taliadau dros dro cychwynnol," meddai, "yng ngeiriau'r Swyddfa'r Post 'i liniaru eu sefyllfa ariannol bresennol' ond mae'n cleientiaid am i'r cyfan ddod i ben yn fuan fel bod modd rhoi diwedd ar y broses."
Mae'r Swyddfa'r Post yn dweud eu bod am sicrhau "bod y setliadau terfynol yn rhai llawn a theg".
'Wedi gorfod talu ffrindiau a pherthnasau'
Un a gafodd ei garcharu ar gam oedd Noel Thomas o'r Gaerwen ar Ynys Môn a dywed bod "cael dileu yr euogfarn yn y llys flwyddyn yn ôl wedi bod yn holl bwysig ond bod llawer i'w ddatrys o hyd".
Mae Mr Thomas wedi derbyn yr iawndal cychwynnol ond wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: "Mae 12 mis wedi pasio a 'dan ni ddim llawer yn nes i'r lan o ran dod â'r cyfan i ben a 'dan ni gyd yn mynd yn hŷn.
"Mae datganiadau gan Swyddfa'r Post a'r Llywodraeth wedi addo setliad cynnar ond mae'r cyfan yn llusgo.
"Mi gymerodd hi 16 mlynedd i ni gael ein bywydau yn ôl a hynny wedi brwydr anodd.
"Ydw, dwi wedi cael yr iawndal cychwynnol cyn Dolig ond does dim sôn am weddill y pres.
"Bob dydd bron mae 'na gais am ddogfennau er mwyn i mi gael mwy o arian - ond dyw'r dogfennau yma ddim ar gael.
"Pan ges i fy nghyhuddo aethpwyd â phob dim o fy swyddfa - felly does gen i ddim dogfennau i'w dangos.
"Dwi wir yn gobeithio y caf i fwy o arian - dyw'r tâl cychwynnol ddim yn ddigon. Mae llawer iawn o hwnna wedi mynd i dalu'n ôl i ffrindiau a pherthnasau ac wrth gwrs dwi wedi colli blynyddoedd o enillion heb sôn am effaith yr holl beth ar y teulu cyfan.
"Dw i rŵan yn 75 a newydd ymddeol. Mi fyddai'n dda cael ychydig o bres i helpu'r wyrion yn y coleg - ac mae rhywun eisiau gweld y peth yn dod i ben."
'Dioddefaint yn parhau'
Ychwanegodd y cyfreithiwr Neil Hudgell bod nifer o'i gleientiaid yn siomedig gydag agwedd Swyddfa'r Post.
"Mae 'na deimlad bod Swyddfa'r Post fel petaent yn gwneud ffafr drwy'r roi'r arian yma'n ôl i'r cyn-bostfeistri ond mewn gwirionedd yr hyn maen nhw'n ei wneud yw trosglwyddo arian na ddylid fod wedi ei gymryd oddi arnynt yn y lle cyntaf.
"Y gwir yw mae nifer wedi gorfod gwario y taliadau dros dro - o ganlyniad i'r hyn ddigwyddodd roedd yna nifer o ddyledion i'w talu.
"Mae pethau yn dod i derfyn ond nid yn ddigon buan a dyw amser ddim o blaid nifer o'n cleientiaid.
"Dyw rhai o'r cyn-bostfeistri ddim wedi cael eu taliadau dros dro ond mae'n rhaid dod i gytundeb terfynol yn fuan.
"Mae yna beryg bydd rhai yn derbyn llai o arian na'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw am eu bod am gytuno ar setliad yn fuan er mwyn cael diweddglo.
"Ar hyn o bryd mae yna gryn wahaniaeth rhwng yr hyn ry'n ni'n ei gredu a'r hyn mae Swyddfa'r Post yn ei gredu yw maint colledion is-bostfeistri.
"Rhaid dod â'r achosion i ben cyn diwedd y flwyddyn fel bod y bobl yma sy'n gwbl onest yn gallu symud ymlaen gyda'u bywyd o'r diwedd a chael tawelwch meddwl.
"Ar hyn o bryd mae nifer yn teimlo bod eu dioddefaint yn parhau."
Dyma'r achos mwyaf o anghyfiawnder yn hanes cyfreithiol Prydain wedi i nam gyda system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post - Horizon - achosi anghysonderau mawr yng nghyfrifon nifer o swyddfeydd post.
Mae'r llywodraeth, fel unig gyfranddaliwr Swyddfa'r Post, wedi dweud y byddan nhw'n talu'r iawndal.
'Am sicrhau setliad teg'
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post: "Ry'n am sicrhau setliadau terfynol llawn a theg ac yn annog y llywodraeth, a fydd yn ariannu'r iawndal, i'n helpu i ddod i gytundeb â chynrychiolwyr cyfreithiol y postfeistri fel bod y taliadau yn cyrraedd cyn gynted â phosib."
Ychwanegodd Noel Thomas ei bod hi ond yn deg i'r rhai oedd yn gyfrifol am y cyfan wynebu rhai o ganlyniadau yr hyn a ddigwyddodd.
"Roedd pobl yn eu safle nhw yn cael eu talu yn dda ac yn cuddio'r gwirionedd. Beth am iddyn nhw ddioddef rywfaint o'r hyn a es i drwyddo - fe gollais i bopeth dros nos."
Bydd mwy ar y stori hon i'w gweld yn rhifyn nos Lun, 25 Ebrill, o Panorama ar BBC 1 Cymru am 22:40.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020