Arwel Gruffydd: 'Rhaid i'r Theatr Genedlaethol fentro neu bydd yn methu'
- Cyhoeddwyd
"Mae hi mor bwysig fod sefydliadau fel Theatr Genedlaethol Cymru yn barod i fentro a pheidio sefyll yn llonydd neu fe fyddan nhw'n methu," medd Arwel Gruffydd, wrth i'w gyfnod wrth y llyw ddod i ben.
Mae Mr Gruffydd yn gadael ei rôl fel Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Gen wedi 11 mlynedd.
Bydd Steffan Donnelly, y cyfarwyddwr newydd, yn dechrau ar ei waith ym mis Mehefin.
Bydd hefyd yn dod yn gyd-brif weithredwr gyda'r Cyfarwyddwr Gweithredol, Angharad Jones Leefe.
Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa yn rhifyn yr wythnos hon o Stiwdio, dywed Mr Gruffydd mai'r hyn sydd wedi bod yn hynod o bwysig iddo yw "perthnasedd, cyrraedd cynulleidfa eang a chynulleidfa wahanol".
"Pe baem yn trio plesio pawb gyda phob cynhyrchiad fydden ni'n methu. Be sy'n bwysig ydy ein bod ni'n mentro," meddai.
"Mae 'na le i gynyrchiadau sy'n teimlo'n weddol saff ond ar adegau mae'n bwysig ein bod yn g'neud petha' sy'n teimlo'n fwy peryglus er mwyn gwthio'r ffiniau.
"Yr hyn oedd yn bwysig i mi oedd rhoi y theatr Gymraeg wrth galon y genedl ond dyw'r genedl ddim yn golygu siaradwyr Cymraeg yn unig - roedd o'n bwysig i mi ddod â phobl at yr iaith.
"Er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus rhaid i ni dyfu ein cynulleidfa," ychwanegodd.
"Rhaid mynd y tu hwnt i'r gorwelion hynny sy'n hawdd eu cyrraedd ac o bryd i'w gilydd mae'n bwysig cyflwyno elfen o'r Saesneg mewn cynyrchiadau Cymraeg i helpu pobl i ddod drwy'r drws, fel petai.
"Mae wedi bod yn bwysig i mi ddenu pobl y tu hwnt i'r gynulleidfa Gymraeg arferol.
"Mae wedi bod yn hynod o bwysig hefyd i fod yn berthnasol. Does 'na ddim pwynt creu theatr oni bai ei bod yn berthnasol i'r gynulleidfa - mae angen i brofiad cyfoes y gynulleidfa gael ei adlewyrchu ar y llwyfan."
Dywedodd mai'r hyn a'i ddenodd at y swydd yn 2011 oedd y cyfle i wneud gwahaniaeth ac i gael dylanwad.
'Denu pobl yn her'
Arwel Gruffydd yw ail gyfarwyddwr artistig y Theatr Genedlaethol gan olynu y cyfarwyddwr cyntaf Cefin Roberts.
"Mae'n swydd nodedig ac 11 mlynedd yn ôl ro'n i'n awchu i gael cryn ddylanwad ar y theatr Gymraeg ac yn gweld bod 'na bosib i archwilio gweledigaeth ychydig yn wahanol ac annisgwyl," ychwanegodd.
"Roedd y cwmni o'm 'mlaen i, gellid dadlau, wedi sefydlu ei hun ar gwmni Theatr Cymru Wilbert Lloyd Roberts - falle cwmni gweddol draddodiadol a cheidwadol o ran gweledigaeth - yn teithio ryw dair neu bedair gwaith y flwyddyn gyda chynhyrchiad prif ffrwd.
"Roedd y gynulleidfa wedi dod i ddeall y patrwm yna ac yn gwybod beth i'w ddisgwyl... yr hyn ro'n i'n awyddus i'w wneud oedd troi hwnna ar ei ben ychydig bach.
"Ro'n i'n awyddus i bobl feddwl 'dwi'm yn gwybod be' i ddisgwyl gan y Theatr Gen' ond mae hynny'n anodd i'w gynnal ac ar ôl ychydig o flynyddoedd o weithredu'r fantra honno mi ddos i hefyd i sylweddoli ei bod hi'n bwysig cael ryw elfen o wybod be' i ddisgwyl.
"Rhaid cofio bod y theatr yn cystadlu gyda phob cyfrwng arall. Mae ceisio denu pobl i'r theatr yn her gyson - ac mae pobl isio gwybod be' maen nhw'n mynd i'w gael yn y theatr cyn prynu tocyn, yn anffodus."
Wrth gyfeirio at y cerrig milltir wedi 56 o gynyrchiadau yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, dywed Arwel Gruffydd bod y cynhyrchiad o Macbeth yn sicr ymhlith yr uchafbwyntiau "er bod rhai yn cwyno am fod mewn castell oer yng Nghaerffili".
"Fe wnaethon ni lwyddo i greu theatr ar safle benodol a darlledu'r cynhyrchiad byw drwy loeren i ganolfannau ledled Cymru - dyma'r tro cyntaf i hynny ddigwydd yng Nghymru. Roedd hi'n fenter fawr ac fe lwyddodd hi."
Mae hefyd yn gweld technoleg Sibrwd yn garreg filltir bwysig sef cyfieithiad ar y pryd i wylwyr drwy gyfrwng y ffôn.
Rhwystrau wedi Brexit
Yr hyn sydd wedi bod yn llai llwyddiannus, meddai, yw cydweithio gyda chwmnïau rhyngwladol a dywed bod Brexit wedi gwneud hynny yn llawer iawn yn fwy anodd.
"Does yna ddim dêl ar gyfer y sector gelfyddydol ag Ewrop wedi Brexit. Does yna ddim ond rhwystrau wedi dod i'n rhan ni oherwydd Brexit ac mae gweithio gyda chwmnïau y tu hwnt i Ewrop gymaint â hynny yn anoddach."
O ran y dyfodol dywed Mr Gruffydd ei fod yn edrych ymlaen i fynd i'r byd llawrydd unwaith eto ond fe fydd yn dychwelyd yn yr Hydref i gynhyrchu Tylwyth wedi i'r perfformiad fethu teithio ar ddechrau'r pandemig.
"Teimladau cymysg, chwerw felys sydd gen i wrth ffarwelio," medd Mr Gruffydd, "dwi wedi mwynhau'r cyfnod yn aruthrol ond yn edrych ymlaen i fod â'm traed yn rhydd fel petai.
"Mae'n rhyfeddol mewn swydd fel hon cymaint y mae rywun yn ei gario o ran baich a chyfrifoldeb ond ddim yn sylweddoli hynny ar y pryd."
Mae modd clywed y cyfweliad yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Stiwdio ar BBC Sounds
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020