Ennill apêl i symud campws Coleg Menai o ganol Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae campws coleg yng Ngwynedd wedi derbyn caniatâd i symud allan o ganol Bangor er gwaethaf pryderon yn lleol.
Fis Medi y llynedd fe wrthododd Cyngor Gwynedd gais Coleg Menai i adleoli o ganol Bangor i barc busnes ar gyrion y ddinas, fel rhan o ddatblygiad gwerth £13m.
Yn ôl Grŵp Llandrillo Menai byddai aros ar Ffordd Ffriddoedd yn golygu gwario hyd at £18m i wella'r cyfleusterau "hen ffasiwn", gyda'r safle wedi bod yn gartref i goleg addysg bellach ers yr 1950au.
Er hynny, mae'r coleg bellach wedi ennill ei apêl cynllunio, fydd yn galluogi'r adleoliad i Dŷ Menai ym Mharc Menai.
Daw yn dilyn penderfyniad swyddogion annibynnol fod y cais yn un rhesymol ac na ddylai'r cyngor fod wedi'i wrthod.
Er hynny, mae'r symud wedi'i ddisgrifio gan un gŵr busnes o Fangor fel "yr ergyd ddiweddaraf i'r ddinas".
'Wedi'i leoli'n addas'
Gwrthodwyd y cais gwreiddiol gan bwyllgor cynllunio'r cyngor, gan ddilyn argymhelliad swyddogion cynllunio.
Yn ôl yr adroddiad a gyflwynwyd i'r cynghorwyr, gyda Pharc Menai wedi'i ddynodi ar gyfer creu gwaith, rhybuddiodd adran datblygu'r economi y byddai'n "debygol o danseilio prysurdeb a swyddogaeth canol y ddinas, a lleihau nifer y bobl sy'n ymweld â'r canol".
Mae disgwyl byddai safle Tŷ Menai yn addysgu oddeutu 520 o fyfyrwyr, yn cynnig cyrsiau wedi'u targedu ar gyfer y diwydiannau gwasanaeth a sectorau busnes allweddol eraill.
Nodwyd yn adroddiad yr arolygydd Siân Worden, dolen allanol, a gafodd ei hapwyntio gan Lywodraeth Cymru i ddyfarnu'r apêl, fod Coleg Menai eisoes gyda champws o dros 200 o fyfyrwyr ar Barc Menai.
Ond tra bod y cyngor yn pryderu a oedd Tŷ Menai yn lleoliad addas, ei barn hi oedd bod y cais yn un dilys.
Nodwyd yn yr adroddiad: "Rwyf o'r farn y byddai'r datblygiad a gynigir wedi'i leoli'n addas mewn perthynas â lleoliadau safleoedd addysg bellach ac addysg uwch eraill a gellir cyfiawnhau rhyddhau tir rhag defnyddiau cyflogaeth.
"Yn ogystal, ni fyddai'n cael effaith andwyol annerbyniol ar iechyd, diogelwch neu amwynder defnyddwyr tir neu eiddo lleol eraill."
Adeiladwyd Tŷ Menai yn 2004 ar gost o £17.8m gan Awdurdod Datblygu Cymru fel rhan o'r rhaglen Technium.
Ond yn siarad o flaen pwyllgor cynllunio Gwynedd fis Medi dywedodd Dafydd Evans, ar ran y coleg, fod yr adeilad wedi bod "hanner gwag ers ei agor".
Ychwanegodd nad oedd safleoedd addas yng nghanol y ddinas i'r grŵp eu defnyddio.
Yn dilyn cymeradwyaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, dywedodd Mr Evans: "Rydym wedi sylweddoli ers tro nad yw safle Ffriddoedd bellach yn addas a bod pobl ifanc Gwynedd yn haeddu gwell.
"Gan fod Tŷ Menai wedi'i leoli yng nghanol busnesau, dyma gyfle perffaith ar gyfer rhagor o weithio mewn partneriaeth â diwydiant.
"Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod y cyfleoedd dysgu a hyfforddi a gynigir i bobl ifanc yn bodloni gofynion sgiliau cyflogwyr lleol."
Ychwanegodd pennaeth Coleg Menai, Aled Jones-Griffith: "Credwn y bydd y datblygiad hwn hefyd yn gatalydd ar gyfer ail-greu Parc Menai yn gyrchfan ddeniadol i gwmnïau newydd."
'Yr ergyd ddiweddaraf i'r ddinas'
Er hyn, barn un gŵr busnes lleol yw y bydd rhannau o'r ddinas yn teimlo colled cannoedd o fyfyrwyr.
Dywedodd Patrick Stephen Barry, sy'n rhedeg tafarn Patrick's Bar ym Mangor Uchaf ers 1999, y bydd rhai busnesau yn gweld gwahaniaeth.
"Dwi'n meddwl ym Mangor Uchaf, yn sicr, fydd rhai o'r siopau yn teimlo'r golled," meddai wrth Cymru Fyw.
"Pan da' chi'n sôn am 500 o fyfyrwyr yna, mae hynny'n dipyn o wahaniaeth, yn enwedig rhai o'r siopau a chaffis yn ystod amser cinio.
"Mae o'n teimlo fel jyst yr ergyd ddiweddaraf i'r ddinas efo cymaint o siopau gwag ar y stryd fawr, mae o i gyd i'w weld yn mynd mewn un cyfeiriad ar y funud."
Mewn ymateb i'r penderfyniad cynllunio dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym yn nodi penderfyniad yr Arolygydd Cynllunio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2022