Chwilio am ddyn wedi honiad o ymosodiad rhyw ar drên

  • Cyhoeddwyd
Dyn y mae'r heddlu'n awyddus i'w holiFfynhonnell y llun, Heddlu Trafnidiaeth Prydain
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn awyddus i siarad gyda'r dyn yma mewn cysylltiad â'r digwyddiad

Mae'r heddlu wedi rhyddhau llun o ddyn y maen nhw'n chwilio amdano mewn cysylltiad â honiad o ymosodiad rhyw "estynedig" ar drên.

Roedd merch yn ei harddegau yn teithio ar y trên o Lanymddyfri i Lanelli brynhawn Sadwrn, 26 Mawrth.

Eisteddodd ar sedd gyda bwrdd, lle mae'n honni iddi ddioddef ymosodiad rhyw.

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn credu bod gan y dyn yn y llun uchod wybodaeth allai eu helpu gyda'u hymchwiliad.

Maent yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu trwy anfon neges testun i'r rhif 61016 neu drwy ffonio 0800 40 50 40.

Dydd Iau, dywedodd yr heddlu bod dyn wedi ei ganfod mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ac nad oedden nhw'n chwilio am unrhyw un arall.

Pynciau cysylltiedig