'Rwy'n ddall mewn un llygad ar ôl colli apwyntiadau pandemig'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 80 oed o Gaerdydd yn dweud ei bod wedi colli golwg mewn un llygad ar ôl i'w hapwyntiadau rheolaidd gael eu canslo yn ystod pandemig Covid-19.
Mae Janet Harris yn dweud iddi fynychu tri apwyntiad i fonitro pwysedd ei llygaid yn uned llygaid Ysbyty Athrofaol Cymru, hefyd wedi'i leoli yn y brifddinas, yn 2019.
Ond mae'n dweud na chafodd apwyntiad arall tan fis Rhagfyr 2021, ar ôl iddi hysbysu'r uned llygaid am y newid yng nghyflwr ei golwg.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei fod wedi gweithio i sicrhau bod cleifion "yn derbyn y lefel briodol o ofal sydd ei angen ar gyfer eu cyflwr."
'Ddes i allan yn crio'
"Mae'n ofnadwy meddwl y gallan nhw fod wedi achub fy ngolwg," meddai Mrs Harris.
"Rhoddais fy llaw dros fy llygad chwith a sylweddoli na allwn weld dim".
Yn dilyn profion yn yr ysbyty yr wythnos cyn y Nadolig, dywedodd Mrs Harris fod y bwrdd iechyd wedi "cadarnhau'r hyn roeddwn i'n ei wybod yn barod, nad oeddwn i'n gallu gweld o fy llygad dde."
"Doeddwn i ddim yn gallu credu'r peth pan ddywedon nhw na allent wneud unrhyw beth i achub fy ngolwg. Ddes i allan yn crio".
Mae hi'n meddwl pe bai'r apwyntiadau wedi parhau yn ystod y pandemig, "byddent wedi ei weld yn gwaethygu a byddent wedi gallu gwneud rhywbeth".
Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr gan lawfeddyg llygaid ymgynghorol o Chwefror 2022 yn dweud: "Roedd yn ddrwg gen i weld eich bod wedi colli'r golwg yn y llygad dde ond yr un mor falch bod eich llygad chwith yn parhau i wneud yn dda".
Mae Mrs Harris, sydd wedi byw yn ardal Grangetown y ddinas ar hyd ei hoes, yn disgrifio 2021 fel "blwyddyn greulon".
Fe gollodd ei gŵr Kenneth, 81, ym mis Mawrth y llynedd wedi 59 mlynedd o briodas.
Ond ychwanegodd, "mae gen i bedwar o blant, 10 wyrion, naw gor-ŵyr, a dim ond un llygad! Mae'n rhaid i mi drio gwneud jôc am y peth".
Fodd bynnag, mae'n dweud ei bod yn dal i ddioddef "poen eithriadol" yng nghefn ei phen a bod colli golwg yn y llygad dde yn "gwneud bywyd yn anoddach".
'Gofal diogel ac effeithiol'
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bod apwyntiadau wedi gorfod cael eu gohirio yn sgil y pandemig.
"Er mwyn sicrhau y gallai ein timau barhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion yn ystod anterth y pandemig, ac yn unol â chanllawiau Covid-19, roedd rhai clinigau a thriniaethau wedi'u hamserlennu yn rhedeg ar lai o gapasiti, ac mewn rhai achosion roedd apwyntiadau cleifion yn cael eu gohirio.
"Rhoddwyd mesurau ar waith gan y bwrdd iechyd i gynnal parhad gofal gan gynnwys cynnig apwyntiadau rhithwir, gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr ym maes gofal sylfaenol i barhau â gwasanaethau hanfodol ac aildrefnu apwyntiadau ar gyfer dyddiad diweddarach.
"Buom yn gweithio ar y cyd â'n cleifion i sicrhau eu bod yn derbyn y lefel briodol o ofal oedd ei angen ar gyfer eu cyflwr, yn seiliedig ar angen."
Ychwanegodd y llefarydd y dylai unrhyw un sy'n teimlo dirywiad yng nghyflwr eu llygaid i gysylltu â'u bwrdd iechyd.
"Mae'n ddrwg gennym glywed bod Mrs Harris yn teimlo nad yw wedi derbyn y gofal priodol a byddem yn ei chynghori i gysylltu â'n hadran bryderon os hoffai drafod hyn ymhellach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021