'2025 cyn i restrau aros ostwng i lai na blwyddyn'
- Cyhoeddwyd
Bydd hi'n 2025 cyn y bydd rhestrau aros ar gyfer salwch arbenigol yn gostwng i lai na blwyddyn, medd Llywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd mae dros 164,000 o gleifion yng Nghymru wedi bod yn aros am flwyddyn neu fwy am driniaeth - o'i gymharu â llai na 7,000 ddwy flynedd yn ôl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu cynlluniau i leihau y rhestrau aros - sydd wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y pandemig.
Bydd £60m ychwanegol yn cael ei roi i fyrddau iechyd dros y pedair blynedd nesaf, gan ddod â chyllideb adfer Covid y GIG i oddeutu £1bn.
Mae'r cynllun yn argymell y dylai oddeutu traean (35%) o apwyntiadau newydd y dyfodol fod yn rhithiol er mwyn rhyddhau amser clinigwyr.
Argymhellir hefyd y dylai hanner yr apwyntiadau sy'n dilyn yr un cyntaf fod yn rhithiol.
'Dwi ar waelod y rhestr'
Mae Sian Morris o Landudno yn disgwyl am lawdriniaeth carreg fustl (gall stones), ac mae wedi cael clywed y bydd yn gorfod aros am o leiaf flwyddyn.
Ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, eglurodd effaith y cyflwr: "'Dach chi'n gorfod gwylio be' ydach chi'n fwyta neu mae o'n gallu fflêrio i fyny.
"A pan mae o ar ei waethaf mae'n achosi i chi gael y poenau a bod rhaid i chi daflu i fyny. Mae o'n medru bod yn ddigon heriol."
Mae hi ar ddeall mai llawdriniaeth twll clo y bydd hi'n ei gael, fydd yn golygu y gallai fod adref o'r ysbyty yr un diwrnod.
"Dwi'n deall bod 'na lawdriniaethau llawer mwy pwysig na f'un i - dwi ar waelod y rhestr mae'n siŵr am bod 'na bethau eraill llawer mwy pwysig.
"Mae 'na brinder o feddygon a nyrsys ac maen nhw'n trio eu gorau, felly dwi'n deall bod 'na drafferth i gael y rhestrau i lawr."
Mewn ymateb i'r cyhoeddiad am ragor o arian i dargedu'r rhestrau aros, dywedodd ei fod o'n "newyddion ffantastig".
"Mi fydd hynna'n help i bawb a phopeth."
Mae cynllun adfer Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal wedi'i gynllunio yn dweud:
Erbyn diwedd 2022 fydd neb yn aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf - ar hyn o bryd mae 92,130 yn y sefyllfa honno;
Erbyn Mawrth 2023 fydd neb yn aros mwy na dwy flynedd - yn y rhan fwyaf o arbenigeddau;
Erbyn gwanwyn 2024 bydd cynnydd i gyflymder profion diagnostig ar gyfer therapïau;
Erbyn 2026 bydd 80% o gleifion yn cael diagnosis a thriniaeth canser o fewn 62 diwrnod - nid yw'r targed presennol o 75% erioed wedi'i gyrraedd ac mae'n 59.5% ar hyn o bryd.
Mae gofal wedi'i gynllunio (elective care) yn cwmpasu'r holl wasanaethau lle caiff cleifion eu hatgyfeirio ar gyfer gwasanaethau neu driniaethau ychwanegol - boed yn gleifion allanol, deintyddol, optometreg, iechyd meddwl neu lawdriniaeth.
Dywed y cynllun adfer, yn ogystal â bron i 700,000 o bobl ar restrau aros, bod tua 500,000 o atgyfeiriadau heb eu derbyn mewn gwasanaethau gofal eilaidd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
O ganlyniad, "nid ydym yn meddwl y bydd y rhestr aros yn dechrau sefydlogi am y naw i 12 mis nesaf, efallai yn hirach".
Yn ogystal â chynyddu capasiti, mae'r cynllun hefyd yn nodi addewidion i roi gwell gwybodaeth i gleifion sy'n aros, yn ogystal â chefnogaeth a ffocws ar "y rhai sydd â'r angen clinigol mwyaf".
'Mor gyflym â ni'n gallu'
Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth am dargedau ychwanegol brynhawn Mawrth, yn cydnabod y gallant fod yn heriol mewn rhai meysydd.
"Mae na ambell i le, lle falle gewn ni drafferth o ran arbenigrwydd a'r bobl sydd angen arnon ni i wneud yr operations," meddai.
"Efallai orthopaedics - hwnna sy'n poeni fi fwy na dim o ran y targedau yma.
"Ond mi fyddwn ni'n mynd mor bell â ni'n gallu mor gyflym â ni'n gallu, hyd yn oed yn y maes hwnne hefyd."
Mae disgwyl i'r cynlluniau argymell cynnal mwy o brofion diagnostig mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol yn hytrach nag ysbytai traddodiadol.
Bydd dwy ganolfan ddiagnostig gymunedol yn cael eu datblygu eleni ac mae cynlluniau ar gyfer mwy erbyn diwedd tymor presennol y Senedd.
"Bydd lleihau amseroedd aros yn gofyn am atebion newydd, mwy o gyfarpar, cyfleusterau newydd a mwy o staff i helpu i roi diagnosis cyflym i bobl fel rhan o wasanaeth gofal a gynlluniwyd i fod yn effeithiol ac yn effeithlon," medd Ms Morgan.
"Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn trawsnewid gofal a gynlluniwyd fel bod yr achosion â'r mwyaf o frys yn cael blaenoriaeth."
'Dyma ein ffocws'
Ychwanegodd: "Er y bydd yn cymryd amser hir a llawer o waith caled, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n Gwasanaeth Iechyd ardderchog i sicrhau na fydd neb yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025.
"Yn ogystal â lleihau amseroedd aros, rydyn ni hefyd eisiau helpu pobl i ddeall a rheoli eu cyflyrau ac i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt aros am driniaeth.
"Mae hon yn dasg fawr - ond dyna ein ffocws am weddill y tymor hwn."
Ar hyn o bryd, mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn adeiladu dwy theatr newydd yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli er mwyn cynnal llawdriniaethau arbenigol.
Yn ôl Ken Harris, cyfarwyddwr clinigol ar gyfer gofal wedi'i gynllunio ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, mae'r pandemig wedi achosi cynnydd mawr yn y nifer sy'n aros am driniaeth.
"Gall tua 75% o gleifion sy'n aros am lawdriniaeth gael triniaethau yn y theatrau llawdriniaethau dydd arbenigol," meddai.
"Bydd llawdriniaethau cyffredinol fel hernia, triniaethau wrolegol a gynaecolegol yn gallu cael eu cynnal yno ynghyd â rhai llawdriniaethau orthopedig."
'Bydd rhai yn marw tra'n aros'
Mae Owain Ennis, ymgynghorwr orthopedig ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, yn dweud fod gorfod aros yn hir am driniaeth yn cael effaith ehangach ar gleifion.
"'Dyw e ddim am biti'r poen.
"Mae am yr effaith mae'n cael ar eu teulu, just o ran eu quality of life, dyw e just ddim 'na.
"Ac mae miloedd ar filoedd ohonyn nhw i gael ar y funud yn aros a dwi just yn teimlo'n drist.
"Dwi'n siarad gyda nhw bob dydd ac mae mor anodd gallu rhoi unrhyw ateb sy'n mynd i roi gobaith iddyn nhw bod nhw'n mynd i cael y driniaeth amserol sy'n mynd i wneud gwahaniaeth iddyn nhw.
"Bydd lot o gleifion, yn anffodus, maen nhw'n mynd i farw yn aros, oherwydd henaint hefyd."
Mae Mr Ennis yn teimlo fod cyfleusterau fel y rhai yn Ysbyty'r Tywysog Philip i'w croesawu, ond bod angen i'r llywodraeth fynd i'r afael â'r heriau yn well.
"Mae staffio yn broblem fawr," ychwanegodd.
"Mae shwd gymaint o swyddi gwag 'da ni yn yr NHS - 'na beth ry'n ni'n ffindio nawr.
"Hyd yn oed gydag emergency admissions yn dod mewn... weithiau does dim digon o staff i edrych ar ôl rheina ac mae eisiau real cynllun mawr gan Lywodraeth Cymru, a llywodraeth Lloegr hefyd, o ran shwt ry'n ni'n mynd i lenwi'r swyddi 'ma i gyd oherwydd dyw e ddim just fel tap ti'n troi arno.
"Mae'n rhaid meddwl amdano fo ryw bum neu ddeg mlynedd o flaen llaw.
"Felly ar y funud mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod y cyfleusterau 'da ni wrth gwrs, ond pobl hefyd i weithio yn y cyfleusterau 'ma. Dyw e ddim just amdan llawfeddygon, mae am biti pob part o'r system o ran swyddi sydd eisiau."
Beth ydy ymateb y gwrthbleidiau?
Ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd yr AS Ceidwadol Samuel Kurtz, fod ei blaid yn siomedig gyda'r cyhoeddiad.
"Gall hwn fod yn fwy uchelgeisiol. Ni'n credu nid problem ariannol yw hwn ond problem sydd wedi bod ers blynydde.
"Roedd y sefyllfa'n un wael cyn y pandemig ond mae'r pandemig wedi gwneud sefyllfa wael yn waeth."
Nid oedd sylwadau'r gweinidog iechyd ynglŷn â thriniaethau orthopedig yn mynd i roi llawer o obaith i gleifion, meddai.
Yn ôl AS Plaid Cymru, Delyth Jewell, roedd angen mwy o fanylder yn y cynllun er mwyn taclo pob agwedd o "siwrnai'r claf", a dylai fod yn edrych ar fesurau fydd eu hangen er mwyn osgoi problemau iechyd rhag datblygu yn y lle cyntaf.
"Mae'r llywodraeth yn sôn bod hyn mewn ymateb i'r pandemig ond roedd problemau hirdymor yn y gwasanaeth iechyd cyn hynny.
"Mae angen mwy o gynllun ar gyfer mynd i'r afael gydag anghydraddoldebau iechyd fydd yn osgoi cymaint o bobl rhag gorfod aros am driniaeth yn y lle cyntaf.
"Mae angen mwy o fanylder ar pa fath o gyfnodau sy'n cael eu rhoi i bobl sydd wedi bod yn aros am fwy na blwyddyn yn barod ar gyfer triniaeth a falle yn gorfod aros tair blynedd i ddod.
"Sut maen nhw'n mynd i gael eu cofnodi, a pa update fydd yn cael ei roi iddyn nhw? Achos bydden nhw dan straen anferthol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd20 Mai 2021