Cwpan Cymru: Penybont 2-3 Y Seintiau Newydd

  • Cyhoeddwyd
Jordan Williams celebrates after scoring for New SaintsFfynhonnell y llun, FAW/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Man-of-the-match Jordan Williams scored 15 goals in The New Saints' title-winning campaign

Y Seintiau Newydd sy'n codi Cwpan Cymru unwaith eto wedi iddyn drechu Penybont yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Unochrog oedd yr hanner cyntaf wrth i'r Seintiau Newydd reoli'r gêm gan rwystro ymosodiadau chwim Penybont a bygwth eu gôl yn gyson.

Wedi hanner awr cafwyd mellten o ergyd gan Jordan Williams ymhell o du allan y cwrt cosbi gan lanio yng nghongl rhwyd Penybont.

Ymhen dwy funud yr oedd Williams yn dathlu unwaith eto - roedd Ashley Morris yn gôl Penybont wedi dyrnu'r bêl er mwyn rheoli croesiad - glaniodd y bêl wrth draed Williams ac fe'i cyfeiriodd i'r rhwyd.

Roedd deiliaid y cwpan ddwy gôl ar y blaen pan ddaeth yr egwyl.

Roedd mwy o dân yn chwarae Penybont yn yr ail hanner, ond roedd y Seintiau Newydd yn dal i reoli'r chwarae.

Gyda bron i awr ar y cloc, daeth Morris allan i herio Declan McManus ar ymyl y blwch cosbi, gan ei dynnu i lawr. Roedd hi'n gic o'r smotyn a rhwydodd McManus gan roi'r Seintiau dair gôl ar y blaen.

Roedd na bum munud ar ôl o'r gêm pan sgoriodd Shaun MacDonald o Benybont gydag ergyd rymus o ymyl y cwrt cosbi .

Yna yn y munud olaf fe ddaeth ail gôl i Benybont - o gic gornel fe gododd Dan Jefferies yn uwch na phawb a phenio heibio Connor Roberts yn y gôl.

Roedd pedair munud o amser ychwanegol a Phenybont yn gwthio pawb i hanner y Seintiau Newydd, ac er fod Penybont yn credu eu bod wedi cael cic o'r smotyn chwibanu bod hi'n ddiwedd y gêm oedd y dyfarnwr.

Ffynhonnell y llun, Trydar/@Sgorio

Cododd y Seintiau Newydd Gwpan Cymru unwaith eto a nhw sydd wedi cipio'r Bencampwriaeth eleni.

Roedd yna ddathlu yn Y Drenewydd hefyd gan fod y canlyniad yn golygu eu bod nhw wedi cael lle yn y gemau Ewropeaidd.

Pynciau cysylltiedig