Dau wedi'u cyhuddo o gynnau tân yn fwriadol

  • Cyhoeddwyd
ty llandudno
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y fflat ei difrodi gan dân nos Wener

Mae dau o bobl wedi cael eu cyhuddo o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd wedi tân mewn fflat.

Chafodd neb ei anafu yn y tân mewn fflat ar Rhodfa Afallon yng Nghyffordd Llandudno nos Wener.

Mae dau ddyn, 25 a 22 o ardal St Helens wedi cael eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa.

Bydd y ddau yn mynd ger bron llys ynadon fore Llun.

Mae dynes, 25, wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.