'Trychineb ym Mhenmaenmawr': Stori Violet Charlesworth

  • Cyhoeddwyd
Violet CharlesworthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Violet Charlesworth

O lyfrau i bodlediadau i ddramâu teledu a rhaglenni dogfen, mae hanesion gwir drosedd neu 'true crime' yn hawlio lle amlwg yn y cyfryngau a'n diwylliant poblogaidd ond tydi'r diddordeb yma mewn trosedd ddim yn arfer newydd o bell ffordd.

Wrth fodio trwy dudalennau hen bapurau newydd Cymru mae erthyglau sy'n edrych ar drosedd yn ennill lle amlwg. Roedd Cymry oes Fictoria yn awchu am sgandal ac fe'u bodlonwyd - yn rhannol - trwy adroddiadau niferus y Wasg.

Mae Papur Ddoe, cyfres newydd ar BBC Radio Cymru, yn defnyddio pytiau o hen bapurau newydd er mwyn taflu goleuni ar rai o droseddau a dirgelion tywyll Cymru.

Yma, mae'r cynhyrchydd a'r cyflwynydd, Elin Tomos, yn edrych ar hanes 'diflaniad' Violet Charlesworth - un o'r straeon sy'n ymddangos yn y gyfres newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Elin Tomos

Ar noson oer ym mis Ionawr 1909, darganfuwyd car drud yn hongian dros ymyl y morglawdd ar gyrion Penmaenmawr, rhyw chwe deg troedfedd uwchben y môr. Roedd gwydr ffenestr flaen y car wedi'i chwalu'n llwyr.

Perchennog y car moethus oedd Violet Charlesworth, merch ifanc bedair-ar-hugain mlwydd oed. Y diwrnod hwnnw, roedd Violet a'i chwaer fawr Lillian wedi teithio o'u cartref yn Llanelwy ar gyfer te prynhawn ym Mangor.

Wrth ddychwelyd adref, ar gyrion Penmaenmawr mewn man o'r enw 'Bawd y Cythraul' mae'n debyg bod Violet wedi colli rheolaeth ar y car. Gwyrodd yn sydyn i'r chwith gan ddymchwel darn o'r wal i lawr ac aeth y cerbyd trwy'r bwlch. Taflwyd Violet o'i sedd tu ôl i'r olwyn; aeth trwy wydr ffrynt y car a thros y dibyn gan ddisgyn i'r môr islaw.

'Dim golwg o'i chorff'

Wedi'r ddamwain, rhedodd Lillian Charlesworth, y chwaer hynaf, i Benmaenmawr. Yno, dywedodd wrth y trigolion lleol am y ddamwain gan egluro bod Violet wedi syrthio i'r môr. Ar ôl clywed y newyddion, aeth criw allan i chwilio amdani ar unwaith. Ger safle'r ddamwain, daethpwyd o hyd i het a llyfr nodiadau a oedd yn perthyn i Violet, ond doedd dim golwg o'i chorff. Dechreuodd yr awdurdodau ofni'r gwaethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Violet Charlesworth a'i char

Wrth i'r dyddiau fynd heibio, ac er i fam Violet gynnig gwobr o £20 i unrhyw un a allai ddod o hyd i gorff ei merch, ofer fu'r chwilio. Yn dilyn y digwyddiad trasig, roedd papurau newydd Cymru yn llawn erthyglau hirfaith a galarus yn adrodd hanes y 'trychineb ym Mhenmaenmawr.'

Ond yn raddol, newidiodd natur yr erthyglau yn gyfan gwbl. Roedd y llanw allan pan ddigwyddodd y ddamwain ac fe ddechreuodd yr awdurdodau - a'r wasg - gwestiynu pam nad oedd y chwilwyr wedi llwyddo i ddod o hyd i gorff Violet. Tybed a oedd rhyw ddrwg yn y caws yn rhywle?

Gan fod yr awdurdodau wedi methu â dod o hyd i gorff Violet yn y môr, fe ddechreuon nhw chwilio ar y tir mawr. Mewn byr o amser daeth hanes 'diflaniad' Violet yn stori enfawr ar draws y byd gyda chyfres o erthyglau yn cael eu cyhoeddi yn The New York Times, hyd yn oed!

Fe argraffwyd nifer o gardiau post hefyd yn dwyn yr enw Violet's Leap ac yn cynnwys ffotograffau o'r car a'r llecyn lle digwyddodd y ddamwain honedig.

Dechreuodd pobl ar draws gwledydd Prydain honni eu bod wedi gweld Violet yn fyw ac yn iach, ond dim ond un honiad a brofodd i fod yn wir. Diolch i lygaid craff trigolion Oban yn yr Alban daethpwyd o hyd i Violet mewn gwesty yno.

Bywyd moethus

Roedd Violet wedi ceisio ffugio ei marwolaeth ei hun. Ers blynyddoedd, roedd Violet wedi honni ei bod yn aeres gyfoethog a'i bod am etifeddu £200,000 ar ei phen-blwydd yn bump ar hugain, swm sy'n cyfateb ag oddeutu £15.5 miliwn yn ein harian ni heddiw!

Trwy'r celwydd hwn, llwyddodd Violet i fyw bywyd moethus, yn aros mewn gwestai drud ac yn prynu ceir a dillad crand. Mae'n debyg ei bod yn gwario tua £4,000 bob blwyddyn, heb unrhyw fodd o'i dalu'n ôl. Wrth i'w phen-blwydd agosáu, dyfeisiodd Violet a'i mam, Miriam, stori fawr y ddamwain ond fe fethodd eu cynllun yn llwyr.

Ym mis Chwefror 1910, yn dilyn achos ym Mrawdlys Swydd Derby, cafwyd Violet a'i mam Miriam yn euog o gynllwynio a thwyll. Dedfrydwyd y ddwy i bum mlynedd o garchar. Wrth glywed y ddedfryd llewygodd Miriam, ond mae'n debyg y gadawodd Violet y Llys gan wenu.

Yn ôl manylion Cyfrifiad 1911, roedd Violet a Miriam Charlesworth mewn carchar i ferched yn Aylesbury. Ychydig iawn a wyddom am fywyd Violet yn dilyn ei chyfnod yn y carchar. Ar un olwg, mae'r dirgelwch yn ei chylch yn parhau...

Pynciau cysylltiedig