Beth yw arwyddocâd Ramadan ac Hari Raya?
- Cyhoeddwyd
Yn wreiddiol o Brunei yn ne-ddwyrain Asia mae E'zzati Ariffin wedi ymgartrefu yng Ngorslas ger Llanelli ers rhai blynyddoedd.
Mae E'zzati yn Fwslim, ac ynghŷd ag 1.9 biliwn o'i chyd-Fwslemiaid ledled y byd, mae hi newydd fod yn dathlu gŵyl Ramadan. Yn syth ar ôl Ramadan mae'r ŵyl Hari Raya Aidilfitri (Eid al-Fitr yn Arabeg).
Ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, roedd E'zzati'n esbonio beth mae cyfnodau Ramadan a Hari Raya yn eu golygu.
Dechreuodd drwy esbonio pa mor bwysig yw Ramadan o fewn Islam:
"Mae'n bwysig iawn achos dyna pryd mae pobl yn edrych ar ôl eu hunain ac i fod yn agosach i Allah (Duw)."
Ymprydio yw prif elfen y mis ond mae sylw hefyd i hunan-wella, myfyrio a rhoi i'r llai ffodus.
"Mae pobl yn dysgu sut beth yw hi i fod heb fwyd na dŵr - mae'n amser i adlewyrchu ac i ganolbwyntio ar Dduw a phobl eraill," meddai E'zzati.
Ymprydio
"Ti'n dihuno cyn bo'r haul mas, tua 4.30 y bore a 'da chi'n cael bwyd," esboniai E'zzati. "Ti'n beni ymprydio pan mae'r haul yn dod lawr, felly tua naw o'r gloch ti'n cael bwyd a dŵr."
Pan ddaw Ramadan i ben mae cyfnod o ddathlu'n dechrau.
"Y digwyddiad nesa wedi Ramadan yw Hari Raya Aidilfitri fel mae'n cael ei alw ym Mrunei, neu Eid al-Fitr yn Arabeg.
"Ti'n gallu cael bwyd yn ystod y dydd wedi'r ŵyl, ac mae'r ŵyl ei hun fel y Nadolig - yn ddathliad gyda theulu a ffrindiau."
"Yn Brunei mae pobl yn gwisgo dillad smart yn ystod Hari Raya; y dynion yn gwisgo Baju Melayu a'r menywod yn gwisgo Baju Kurung.
"Ambell waith mae rhai teuluoedd yn gwisgo un lliw mewn rhyw fath o convoy, a theuluoedd eraill yn gwisgo lliw arall."
Ymweld â'r Palas Brenhinol
"Fel arfer ym Mrunei mae'r dathliadau (Hari Raya) yn para am fis - mae mis ar gyfer Ramadan a bod heb fwyd a diod, ac yna rydyn ni'n cael popeth a mwynhau yn ystod Hari Raya."
Yn ystod Hari Raya mae teulu brenhinol Brunei yn agor drysau Palas y Sultan i'r boblogaeth gyffredin.
"Fel arfer maen nhw ar agor am bum diwrnod ac mae cyfle i bobl ymweld a chwrdd y teulu brenhinol a chael gwledd."
E'zzati'n symud i Gymru
Addysg oedd y rheswm gwreiddiol i E'zzati symud i Gymru, ond wedi iddi ddisgyn mewn cariad mae wedi aros yma gan ddysgu Cymraeg yn rhugl.
"Roeddwn i'n astudio cyfrifeg a chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2013, ac yna graddio yn 2015. Ym Mhrifysgol Aberystwyth 'nes i gwrdd â fy ngŵr - mi wnes i a Rhodri briodi yn 2017, ac yna mi 'nes i ddechrau dysgu Cymraeg o ddifri.
"Mae gennym ni fab pedair oed o'r enw Idris, sydd yn enw Cymraeg ac Arabaidd - roedd fy rhieni a'n nheulu i yn Brunei yn hapus iawn efo hynny!"
Oherwydd y pandemig dydi E'zzati heb gael cyfle i fynd nôl i weld ei theulu ers tipyn o amser, ond mae hynny ar fin newid.
"Dwi'n mynd i Frunei yn fuan (ar gyfer Hari Raya) am y tro cyntaf ers pum mlynedd! Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn!"
Hefyd o ddiddordeb: