Dros 1,100 o ffoaduriaid Wcráin wedi cyrraedd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Teulu yn ffoi o WcrainFfynhonnell y llun, REUTERS/Bernadett Szabo
Disgrifiad o’r llun,

Mae 1,126 o ffoaduriaid wedi cyrraedd Cymru fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin

Mae pobl o Gymru wedi agor eu cartrefi i dros 1,100 o ffoaduriaid o Wcráin, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae ystadegau'r Swyddfa Gartref yn dangos bod 1,126 o ffoaduriaid wedi cyrraedd Cymru fel rhan o'r cynllun Cartrefi i Wcráin.

Mae cyfanswm o 3,338 o fisas wedi'u darparu i ffoaduriaid o'r wlad sy'n ceisio cyrraedd Cymru.

Golyga bod 34% o'r bobl sydd wedi derbyn fisas wedi cyrraedd Cymru bellach.

Cadarnhaodd ffigyrau'r Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau hefyd bod 37,500 o fisas wedi'u cyhoeddi ledled Prydain.