Blocio garej Land Rover mewn ffrae dros drwsio car

  • Cyhoeddwyd
Range RoverFfynhonnell y llun, Mike Cox
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mike Cox bod yna broblem yn wreiddiol gyda'r oerydd ond bod angen injan newydd gyfan erbyn hyn

Mae dyn busnes sydd wedi blocio safle gwerthu cerbydau Land Rover mewn protest dros broblemau gyda'i gar wedi cael gorchymyn llys i symud.

Fe barciodd Mike Cox, 36, nifer o gerbydau, gan gynnwys carafán a char McLaren, tu allan i'r safle yng Nghaerdydd, gan honni bod y cwmni "wedi methu trwsio" ei gar.

Mae'n dweud ei fod wedi mynd â'i Range Rover yn ôl i'r modurdy wyth o weithiau oherwydd trafferthion gyda'r system oeri, ond eu bod heb eu datrys.

Dywed Land Rover eu bod yn ymchwilio i'r achos. Doedd rheolwyr y ddelwriaeth yng Nghaerdydd ddim yn dymuno gwneud sylw.

'Dwi ddim yn mynd i ddiflannu'

Mae Mr Cox wedi cael gorchymyn i symud y cerbydau erbyn dydd Sadwrn, dair wythnos wedi iddo eu parcio tu allan i'r safle yn Heol Hadfield.

Ond fe ddywedodd wrth BBC Radio Wales: "Mi wna'i eu symud nhw i un o'r 74 dealership arall felly, neu'r pencadlys.

"Rwy' eisiau iddyn nhw gael y neges bo' fi ddim yn mynd i ddiflannu. Bydd gyda nhw 74 o gerbydau tu allan i'w modurdai ac un tu allan i'w pencadlys. Mae'r hyn maen nhw'n ei wneud yn anghywir."

Ffynhonnell y llun, Mike Cox
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerbydau'n atal mynediad i'r ddelwriaeth Land Rover yn Heol Hadfield

Prynodd Mr Cox ei Range Rover, oedd bron yn newydd, bedair blynedd yn ôl, ac mae'n dweud ei fod wedi torri i lawr nifer o weithiau yn sgil trafferthion y system oeri.

"Yr un broblem ydy e o hyd, a dyw e heb gael ei drwsio'n iawn," meddai. "Rwy' wedi bod yn ôl a 'mlaen tua wyth gwaith nawr a dydyn nhw heb ei drwsio."

Mewn tair blynedd mae wedi teithio 12,000 o filltiroedd. 30,000 oedd ar y cloc pan brynodd y cerbyd, sydd wedi cael ei drin ers hynny ym modurdai Land Rover yn Abertawe a Chaerdydd.

"Yr un yw'r broblem ac rwy' jest eisiau iddyn nhw drwsio'r car," meddai Mr Cox.

'Mae'n jôc'

Dywed Mr Cox ei fod wedi talu £2,500 chwe wythnos yn ôl am warantiad estynedig - y "pecyn gorau" sy'n "rhoi sicrwydd ynghylch pob achos posib".

Ond mae'n honni bod y cwmni'n gwrthod talu am fod y gwarantiad yn rhy hen.

Ffynhonnell y llun, Mike Cox
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mike Cox bod y broblem wedi codi'n wreiddiol fis Mawrth y llynedd

"Mae'n anghywir," meddai. "Pam wnaethon nhw gymryd fy arian a defnyddio hynny nawr fel esgus?

"Mae'n jôc. Dydw i ddim am ildio pan rwy' heb wneud dim o'i le.

"Rwy'n protestio dros yr egwyddor. Mi alla'i fforddio fe, ond beth am bobl eraill - fydden nhw mewn sefyllfa ddifrifol."

Dywedodd llefarydd ar ran Land Rover bod y cwmni "wastad yn anelu at roi'r gwasanaeth cwsmer gorau".

Ychwanegodd: "Rydym yn ymchwilio i'r achos yma ac mewn cysylltiad cyson gyda'r cwsmer dan sylw."

Pynciau cysylltiedig