Rhybudd am stormydd mellt a tharanau i rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y gallai stormydd mellt a tharanau effeithio ar sawl rhan o Gymru ddydd Llun.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai'r stormydd gwasgaredig effeithio ar amodau gyrru, amseroedd trenau a chyflenwadau trydan i gartrefi a busnesau am gyfnod byr.
Gallai hyd at 20mm o law ddisgyn mewn mannau ac mae disgwyl cyfnodau o gesair a mellt.
Daeth y rhybudd melyn i rym am 13:00 ac mae'n para nes 22:00.
Mae 15 o siroedd Cymru'n cael eu rhybuddio:
Blaenau Gwent
Caerffili
Ceredigion
Conwy
Fflint
Gwynedd
Merthyr Tudful
Mynwy
Powys
Rhondda Cynon Taf
Sir Gaerfyrddin
Sir Ddinbych
Torfaen
Wrecsam
Ynys Môn