Costau byw yn bygwth dyfodol gwyliau cerddorol
- Cyhoeddwyd
Wrth i dymor y gwyliau cerddorol ddechrau wedi dwy flynedd dan gysgod Covid, mae trefnwyr yn dweud bod heriau'r argyfwng costau byw yn cael effaith arnyn nhw.
Wrth i wyliau Tregaroc yn Nhregaron a Gŵyl Fach y Fro ar Ynys y Barri ddigwydd ddydd Sadwrn, mae'r ddwy ŵyl yn dweud bod y gost o gynnal eu digwyddiadau wedi cynyddu.
Mae un cwmni diogelwch a rheoli digwyddiadau yn rhybuddio y gallai nifer o ddigwyddiadau ddod i ben erbyn haf nesaf os bydd y sefyllfa'n parhau.
Angen 'hyblygrwydd' i wario grantiau
"Mae'r costau seilwaith wedi cynyddu yn reit sylweddol ac mae e'n ganran fawr o gost unrhyw ŵyl erbyn hyn," meddai Heulyn Rees, prif weithredwr Menter Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae'r ddwy fenter iaith yn trefnu Tafwyl yng Nghaerdydd a Gŵyl Fach y Fro ar Ynys y Barri, sy'n ddibynnol ar grantiau er mwyn cynnig mynediad am ddim i bawb.
"Ers i ni fod yn rhedeg gŵyl o'r natur yma 'nôl yn 2019, ry'n ni'n sôn am gostau o ryw 20% yn fwy ar bethau fel tai bach a ffensys, strwythurau ac adeiladwaith cyffredinol.
"Felly mae hwnna yn ei hunan yn achosi tipyn o her."
Ychwanegodd "Ni'n ffodus iawn i gael cefnogaeth gwahanol grantiau a ffynonellau nawdd.
"Un peth sy'n amlwg i ni fel trefnwyr yw, yn aml iawn mae e tipyn yn haws falle i gael grant ar gyfer prosiect celfyddydol, ar gyfer bandiau, ar gyfer yr ochr artistig.
"Does neb eisiau cael eu gweld yn noddi tai bach, neu yn noddi generator neu noddi ffens ac yn y blaen. Felly mae hwnna'n dipyn yn anoddach arian i ffeindio.
"Y gwir amdani yw dyw'r gwyliau yma ddim yn gallu digwydd heb fod y seilwaith yna i'n cefnogi ni.
"Yr hyblygrwydd 'na yn y dyfodol - byddai'n dda i'w gael fel bod ni'n gallu defnyddio'r arian ar seilwaith hefyd achos mae'r ddau beth yn ddibynnol ar ei gilydd, yr ochr artistig a'r seilwaith.
"Does naill yn gallu bodoli heb y llall."
Codi pris tocynnau
Wrth i Dregaron osod y llwyfan ar gyfer croesawu gŵyl Tregaroc, sydd wedi gwerthu pob tocyn, mae'r pwyllgor trefnu wedi wynebu heriau eleni, er yn canmol cefnogaeth leol.
"Ni 'di bod yn ffodus bod ni'n defnyddio lot o gwmnïau lleol a ni'n ffodus iawn bod nhw wedi dod ati i gefnogi ni unwaith eto," meddai Deina Hockenhull.
"Oes mae costau wedi mynd lan, mae'n tocynnau ni wedi mynd i fyny mewn pris eleni, ond mae hynny i ni sicrhau bod yr ŵyl yn gynaliadwy er mwyn sicrhau dyfodol i'r ŵyl.
"Mae pobl falle ddim yn sylweddoli'r holl bethau sy'n mynd mewn i drefnu gŵyl. Mae 'na barriers, mae'r marquees, mae'r arwyddion... generators, sain."
Costau'n bygwth digwyddiadau
Mae'r cynnydd mewn costau wedi taro digwyddiadau ledled Cymru ac mae rhybudd y bydd hi ar ben i lawer o wyliau bach erbyn y flwyddyn nesaf.
"Mae wedi mynd lan yn ofnadwy. Mae rhai pethe wedi dyblu a threblu," meddai Emlyn Jones o gwmni diogelu a rheoli digwyddiadau, Diogel.
"Mae sioe amaethyddol leol fan hyn nawr, ro'dd quote o £2,000 am marquee pan gathon nhw ei sioe ddiwethaf, a ma' nawr yn £6,000.
"Mae'n dod i'r pwynt lle fyddan nhw ddim yn gallu llogi hynna felly mae'n gostau dychrynllyd yn enwedig i'r pethau bach.
"Fydd lot o nhw'n meddwl a fyddan nhw gallu fforddio rhedeg sioe leol.
"Y drwg yw falle fydd pethau yn rhedeg am eleni, ond maen nhw'n godro'r fuwch a falle fyddan nhw'n 'neud arian mawr eleni, ond fydd y fuwch wedi marw erbyn blwyddyn nesa' a fydd dim digwyddiadau - fydd lot ohonyn nhw wedi gorffen."
Er y pryderon, mae llawer o wyliau yn teimlo'n obeithiol am haf prysur o ddigwyddiadau byw, wedi dwy flynedd dan gyfyngiadau Covid.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2022
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022