Cost disel cwmni wedi 'cynyddu 30% ers rhyfel Wcráin'

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mewn gorsaf yng Nghaerdydd ddydd Mercher, roedd pris disel yn 193.9c y litr

Gallai bil tanwydd dosbarthwr bwyd gynyddu i £2m y flwyddyn ar ôl i brisiau gynyddu yn sgil y rhyfel yn Wcráin.

Yn y mis diwethaf, mae costau disel cwmni Bwydydd Castell Howell wedi codi 30%. Mae gan y cwmni tua 150 o gerbydau sy'n gwasanaethu Cymru a gorllewin Lloegr.

Ers i Rwsia ymosod ar Wcráin mae cost tanwydd wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed.

Mae'r RAC wedi rhybuddio y gallai pris cyfartalog petrol di-blwm gyrraedd 160c y litr erbyn diwedd yr wythnos, tra gallai disel gyrraedd 165c.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Castell Howell wedi rhybuddio y gallai'r cynnydd mewn costau tanwydd effeithio ar brisiau bwyd

Mae rhai o werthwyr petrol Cymru, yn enwedig y tu allan i drefi a dinasoedd mawr, eisoes yn codi prisiau sy'n uwch na'r cyfartaledd.

Mewn blwyddyn arferol, mae cwmni Bwydydd Castell Howell yn gwario tua £1.2m ar danwydd ar gyfer eu cerbydau.

Ond dywedodd y cyfarwyddwr cyllid, Nigel Williams, fod y bil wedi codi'n aruthrol yn ystod yr wythnosau diwethaf.

"Yr hyn rydyn ni'n ei weld dros y mis diwethaf yw cynnydd o tua 30% yn y prisiau ry'n ni'n ei dalu. Dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd cynnydd o tua 60%.

"Felly mae hynny'n cyfateb i gynnydd blynyddol o tua £700,000," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfarwyddwr cyllid y cwmni, Nigel Williams, yn dweud y gallai eu prisiau tanwydd blynyddol godi i £2m

Os yw'r cynnydd mewn prisiau'n parhau ar yr un raddfa, mae'r cwmni'n wynebu cost tanwydd blynyddol "sy'n cynyddu'n agosach at £2 filiwn", a dywedodd Mr Williams fod hyn yn "her sylweddol" i'r busnes.

"Rydym yn cymryd yn ganiataol y bydd rhaid i ni fynd i'r afael â hyn ein hunain, trwy fod mor effeithlon â phosibl, gan basio cymaint o'r codiadau pris ymlaen, fel nad ydym yn cael ein gadael â cholledion," dywedodd.

"Rwy'n deall yr anhawster mae hyn yn creu i'n cwsmeriaid, gan eu bod nhw'n wynebu heriau tebyg.

"Yn y diwedd bydd rhaid i'r defnyddiwr terfynol dalu mwy am gynhyrchion."

Disgrifiad,

Dywedodd John Owen o goleg amaethyddol Gelli Aur bod cynhyrchwyr yn "cael ein bwrw dwywaith"

Mae'r farchnad olew a nwy wedi bod trwy "gyfnod aruthrol o ansefydlog" yn ôl yr arbenigwr ynni Dr Carol Bell.

"Mae wedi bod yn ansefydlog i un cyfeiriad, ac mae hynny wedi bod ar i fyny. Ac mae hynny wedi bod yn wir o ran olew a nwy," meddai.

Bydd y DU yn dod â'r defnydd o olew o Rwsia i ben yn raddol erbyn diwedd 2022, ond ni fydd yn torri'r cyflenwad nwy.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr arbenigwr ynni, Dr Carol Bell, mai dim ond gwaethygu y bydd lefelau chwyddiant yn sgil y rhyfel yn Wcráin

Dywedodd Dr Bell fod chwyddiant yn mynd i barhau i godi yn sgil y rhyfel yn Wcráin.

"Ro'n ni eisoes yn gweld prinder a phrisiau uchel iawn mewn nwy naturiol ac mewn ynni yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig," eglurodd.

"Mae hyn yn ychwanegu haen arall at hynny, ac mae'n golygu y bydd chwyddiant gyda ni yn hirach, ta beth sy'n digwydd yn Wcráin o hyn allan."

'Erioed wedi gweld cynnydd fel hyn'

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi erioed wedi gweld cynnydd costau fel hyn," medd Siôn Jones

Dywedodd Siôn Jones o orsaf Valley Services yn Llandysul mai dyma'r cynnydd uchaf mewn costau iddo erioed ei weld ers dechrau rhedeg y busnes tua 30 mlynedd yn ôl.

"Bydd y tancer [o danwydd] ei hunan yn costio £8,000 yn fwy i fi... ers dydd Mercher diwethaf," meddai.

"Ers 30 mlynedd o fod yma, dwi erioed wedi gweld cynnydd costau fel hyn."

Ychwanegodd Mr Jones fod y prisiau uchel wedi arwain at ymddygiad ymosodol gan ambell gwsmer.

"Ry'n ni wedi gofyn i rai pobl beidio galw eto oherwydd y cam-drin y mae rhai o'n staff wedi gorfod cymryd, sydd yn fy marn i, yn gwbl annerbyniol.

"Ond mae 'na bobl allan yna sy'n teimlo bod angen iddyn nhw gymryd hynny mas ar rywun."

Ar raglen Newyddion S4C nos Fercher dywedodd Enfys Wise, o Bopty Bach y Wlad, Pentre-cwrt: "Mae pris gwenith wedi mynd lan £40 y tunnell heddi, so wedyn ma'n ca'l effaith ar bris fflŵr os bydd digon o fflŵr i ga'l... achos day by day ma nhw'n mynd arno nawr.

"Gyda popeth yn mynd lan a ydi hi werth cario mla'n? Ydi pobl yn mynd i brynu ein cynnyrch ni achos ma' nhw fel luxury really - so ydyn nhw am fynd am bethe mwy chêp nawr achos bod popeth yn mynd lan?"

Pynciau cysylltiedig